- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r pumed Gorchymyn Cychwyn sydd wedi'i wneud o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“Deddf 2008”) ac sy'n dod â darpariaethau penodedig o Ddeddf 2008 i rym o ran Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 18 Mawrth 2011 fel y diwrnod y bydd adran 21 o Ddeddf 2008 yn cael ei rhoi mewn grym o ran Cymru i'r graddau nad ydyw eisoes wedi ei rhoi mewn grym gan Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1329 (Cy.112) (C.81)).
Mae is-adrannau (1) i (3) o adran 21 o Ddeddf 2008 yn diwygio adran 23C o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”). Mae Adran 21(2) yn mewnosod is-adrannau newydd (5A) i (5C), sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sydd:
yn pennu'r swm perthnasol (bwrsariaeth addysg uwch) sy'n daladwy gan awdurdod lleol o dan adran 23C(5A) o Ddeddf 1989;
yn pennu ystyr “addysg uwch” at ddibenion y fwrsariaeth addysg uwch;
yn gwneud darpariaeth o ran talu'r fwrsariaeth addysg uwch; ac
yn gwneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y gall awdurdod lleol adennill y fwrsariaeth addysg uwch.
Mae adran 21(4) yn mewnosod is-adran (2A) newydd i adran 776 o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Arall) 2005 (p.5). Mae'r is-adran newydd yn darparu nad oes unrhyw atebolrwydd i dreth incwm yn codi ar fwrsariaethau addysg uwch.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: