Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009,(“Rheoliadau 2009”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2009. Nodir graddau'r dirymu yn rheoliad 3. Amlygir isod y newidiadau o ran sylwedd a wneir yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio newidiadau yng nghyfraddau'r grantiau a'r benthyciadau).

I fod yn gymwys am gymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn “fyfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr amser-llawn cymwys os yw'r person hwnnw'n dod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a hefyd yn bodloni'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o'r Rheoliadau (mae darpariaethau cymhwystra ar wahân yn gymwys i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell, rhan-amser ac ôl-radd, a chyfeirir atynt yn Rhannau 11 i 13 o'r Rheoliadau).

Mae'r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn er mwyn ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion a bennir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig y gofynion penodol sy'n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

Ar gyfer cyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5, 73, 90, 116 ac Atodlen 2, yn unig, y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.

Mae'r gwahaniaeth (a gyflwynwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006) rhwng myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn wedi ei gadw yn y Rheoliadau hyn (rheoliad 2(1)).

Myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yw myfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006, myfyrwyr a gymerodd flwyddyn i ffwrdd ac sy'n dechrau ar gyrsiau cyn 1 Medi 2007 a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i'r amodau a ragnodir yn y rheoliadau perthnasol—

  • Grant at ffioedd (rheoliadau 16 i 18);

  • Benthyciad cyfrannu at ffioedd (rheoliad 21);

  • Grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 25);

  • Grantiau ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 26 i 31);

  • Grant at deithio (rheoliadau 32 i 35);

  • Grant addysg uwch (rheoliad 36); a

  • Benthyciadau at gostau byw (Rhan 6).

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys a ddechreuodd ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2011, neu sy'n dechrau ei gwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011, ac nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i'r amodau a ragnodir yn y rheoliadau perthnasol—

  • Grant newydd at ffioedd (rheoliad 19);

  • Benthyciad at ffioedd (rheoliadau 22 a 23);

  • Grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 25);

  • Grantiau ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 26 i 31);

  • Grant at deithio (rheoliadau 32 i 35);

  • Grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig (rheoliadau 37 i 44);

  • Benthyciadau at gostau byw (Rhan 6); a

  • Benthyciadau at ffioedd coleg (Atodlen 4).

Yr oedd Rheoliadau 2009 yn cyflwyno dau is-gategori newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef “myfyriwr carfan 2010” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010”. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno dau is-gategori ychwanegol newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef “myfyriwr carfan 2011” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011”. Myfyriwr carfan 2011 yw myfyriwr cymwys sy'n cychwyn y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011. Mae'r diffiniad o fyfyriwr carfan 2011 yn rheoliad 2(1) yn darparu nad yw myfyrwyr blwyddyn i ffwrdd 2011, nac ychwaith rhai myfyrwyr eraill, yn cael eu dosbarthu fel myfyrwyr carfan 2011. Yn rheoliad 2(1) hefyd, cyflwynir y term newydd “myfyriwr carfan newydd (“new cohort student”) sy'n disgrifio'r myfyrwyr carfan 2010 a'r myfyrwyr carfan 2011.

Yn ychwanegol, mae'r diffiniad o “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”) yn rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio er mwyn gwneud yn eglur bod myfyrwyr amser llawn sy'n gymwys i wneud cais am fwrsari gofal iechyd sy'n dibynnu ar brawf modd, neu lwfans gofal iechyd yr Alban sy'n dibynnu ar brawf modd, yn gymwys i gael cyfradd ostyngol o fenthyciad at gostau byw, pa un a ydynt yn cael bwrsari neu lwfans o'r fath ai peidio (cyfeirir at hyn hefyd yn rheoliadau 24(3)(a) a 59(g)).

Mae'r diffiniad o “blwyddyn Erasmus” (“Erasmus year”) wedi ei ddiwygio i gynnwys myfyrwyr ar gyfnod o leoliad gwaith mewn gweithle y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Gwnaed diwygiad cysylltiedig yn y diffiniad o “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yn rheoliad 2(6) er mwyn allgáu blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy'n flwyddyn Erasmus o'r diffiniad hwnnw.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chymhwystra. Diwygiwyd rheoliad 5(1)(b)(iii). Mae cyrsiau rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010 a chyrsiau a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 pan fo'r myfyriwr yn trosglwyddo o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010 (ymhlith eraill) yn gyrsiau dynodedig at ddibenion rheoliad 5.

