Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 896 (Cy.116)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003

Wedi'u gwneud

26 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989(2) a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 yn union ar ôl i Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(3) ddod i rym.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

2.—(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.

(2) Yn lle rheoliad 52 (darpariaethau trosiannol) rhoddir y rheoliad canlynol

“52.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a oedd, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, naill ai'n rhedeg neu'n rheoli asiantaeth faethu ac sy'n parhau naill ai i'w rhedeg neu i'w rheoli.

(2) Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo (“person anghofrestredig”) —

(a)os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

(c)tan 1 Gorffennaf 2003 yn achos person anghofrestredig nad yw'n gwneud cais yn unol ag is-baragraff (a).

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os —

(a)yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn bod adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson anghofrestredig ac y dylai paragraff (2) o'r rheoliad hwn beidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig hwnnw; a

(b)yn nhyb yr ynad, os na wneir y gorchymyn y bydd perygl difrifol i fywyd, iechyd neu les rhywun.

(4) Os yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)caiff yr ynad wneud y gorchymyn y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw;

(b)bydd adran 11 o Ddeddf 2000 yn gymwys i'r person anghofrestredig, a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig, o'r amser pan wneir y gorchymyn.

(5) Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan baragraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl y digwydd) wedi ei wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 ac yn gymwys i'r person anghofrestredig.

(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu sy'n dod o dan adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sy'n bodoli yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.

(7) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (6) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth(4) —

(a)os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

(c)tan 1 Gorffennaf 2003, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).

(8) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, sy'n bodoli yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(9) Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi ei fodloni y dylai'r plentyn gael ei leoli gyda rhieni maeth, caiff wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (10), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arno gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar ei ran gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (8) yn gymwys iddo (“darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig”)—

(a)os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y darparwr hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

(c)tan 1 Gorffennaf, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).

(10) Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (9) oni bai—

(a)ei fod wedi ei fodloni —

(i)bod y darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig â'r gallu i gyflawni'r dyletswyddau ar ei ran; a

(ii)mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a

(b)ei fod wedi ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynghylch y trefniadau, sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig.

(11) Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddi.”

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 fel y caiff darpariaethau newydd eu rhoi i reoliad 52 sy'n gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau newydd:

Mae rheoliad 52(1) — (5) yn gwneud darpariaeth ar gyfer personau sy'n parhau i redeg neu reoli asiantaeth faethu a oedd yn bodoli eisoes cyhyd â bod y ceisiadau am gofrestru'r asiantaeth honno wedi eu gwneud erbyn 1 Gorffennaf 2003.

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau maethu awdurdodau lleol pan ddeuant i rym. Oherwydd rheoliad 52(6) a (7) byddant hefyd yn gymwys i gorff gwirfoddol a oedd yn bodoli eisoes sy'n parhau i leoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59 o Ddeddf Plant 1989 ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei gofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol tan iddi gael ei chofrestru, ond mae is-baragraffau (8) i (10) o'r rheoliad hwn yn galluogi awdurdod lleol i ddirprwyo dyletswyddau penodol i asiantaeth faethu annibynnol a oedd yn bodoli eisoes sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Mae rheoliad 52(11) yn datgymhwyso rheoliad 20(5) (sy'n cyfyngu'r amgylchiadau pan ganiateir person a gymeradwywyd fel rhiant maeth gan wasanaeth maethu hefyd i gael ei gyflogi i weithio dros y gwasanaeth) mewn rhai achosion.

(1)

2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sef yr “appropriate Minister”. Diffinnir yr “appropriate Minister” yn adran 121(1). Mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, ac mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

(4)

Gweler Adran 121(4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources