Apelau
10.—(1) Lle bo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru, o fewn 21 diwrnod ar ôl hysbysu'r person cyntaf o'r penderfyniad.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r person a benodir ynglyn â'r penderfyniad.
(3) Rhaid i'r person a benodir wedyn gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r apelydd o'u penderfyniad terfynol a'r rhesymau amdano, mewn ysgrifen.