Mae rheoliad 7 hefyd wedi ei ddiwygio. Yn gyffredinol, nid oes hawl gan fyfyriwr cymwys i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig. Mae rheoliad 7(5) bellach yn darparu ar gyfer yr eithriad canlynol: Gall myfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs sy'n arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer fod â hawl i gael benthyciad at gostau byw hyd yn oed os yw'r myfyriwr hwnnw eisoes wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r diffiniad o “aelod o deulu” (“family member”) ym mharagraff 1(1) o Ran 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau wedi ei ddiwygio. Mae'r diwygiad hwn yn amnewid is-baragraff (a)(ii) gan ddisodli'r cyfeiriad at “plentyn” gyda chyfeiriad at ddisgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person, sydd o dan 21 oed neu'n ddibynnol ar y person neu briod neu bartner sifil y person.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac y mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth at ffioedd, ar ffurf grantiau at ffioedd a benthyciadau at ffioedd. Darperir yn y Rheoliadau hyn nad oes hawl gan fyfyriwr carfan 2010 na myfyriwr carfan 2011 i gael grant newydd at ffioedd (rheoliad 19(6)). Mae rheoliad 22 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes hawl ganddynt i gael grant newydd at ffioedd. Mae myfyrwyr carfan 2010 a myfyrwyr carfan 2011 yn dod o fewn y categori hwnnw. Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd.

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw, sy'n cynnwys grantiau at deithio, i gategorïau penodol o fyfyrwyr cymwys. Diwygiwyd rheoliad 24(15) fel bod y categorïau o fyfyriwr cymwys a drinnir bellach fel pe baent yn bresennol ar gwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl ar gyfer rhai grantiau at gostau byw yn cynnwys myfyriwr ar gyfnod astudio neu gyfnod ar leoliad gwaith mewn blwyddyn Erasmus. Yn yr un modd, mae rheoliadau 32, 33(2) a 34(3) wedi eu diwygio i wneud yn eglur bod y grant at deithio ar gael i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â lleoliad gwaith dramor mewn blwyddyn Erasmus.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod swm y grant cynhaliaeth neu'r grant cymorth arbennig sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn amrywio yn ôl pa un a yw'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan 2010 nac yn fyfyriwr carfan 2011 (rheoliadau 38 a 42); yn fyfyriwr carfan 2010 (rheoliadau 39 a 43); neu'n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliadau 40 a 44). Uchafswm y grant cynhaliaeth neu'r grant cymorth arbennig sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2011, mewn perthynas â blwyddyn academaidd, yw £5,600 (gweler rheoliadau 40(1) a 44(1)).

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Mae benthyciadau o'r fath yn daladwy i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn ac i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd.

Diwygiwyd rheoliad 45(8) fel bod y categorïau o fyfyriwr cymwys a drinnir fel pe baent yn bresennol ar gwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl ar gyfer benthyciad at gostau byw bellach yn cynnwys myfyriwr ar gyfnod astudio neu gyfnod ar leoliad gwaith mewn blwyddyn Erasmus. Yn yr un modd, mae rheoliad 59(c) bellach yn darparu bod myfyriwr yng nghategori 3 at ddibenion benthyciad at gostau byw os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw'r myfyriwr ar leoliad gwaith tramor mewn blwyddyn Erasmus.

Gall swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd amrywio yn ôl pa un a yw'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan 2010 nac yn fyfyriwr carfan 2011 (rheoliad 48); yn fyfyriwr carfan 2010 (rheoliad 50); neu'n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliad 51).

Mae Rhan 7 yn nodi darpariaethau cyffredinol ynglŷn â benthyciadau a wneir o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd coleg”. Benthyciadau yw'r rhain mewn perthynas â'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i ddarparu ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau amser-llawn dynodedig. Cyfrifir y cyfraniad a fynnir gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae hawl gan y myfyriwr i'w cael. Mae paragraffau 5(3), (4) a (5) o Atodlen 5 wedi eu diwygio. Er mwyn penderfynu pa un a gyfrifir yr ail asesiad neu asesiad dilynol o incwm gweddilliol rhiant myfyriwr drwy gyfeirio at y flwyddyn ariannol gyfredol ai peidio, rhaid cymharu incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol honno ag incwm gweddilliol y rhiant hwnnw yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Gwnaed newid arall hefyd yn Atodlen 5, yn y dull o gyfrifo'r cyfraniad sydd i'w wneud gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy'n amrywio yn ôl pa un a yw'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan 2010 nac yn fyfyriwr carfan 2011; yn fyfyriwr carfan 2010; neu'n fyfyriwr carfan 2011 (gweler paragraff 9 o Atodlen 5).

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig.

Mae Rhan 12 ac Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser.

Mae Rhan 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Mae Rhan 14 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources