Search Legislation

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 481 (Cy.67)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

3 Mawrth 2003

Yn dod i rym

4 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben

1.  Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn dod i rym ar 4 Mawrth 2003 a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 4(3)(c);

ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle sef—

(a)

gwerthiant,

(b)

sioe neu arddangosfa,

(c)

llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen i'w cigydda o fewn Prydain Fawr, neu

(ch)

llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w pesgi neu i'w gorffen,

ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw'r anifeiliaid hynny dros dro;

mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi; ac

ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 (2) sydd o'r cryfder sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.

Eithriadau

3.  Nid yw darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys os—

(a)yr un person sy'n berchen ar yr holl anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid ac os yr un ceidwad sydd ganddynt, a

(b)bod yr anifeiliaid i'w crynhoi ar safle y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arno neu y mae'n ei feddiannu.

Defnyddio safle ar gyfer crynoadau anifeiliaid

4.—(1Mae gwaharddiad ar ddefnyddio safle gan unrhyw berson ar gyfer crynhoi anifeiliaid arno onid yw'r safle hwnnw wedi'i drwyddedu at y diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.

(2Rhaid i drwydded o dan yr erthygl hon—

(a)bod yn ysgrifenedig,

(b)bod yn un y gellir ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol, a

(c)bod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol fod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r safle trwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y safle trwyddedig neu'r tu allan iddo.

(3Rhaid i drwydded bennu—

(a)enw'r trwyddedai,

(b)y safle lle y caniateir crynhoi anifeiliaid, ac

(c)yr ardal y caniateir i'r anifeiliaid fynd arni (“yr ardal i anifeiliaid”).

Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar grynhoi anifeiliaid mewn un lle

5.  Mae gwaharddiad ar bob crynhoad anifeiliaid ar safle lle y cafodd anifeiliaid eu cadw a hynny hyd nes bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y diwrnod—

(a)y gadawodd yr anifail olaf y safle hwnnw, a

(b)ar ôl i'r anifail olaf adael y safle, pan fydd yr holl gyfarpar a ddefnyddiwyd gan yr anifeiliaid wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw arwydd weledol ei fod wedi'i halogi.

Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gyfer safle ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu

6.—(1Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 5 yn gymwys os—

(a)oes ar y safle ardal i anifeiliaid ac iddi arwyneb o sement, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol, a

(b)os yw'r ardal i anifeiliaid wedi'i glanhau a'i diheintio, a bod unrhyw ddeunydd gwastraff ar yr ardal i'r anifeiliaid wedi cael ei symud a'i waredu, yn unol â'r erthygl hon.

(2O ran y gwaith glanhau a diheintio—

(a)rhaid peidio â chychwyn arno hyd nes bydd yr holl anifeiliaid wedi'u symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid a lanheir ac a ddiheintir, a

(b)rhaid ei orffen ar ôl i'r anifail olaf adael y safle trwyddedig.

(3Rhaid gwaredu o'r ardal i anifeiliaid yr holl borthiant y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef, pob sarn (llaesodr), yr holl garthion, pob deunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid a'r holl halogion eraill —

(a)a'u distrywio,

(b)eu trin fel nad oes perygl o drosglwyddo clefyd, neu

(c)eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.

(4Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

(5Yn dilyn y tro olaf y cafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, os bydd yn cael ei baeddu â charthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid, yna mae'n rhaid glanhau a diheintio'r ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi'u baeddu yn y modd hwn, a rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd gwastraff, yn unol â'r erthygl hon, cyn crynhoi anifeiliaid yno.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid

7.  Pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle (ac eithrio at ddiben sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion mewn cysylltiad â chrynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.

Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid

8.—(1Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y safle trwyddedig.

(2Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y safle trwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef wedi'i lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi.

(3Ni chaiff unrhyw berson symud o'r safle trwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef—

(a)oni chaiff y cyfarpar ei lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi a bod cyfnod o 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y safle trwyddedig, neu

(b)oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ei lanhau drwy olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925

9.  Nid yw Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (3) yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.

Gorfodi

10.  Caiff y Gorchymyn hwn ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Dirymu

11.  Dirymir y canlynol—

(a)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(4);

(b)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002(5);

(c)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002(6));

(ch)Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003(7).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D.Elis-Thomas

Y Llywydd

3 Mawrth 2003

Whitty

Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

3 Mawrth 2003

Erthygl 7

YR ATODLENGOFYNION MEWN PERTHYNAS Å CHRYNHOAD ANIFEILIAID

Dyletswyddau trwyddedai

1.—(1Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y safle trwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.

(2Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd wedi'i gymeradwyo ar y ffordd allan o'r ardal i anifeiliaid ac mewn unrhyw fae llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y safle ar gyfer newid, golchi a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.

(3Mae'n rhaid i'r trwyddedai—

(a)sicrhau mai yn yr ardal i anifeiliaid y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u hail-lwytho, a

(b)sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ar safle trwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â charthion anifail neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.

(2Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai—

(a)eu diheintio; neu

(b)newid ei ddillad am ddillad glân; neu

(c)eu taflu; neu

(ch)ymadael â'r safle trwyddedig.

(3Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis o—

(a)glanhau ei ddillad allanol,

(b)newid ei ddillad am ddillad glân,

(c)gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu

(ch)ymadael â'r safle trwyddedig a hynny ar ei union.

Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid

3.  Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.

Cerbydau

4.  Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw gerbyd nac offer ar y safle trwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â charthion anifeiliaid, ac eithrio carthion yr anifeiliaid sydd ar y cerbyd ar y pryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.

Nid yw'n gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn erthygl 3 (anifeiliaid a grynhoir ar safle y mae eu perchennog yn berchen arno).

Rhaid wrth drwydded ar gyfer crynoadau anifeiliaid (erthygl 4).

Mae'n pennu na chaiff crynhoad anifeiliaid ddigwydd ond ar ôl i 27 o ddiwrnodau fynd heibio ar ôl i'r olaf o'r anifeiliaid adael y safle hwnnw ac i'r cyfarpar ar y safle gael ei lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi (erthygl 5). Os ar safle wedi'i balmantu y crynhoir yr anifeiliaid mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r safle hwnnw ac yn ei gwneud yn bosibl i grynhoad ddigwydd o fewn y terfyn amser arferol.

Mae'n gosod dyletswyddau ar y personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid (erthygl 7 a'r Atodlen).

Mae'n gosod cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid (erthygl 8).

Mae'n datgymhwyso dros dro ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (OS 1925/1349) (erthygl 9).

Fe'i gorfodir gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 10).

Mae peidio ag ufuddhau i'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid, ac mae'r gosb am hynny yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Bydd effaith y Gorchymyn hwn yr dod i ben ar 1 Awst 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i “the Ministers” (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd “the Ministers” a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).

(2)

O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/919 ac, mewn perthynas â Chymru O.S. 2001/641 (Cy.31).

(3)

O.S.1925/1349 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1926/546; O.S.1927/982 ac O.S. 1996/3265.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources