Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adrannau 108 i 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol ddatblygu polisïau i hyrwyddo cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn effeithlon ac yn economaidd yn eu hardal. Enw'r polisïau hyn gyda'i gilydd yw cynllun trafnidiaeth lleol. Mae'n ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol gyhoeddi'u cynllun trafnidiaeth lleol, trefnu bod copi ohono ar gael i'r cyhoedd edrych arno a'i ddiweddaru'n rheolaidd, gan ei ddisodli gan gynllun newydd cyn pen pum mlynedd ar ôl y dyddiad pan wnaed y gwreiddiol. Fodd bynnag, os cyhoeddwyd cynllun o'r fath cyn 1 Awst 2001, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu, drwy Orchymyn, y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i'r cynllun gael ei ddisodli.

Mae adran 3 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 a'r Atodlen iddi yn addasu adrannau 108 i 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, drwy gyflwyno adrannau newydd nad ydynt yn gymwys ond i Gymru.

Mae adran 108 wedi'i diwygio i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth lleol sy'n rhoi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (“y Strategaeth”) ar waith. Mae'n ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lunio a chyhoeddi'r Strategaeth gan adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006. Rhaid i'r Strategaeth nodi'r polisïau a ddatblygwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn economaidd. Rhaid iddi ddangos sut y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gweithredu'r polisïau hynny.

Ymgorfforwyd adrannau 109A, 109B a 109C newydd gan ddisodli adran 109 o ran Cymru. Mae'r adrannau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol gyflwyno'u cynllun trafnidiaeth lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gymeradwyo ac i adolygu'u cynlluniau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru.

Mae adran 109C yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â chynlluniau trafnidiaeth lleol a luniwyd cyn 1 Awst 2001. Os yw cynllun o'r fath yn cynnwys polisïau ar gyfer hyrwyddo a chefnogi cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn effeithlon ac yn economaidd ac os lluniwyd y cynllun yn unol â chanllawiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu drwy Orchymyn y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i gynlluniau o'r fath gael eu disodli.

Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 hefyd yn ymgorffori adrannau 113A a 113B newydd yn Neddf Trafnidiaeth 2000. Mae adran 113A yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud Gorchymyn sy'n galluogi awdurdodau trafnidiaeth lleol lunio cynllun trafnidiaeth lleol o ran rhan o'u hardal yn unig. Mae hefyd yn caniatáu i gynllun trafnidiaeth lleol gael ei lunio gan ddau neu ragor o awdurdodau ar y cyd o ran ardal sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r ardaloedd hynny gyda'i gilydd (eu “cydardal”). Mae adran 113B yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddyroddi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i awdurdodau trafnidiaeth lleol o ran y dull y maent yn cyflawni'u swyddogaethau o dan adrannau 108 i 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.

Effaith y Gorchymyn hwn yw arfer pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 113A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i addasu adrannau 108 i 111 o'r Ddeddf honno. Yn benodol, mae'n caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ganiatáu gwneud cynlluniau trafnidiaeth lleol ar sail ranbarthol yn hytrach nag ar sail awdurdod unigol ac mae'n pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid disodli cynlluniau trafnidiaeth lleol sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Nid yw'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer dull cydweithio awdurdodau trafnidiaeth lleol. Mae hyn yn fater i'r awdurdodau perthnasol. Nid yw'r Gorchymyn ychwaith yn darparu ar gyfer llunio a gweithredu'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd gan yr ymdrinnir â hyn ar wahân yn y canllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 112 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu i'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu cynnull yn bedwar grŵp er mwyn llunio un cynllun trafnidiaeth ar gyfer pob grŵp. Seilir y grwpiau ar bedwar ardal ranbarthol: y De-ddwyrain, y De-orllewin, y Canolbarth a'r Gogledd.

Mae erthygl 4 yn arfer pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 113A(1)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i ganiatáu llunio cynllun trafnidiaeth lleol o ran rhan yn unig o ardal awdurdod trafnidiaeth lleol. Yn yr erthygl hon, caniatawyd i awdurdod trafnidiaeth lleol Gwynedd gyfranu tuag at gynlluniau trafnidiaeth lleol sy'n cwmpasu neu'n cynnwys dosbarth Meirionnydd a gweddill sir Gwynedd yn y drefn honno.

Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau trafnidiaeth lleol, sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol, gael eu disodli heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2008.

Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn yn rhestru'r pedwar grwp a'u hawdurdodau lleol cyfansoddol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources