Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Rhagfyr 2003, 4 Rhagfyr 2003, 1 Ionawr 2004 a 9 Ionawr 2004 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau I, II, III a IV o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen —

Mae adran 46 yn mewnosod adran 85A newydd o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”), yn ei gwneud yn ofynnol i AALlau sefydlu fforymau derbyn yn unol â rheoliadau sydd i'w gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”). Bydd y fforymau yn cynghori AALlau ar faterion sy'n ymwneud â derbyniadau ysgol.

Mae adran 188 a pharagraffau 1 i 3 o Atodlen 16 yn diwygio Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Cymru roi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol am ansawdd arweinyddiaeth mewn ysgolion yng Nghymru a rheolaeth arnynt, gan gynnwys a ydyw'r adnoddau ariannol yn cael eu rheoli'n effeithiol. Mae'r wybodaeth hon hefyd i gael ei chynnwys mewn adroddiad gan arolygydd cofrestredig sy'n cynnal arolygiad o'r ysgol.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen —

  • Mae adran 41 yn mewnosod adran 45A newydd o Ddeddf 1998 sy'n ymwneud â threfniadau cyllido ar gyfer AALlau ac ysgolion. Cyflwynir diffiniadau newydd o “LEA budget” a “schools budget”. Bydd rheoliadau yn nodi'r manylion.

  • Mae adran 42 yn mewnosod adrannau 45B a 45C newydd o Ddeddf 1998 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i osod lleiafswm cyllideb ysgolion ar gyfer AALl os yw'r gyllideb a gynigir gan yr AALl yn annigonol neu os yw'r AALl wedi methu hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i gyllideb arfaethedig.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen —

  • Mae adrannau 157 i 171 yn darparu ar gyfer system newydd i reoleiddio ysgolion annibynnol. Bydd rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 157 yn nodi'r safonau y bydd angen i ysgolion annibynnol eu bodloni. Mae adran 158 yn darparu ar gyfer parhau cofrestr o ysgolion annibynnol sydd i'w gadw gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae adran 159 yn ei gwneud yn dramgwydd i redeg ysgol annibynnol na chofrestrwyd mohoni ac mae'n rhoi hawl i'r Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru fynd ar dir ac i adeiladau.

  • Mae adran 160 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys gan berchennog ysgol mewn cais i gofrestru a darparu ar gyfer y Prif Arolygydd i arolygu'r ysgol. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu o dan adran 161 a ydyw'r ysgol yn bodloni safonau'r ysgolion annibynnol oc os ydyw bydd yn cofrestru'r ysgol. O dan adran 162 gall y Cynulliad Cenedlaethol dynnu ysgol o'r gofrestr os bu newid perchennog, newid cyfeiriad neu newid penodedig mewn perthynas â'r disgyblion neu'r llety, ac na chafodd y newid hwnnw ei gymeradwyo. Mae adran 162 hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer cymeradwyaeth. Mae adrannau 163 a 164 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag arolygu ysgolion annibynnol ac adroddiadau arolygu. Mae adran 165 yn darparu os nad yw ysgol yn bodloni safonau'r ysgolion annibynnol gall y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'r ysgol o'r gofrestr neu ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol baratoi a gweithredu cynllun gweithredu. Mae adrannau 166 a 167 yn darparu ar gyfer hawl apelio i dribiwnlys a sefydlir o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, yn erbyn gwrthodiad i gymeradwyo newid perthnasol, penderfyniad i dynnu ysgol o'r gofrestr, gorchymyn i gymryd camau penodedig neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn o'r fath. Mae'r adrannau yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud apêl o'r fath a phwerau'r tribiwnlys.

  • Mae adran 168 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am ysgol yn cael ei darparu. Mae adran 169 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dynnu ysgol o'r gofrestr os oes unrhyw berson yn gwneud gwaith yn yr ysgol yn groes i gyfarwyddyd neu orchymyn. Mae adran 170 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyflwyno hysbysiadau ac mae adran 171 yn cynnwys diffiniadau.

  • Mae adran 172 yn diwygio'r diffiniad o ysgol annibynnol yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) er mwyn iddo yn awr gynnwys ysgol y mae ganddi o leiaf un disgybl â datganiad o anghenion addysgol arbennig neu sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Mae adran 173 yn diwygio adran 327 o Ddeddf 1996 i roi hawl mynediad i AALlau i ysgolion annibynnol i fonitro'r ddarpariaeth a wneir i blant ag anghenion addysgol arbennig. Mae adran 174 yn diwygio adran 347 o Deddf 1996 i ddarparu, pan roddir cydsyniad i leoliad plentyn mewn ysgol annibynnol, bod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei fodloni bod lle ar gael yn yr ysgol.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan IV o'r Atodlen —

  • Mae adran 51 ac Atodlen 4, paragraffau 1 a 4, yn diwygio adran 87 o Ddeddf 1998 (sy'n tynnu'r gofyniad i dderbyn plentyn a gafodd ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy). Mae adran 87 o Ddeddf 1998, fel y'i diwygiwyd, yn darparu na ddylid ystyried bod plentyn wedi'i wahardd yn barhaol pe bai corff llywodraethu neu banel gwahardd wedi cyfarwyddo bod y plentyn i'w dderbyn yn ôl i'r ysgol, pe bai wedi bod yn ymarferol ac yn briodol i wneud hynny.

  • Mae adran 52(1) i (6) yn rhoi'r pŵer i bennaeth ysgol a gynhelir, a'r athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion, i wahardd disgybl ar sail disgyblu. Mae'r gweithdrefnau mewn perthynas â gwahardd, derbyn yn ôl ac apelau i'w nodi mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

  • Mae adran 207 yn ailddeddfu adran 492 o Ddeddf 1996 a darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau mewn perthynas ag adennill rhwng awdurdodau. Mae adran 208 yn trosglwyddo'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau o dan adran 493 o Ddeddf 1996, sy'n ymwneud ag adennill mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd yn barhaol.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources