- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio am y trydydd tro Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S. 1998/1376, “Rheoliadau 1998”), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/17/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 90/128/EEC ynghylch deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L58, 28.2.2002, t.19), ac eithrio paragraff 1(a) o'r Atodiad a pharagraff 2(a)(ii) o'r Atodiad i'r graddau y mae Cyfarwyddeb 90/128/EEC yn ymwneud ag ychwanegion bensaldehyd a chamffor. Rhoddwyd y paragraffau hyn ar waith gan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2834 (Cy. 272)).
2. Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy wneud y canlynol —
(a)ychwanegu darpariaeth drosiannol ynglŷn ag achos sy'n cael ei ddwyn am dramgwydd odanynt (rheoliad 3);
(b)ychwanegu sylweddau newydd at y rhestr o fonomerau y caniateir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau neu eitemau plastig a diwygio'r defnydd ar fonomerau penodol sy'n cael eu defnyddio mewn gweithgynhyrchu o'r fath (rheoliad 4);
(c)ychwanegu sylweddau newydd at y rhestr anghynhwysfawr o ychwanegion sy'n cael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau neu eitemau plastig a diwygio'r defnydd ar ychwanegion penodol sy'n cael eu defnyddio mewn gweithgynhyrchu o'r fath (rheoliad 5);
(ch)ychwanegu sylweddau penodol at y rhestr o sylweddau y nodir manylion amdanynt yn Atodlen 2B i Reoliadau 1998 (rheoliad 6); a
(d)gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 7).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: