Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/05/2009.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 30
1. Mae'r Atodlen hon yn rhagnodi—
(a)y cyfnod pryd y caiff person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawliau yn unol â rheoliad 30 wneud cais am iawndal am ganiatáu'r hawliau hynny;
(b)y modd y caniateir i'r cais gael ei wneud, a'r person y caniateir i'r cais gael ei gyflwyno iddo; ac
(c)y modd o benderfynu'r iawndal, ar gyfer penderfynu swm yr iawndal ac ar gyfer gwneud darpariaeth atodol ynglŷn â'r iawndal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
2. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y mae hawl wedi'i ganiatáu ohono neu sy'n rhwym o dan hawl a ganiatawyd; ac
ystyr “y grantwr” (“the grantor”) yw'r person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawl.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
3. Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy'n dechrau—
(a)ar ddyddiad caniatáu'r hawliau yr hawlir iawndal amdanynt, neu
(b)pan fo apêl yn erbyn yr hysbysiad y caniatawyd yr hawliau hynny mewn perthynas ag ef, ar y dyddiad y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu'n ôl,
p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud mewn ysgrifen a'i draddodi yng nghyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person y rhoddwyd yr hawl iddo neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw.
(2) Rhaid i'r cais gynnwys—
(a)copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal amdano ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;
(b)disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal amdano; ac
(c)datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 5 a chan ddangos sut y cyfrifwyd y swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
5. Mae iawndal yn daladwy am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—
(a)unrhyw ddibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo ac sy'n ganlyniad i ganiatáu'r hawl;
(b)colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo—
(i)y gellir ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl honno;
(ii)nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw; a
(iii)sy'n golled neu'n ddifrod y byddai hawlogaeth wedi bod gan y grantwr i gael iawndal ar ffurf iawndal am aflonyddu amdani neu amdano, pe bai'r buddiant hwnnw wedi'i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf Caffael Tir 1981(1), yn unol â hysbysiad i drafod telerau a gyflwynwyd ar y dyddiad y rhoddwyd y grant o'r hawl;
(c)difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth i'w gael nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o grant yr hawl neu o arfer yr hawl;
(ch)unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwyd gan y grantwr, ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo, y gellir ei phriodoli neu ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl; a
(d)swm unrhyw brisiad a chostau cyfreithiol a dynnwyd yn rhesymol gan y grantwr wrth ganiatáu'r hawl ac wrth baratoi'r cais am iawndal ac wrth negodi swm yr iawndal.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
6.—(1) Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf Iawndal Tir 1961(2) (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwys ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.
(2) Pan fo'r buddiant perthnasol y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais—
(a)rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais;
(b)ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais); ac
(c)rhaid i unrhyw iawndal sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac, yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
7.—(1) Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.
(2) Mewn perthynas â phenderfynu unrhyw gwestiwn iawndal, bydd adrannau 2 a 4 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys—
(a)fel petai'r cyfeiriad yn adran 2 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (1) o'r paragraff hwn; a
(b)fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person y rhoddwyd yr hawliau iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: