Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”), caiff pob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol (“awdurdod”) yng Nghymru wneud trefniadau i'w swyddogaethau gael eu cyflawni gan weithrediaethau, sy'n gorfod bod yn un o'r mathau a bennir yn adrannau 11(2) i (4) o'r Ddeddf neu mewn rheoliadau o dan adran 11(5). Yn ychwanegol at fath o weithrediaeth a ragnodir mewn rheoliadau o dan adran 11(5) o'r Ddeddf ac sy'n cael ei ddatgan yn y rheoliadau hynny yn fath o weithrediaeth y mae'n ofynnol cynnal refferendwm ar ei gyfer, mae'r mathau o weithrediaeth a bennir yn adrannau 11(2) ac 11(4) yn fathau o weithrediaeth y mae'n ofynnol cynnal refferendwm ar eu cyfer.

Mae Adran 34 o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) wneud rheoliadau er mwyn ei gwneud neu mewn cysylltiad â'i gwneud yn ofynnol i awdurdod sy'n cael deiseb (sy'n cydymffurfio â darpariaethau rheoliadau o'r fath) gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod hwnnw weithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys math o weithrediaeth y mae'n ofynnol cynnal refferendwm ar ei gyfer.

Mae Adran 45(1) o'r Ddeddf yn darparu na chaiff awdurdod gynnal mwy nag un refferendwm mewn unrhyw gyfnod o bum mlynedd (“moratoriwm pummlynedd”).

Mae'r Cynulliad wedi gwneud rheoliadau o dan adran 34 o'r Ddeddf (Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”)). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001.

Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn cyfyngu'r cyfnodau amser pan gaiff yr etholaeth llywodraeth leol ar gyfer ardal awdurdod gyflwyno i'w hawdurdod ddeisebau yn gofyn am refferendwm. Mae rheoliad 3A newydd yn cael ei fewnosod yn Rheoliadau 2001 sy'n darparu y caiff yr etholaeth llywodraeth leol ar gyfer ardal awdurdod gyflwyno i'w hawdurdod ddeisebau yn gofyn am refferendwm yn ystod cyfnod deisebu. Chwe mis yw hyd cyfnod deisebu. Bydd y cyfnod deisebu cyntaf yn dechrau ddeuddeng mis cyn y dyddiad y cynhelir etholiadau llywodraeth leol cyffredin 2004. Yn ddarostyngedig i'r eithriadau a nodir yn y rheoliadau newydd 3A(5) i (8), bydd cyfnodau deisebu dilynol ar gyfer awdurdod yn digwydd unwaith bob pedair blynedd, a bydd pob cyfnod deisebu yn dechrau ddeuddeng mis cyn y dyddiad y cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf.

Mae'r eithriadau y cyfeiriwyd atynt yn rheoliadau newydd 3A(5) i (8) yn gymwys pan fydd awdurdod wedi cynnal refferendwm boed hynny'n unol â deiseb, cyfarwyddyd y Cynulliad a gyhoeddwyd o dan Ran III o Reoliadau 2001, neu orchymyn a wnaed gan y Cynulliad o dan adran 36 o'r Ddeddf ac, o ganlyniad, mae moratoriwm pummlynedd wedi dechrau. Mae rheoliad newydd 3A(5) yn darparu, os yw rhan neu'r cyfan o gyfnod deisebu awdurdod i fod i ddechrau o fewn cyfnod moratoriwm pummlynedd, y bydd y cyfnod deisebu hwnnw mewn gwirionedd yn dechrau ar y dyddiad yn ystod y cyfnod moratoriwm pummlynyddol hwnnw sy'n dod ddeuddeng mis cyn y dyddiad cynharaf y gellir cynnal ail refferendwm (neu un dilynol) yn gyfreithlon yn ardal yr awdurdod hwnnw. Mae rheoliad newydd 3A(6) yn darparu, os na chaiff awdurdod yr un ddeiseb yn ystod cyfnod deisebu a bennir yn unol â rheoliad 3A(5), y bydd cyfnod deisebu nesaf yr awdurdod yn dechrau ddeuddeng mis cyn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf. O dan reoliad newydd 3A(7) ni chaiff yr un rhan o ddau gyfnod deisebu ar gyfer awdurdod penodol ddigwydd o fewn yr un flwyddyn.

Mae Rheoliadau 2001 yn cael eu diwygio hefyd fel na fydd deiseb a gyflwynwyd i awdurdod yn ddilys ond os (ymhlith pethau eraill) y mae'r ddeiseb honno yn cael ei chyflwyno i'r awdurdod hwnnw o fewn cyfnod deisebu.

Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9(5) o Reoliadau 2001 fel bod rhaid anwybyddu unrhyw lofnod ar ddeiseb a gyflwynwyd i awdurdod os yw'r dyddiad arni yn gynharach na chwe mis cyn dyddiad y ddeiseb (ymadrodd sy'n cael ei ddiffinio yn rheoliad 3 o Reoliadau 2001 a'i ddiwygio gan y Rheoliadau hyn) wrth benderfynu a yw'r ddeiseb wedi'i llofnodi gan ddim llai na 10% o'r nifer o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod hwnnw (“y Rhif dilysu”).

Mae Rheoliad 4 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio hefyd fel, heblaw at ddibenion y cyfnod deisebu cyntaf, rhaid i swyddog priodol awdurdod gyhoeddi'r Rhif dilysu o fewn cyfnod o 14 diwrnod gan ddechrau ar y dyddiad sy'n dod 7 mis cyn dechrau cyfnod deisebu ar gyfer yr awdurdod hwnnw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources