- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007. Mae rhai o'r diwygiadau yn cywiro gwallau yng Nghynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) a welir yn yr Atodlen honno. Mae eraill yn cyflwyno darpariaethau newydd.
Ac eithrio fel a grybwyllir isod, mae'r Gorchymyn yn effeithiol o 1 Ebrill 2007, sef y dyddiad y daw'r Cynllun yn effeithiol. Rhoddir pŵer i roi effaith ôl-weithredol i'r Gorchymyn gan adran 34 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Mae'r diwygiadau a bennir ym mharagraffau 8(a) ac 8(c)(i) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cywiro croesgyfeiriadau.
Mae diwygiadau eraill, ac eithrio'r rhai a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d) a 9(a)(i) a (b)(i) a (iii) o'r Atodlen, yn cywiro gwallau, gan gynnwys gwallau drwy anwaith. Mae rhai o'r diwygiadau cywiro hynny wedi achosi mewnosod rheolau neu baragraffau newydd. Yn benodol—
mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(a) yn mewnosod paragraff (4) newydd yn rheol 2 o Ran 3 (dyfarndal yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd) i ddarparu ar gyfer cyfrifo dyfarndaliadau oherwydd afiechyd sy'n daladwy yn achos aelod-ddiffoddwr tân sydd â hawl i ddau bensiwn yn rhinwedd rheol 7 o'r Rhan honno;
mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(dd)(i) yn mewnosod paragraffau (8A) i (8C) newydd yn rheol 9 o Ran 3 (cymudo: cyffredinol) i ddarparu ar gyfer cymryd i ystyriaeth unrhyw gymudiad blaenorol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw bensiwn a chyfandaliad dilynol yn cael eu lleihau yn gyfatebol pan fo pensiwn afiechyd neu bensiwn gohiriedig a dalwyd yn gynnar yn cael ei derfynu o dan Ran 9;
mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 6(c) yn mewnosod rheol 6 newydd yn Rhan 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru) sy'n caniatáu talu grant marwolaeth fel cyfandaliad pan fo farw aelod sydd â chredyd pensiwn cyn y bo unrhyw fuddion o dan y Cynllun yn daladwy. Mae'r grant i'w dalu i gynrychiolwyr personol yr aelod ymadawedig.
Mae'r diwygiadau a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d) a 9(a)(i) a (b)(i) a (iii) o'r Atodlen yn adlewyrchu newidiadau polisi er pan gyflwynwyd y Cynllun. Mae'r rhai a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d), yn rhannol, a 9(b)(iii) yn effeithiol o 1 Ebrill 2007. Mae'r lleill yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2007.
Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(d) o'r Atodlen, i'r graddau y mae'n mewnosod rheol 7A newydd, a chymaint o'r rheol 7C newydd ag sy'n ymwneud â'r rheol 7A, yn Rhan 3 o'r Cynllun, yn ymwneud â therfynu, o ddiwedd Mehefin 2007 ymlaen, y cynyddiadau am wasanaeth hir a oedd yn daladwy i ddiffoddwyr tân gydag o leiaf 15 mlynedd o wasanaeth di-dor ar yr adeg honno. Roedd swm y cynyddiad, a oedd yn bensiynadwy, wedi ei rewi o 7 Tachwedd 2003 ymlaen ar gyfradd flynyddol o £990, ac yna wedi ei ostwng, o 1 Hydref 2006 ymlaen, i gyfradd flynyddol o £495 (gyda rhai taliadau interim a throsiannol). Effaith y diwygiad yw y bydd gan aelod-ddiffoddwr tân, a oedd â hawl i gynyddiad gwasanaeth hir (neu daliad digolledu interim neu drosiannol) mewn perthynas â chyfnod sy'n cynnwys 30 Mehefin 2007 ac sydd naill ai'n ymddeol neu'n dod yn un sydd â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig ar neu ar ôl 1 Hydref 2007, yr hawl i gredyd pensiwn ychwanegol am wasanaeth hir, a gyfrifir heb ystyried y gostyngiad yn y gyfradd flynyddol.
Effaith y diwygiad cysylltiedig a wneir gan baragraff 9(b)(iii) o'r Atodlen, sy'n mewnosod rheol 2(5A) newydd yn Rhan 11 o'r Cynllun, yw y cyfrifir pensiwn aelod-ddiffoddwr tân, sydd â hawl i fuddiant pensiwn ychwanegol o dan y rheol 7A newydd o Ran 3, naill ai gan ystyried y budd pensiwn ychwanegol a gredydwyd i'r aelod-ddiffoddwr tân a heb ystyried cynyddiad gwasanaeth hir gwirioneddol yr aelod-ddiffoddwr tân (ac unrhyw daliad digolledu interim neu drosiannol), neu gan ystyried cynyddiad gwasanaeth hir gwirioneddol yr aelod-ddiffoddwr tân (ac unrhyw daliad digolledu interim neu drosiannol) a heb ystyried y swm a gredydir i'r aelod-ddiffoddwr tân o dan y rheol 7A newydd o Ran 3, yn ôl pa reol bynnag sy'n rhoi'r canlyniad mwyaf buddiol i'r diffoddwr tân.
Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(d) o'r Atodlen, i'r graddau y mae'n mewnosod rheol 7B newydd, a chymaint o'r rheol 7C newydd ag sy'n ymwneud â'r rheol 7B, yn Rhan 3 o'r Cynllun, yn ganlyniad cynllun newydd o wneud taliadau mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus a gyflwynwyd gan y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub Awdurdodau Lleol ac a fu'n effeithiol o 1 Gorffennaf 2007. O dan y cynllun hwnnw, mae'r taliadau yn ddarostyngedig i adolygiadau blynyddol ac felly yn daliadau dros dro o ran eu natur. Am y rheswm hwnnw ni fyddent, fel arfer, yn cael eu hystyried yn bensiynadwy at ddibenion y Cynllun. Fodd bynnag, effaith y diwygiad a wneir gan baragraff 9(a)(i) yw gwneud y taliadau hyn yn rhan o'r tâl pensiynadwy. Mae hyn yn cysylltu â darpariaethau eraill, gan gynnwys darpariaethau rheol 3 o Ran 11 o'r Cynllun, sy'n gwneud talu cyfraniadau pensiwn yn ofynnol mewn perthynas â thâl pensiynadwy. Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 9(b)(i), fodd bynnag, yn darparu y ceir anwybyddu taliadau a wneir mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus at y diben o ddyfarnu swm y tâl pensiynadwy terfynol (y seilir swm y pensiwn cyffredin arno).
Mae'r diwygiad i reol 2(5) yn Rhan 2 o'r Cynllun, a wneir gan baragraff 3(b) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yn sicrhau na all person wneud dewisiad i atal talu cyfraniadau pensiwn mewn perthynas, yn unig, â'r budd pensiwn ychwanegol o dan y rheol 7B.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol a baratowyd mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 01685 729227.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: