Prisiadau
11.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo prisiad yn angenrheidiol o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar y prisiad.
(3) Os na all y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar brisiad, cânt benodi prisiwr ar y cyd.
(4) Os na all y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar bwy ddylai'r prisiwr fod, caiff Llywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig enwebu'r prisiwr, a rhaid i'r perchennog a Gweinidogion Cymru dderbyn yr enwebiad hwnnw.
(5) Rhaid i'r prisiwr gyflawni'r prisiad a'i gyflwyno ynghyd ag unrhyw wybodaeth a dogfennau perthnasol eraill i Weinidogion Cymru, a darparu copi i'r perchennog.
(6) Mae hawl gan y perchennog a chynrychiolydd Gweinidogion Cymru i fod yn bresennol yn ystod prisiad.
(7) Bydd y prisiad yn rhwymo'r perchennog a Gweinidogion Cymru.