- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion yng Nghymru. Maent yn cydgyfnerthu, gyda diwygiadau, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 1998, fel y'u diwygiwyd, ac yn eu dirymu.
Mae'r Rheoliadau'n ymwneud â chasglu gwybodaeth am berfformiad ysgolion.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau cyffredinol.
Mae Rhan 2 yn gosod dyletswyddau ar benaethiaid ysgolion a gynhelir i drefnu bod gwybodaeth ar gael i gyrff llywodraethu er mwyn eu galluogi i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 5).
Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau manwl sy'n ymwneud â darparu gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i awdurdodau addysg lleol.
Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu gwybodaeth am ganlyniadau asesiadau ar y cyfnod allweddol cyntaf i'r awdurdodau addysg lleol (rheoliad 6 ac Atodlen 1).
Rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am ganlyniadau asesiadau cyfnod allweddol cyntaf ar gyfer pob disgybl cofrestredig yng nghyfnod allweddol cyntaf yn yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod (rheoliad 7 ac Atodlen 1).
Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a pherchenogion ysgolion arbennig ac ysgolion annibynnol nas cynhelir sydd â disgyblion 15, 16, 17 neu 18 oed roi gwybodaeth benodedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am eu canlyniadau (rheoliad 8 ac Atodlen 2).
Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a pherchenogion ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig nas cynhelir roi gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am absenoldebau sydd wedi'u hawdurdodi a'r rhai heb eu hawdurdodi (rheoliad 9).
Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir roi gwybodaeth i'r Asiantaeth Casglu Data Cenedlaethol (corff sy'n cydlynu gwybodaeth am ganlyniadau asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol disgyblion) a'r asiantaeth farcio allanol (corff sy'n marcio ymatebion disgyblion i brofion Cwricwlwm Cenedlaethol) am ddisgyblion unigol sy'n ymwneud â disgyblion sydd ar ddiwedd neu ar drothwy diwedd blwyddyn olaf yr ail neu'r trydydd cyfnod allweddol (rheoliadau 10 ac 11 ac Atodlen 3).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: