Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) a Deddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Maent—

(a)yn disodli Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991 (fel y'u diwygiwyd), sy'n rheoli'r ffordd y mae rhieni maeth yn cael eu cymeradwyo a phlant yn cael eu lleoli gyda hwy gan awdurdodau lleol a chyrff gwirfoddol o dan Rannau III a VII o Ddeddf 1989 yn y drefn honno; a

(b)yn darparu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer asiantaethau maethu a gwasanaethau maethu awdurdodau lleol.

Yn ôl adran 4(4) o Ddeddf 2000, ystyr “fostering agency” (“asiantaeth faethu”) yw naill ai ymgymeriad sy'n cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol mewn cysylltiad â lleoli plant gyda rhieni maeth (a elwir “asiantaeth faethu annibynnol” yn y Rheoliadau hyn), neu gorff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o'r Ddeddf Plant (asiantaeth o fewn ystyr “agency” yn adran 4(4)(b)). Caniateir i asiantaeth faethu annibynnol gael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, ond nid oes angen iddi gael ei rhedeg felly, ac os yw'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, gall fod weithiau yn asiantaeth hefyd o fewn ystyr “agency” yn adran 4(4)(b).

Mae Rhan II o Ddeddf 2000 yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) yn cofrestru ac yn arolygu sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys asiantaethau maethu. Mae Rhan III o Ddeddf 2000 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn arolygu swyddogaethau maethu awdurdodau lleol. Caiff Rhannau II a III o Ddeddf 2000 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) eu dwyn i rym mewn perthynas ag asiantaethau maethu a gwasnaethau maethu awdurdodau lleol ar 1 Ebrill 2003.

Diben y Rheoliadau hyn yw sefydlu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl, fframwaith cyffredin ar gyfer gwasanaethau maethu, p'un ai ydynt yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol, neu asiantaethau maethu annibynnol yn gweithredu o dan drefniadau dirprwyo (“gwasanaethau maethu”).

Yn ôl rheoliad 3, rhaid bod gan bob gwasanaeth maethu ddatganiad o ddiben sy'n disgrifio nodau ac amcanion y gwasanaeth a'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, ac arweiniad plant. Rhaid i'r gwasanaeth maethu gael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae Rheoliadau 5 i 10 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r personau sy'n rhedeg ac yn rheoli'r gwasanaeth maethu, ac yn ei gwneud yn ofynnol i reolwr gael ei benodi ar gyfer y gwasanaeth (rheoliadau 6 a 10). Darperir ar gyfer ffitrwydd darparydd asiantaeth faethu a rheolwr asiantaeth faethu yn benodol drwy gyfeirio yn arbennig at y materion a ragnodir yn Atodlen 1. Os corff yw'r darparydd asiantaeth faethu, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid iddo fodloni'r gofynion ynglyn â ffitrwydd. Mae Rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol ynglyn â'r ffordd briodol o redeg gwasanaeth maethu, ac ynglyn â hyfforddi.

Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch rhedeg gwasanaeth maethu, ac yn benodol ynghylch amddiffyn plant, ymddygiad, cysylltiadau, iechyd ac addysg, a chymorth i rieni maeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynglyn â staffio gwasanethau maethu, ffitrwydd gweithwyr a thir ac adeiladau, a chadw cofnodion. Darperir hefyd ynglyn â hybu lles plant gan asiantaethau maethu annibynnol, ac ynglyn â chwynion am yr asiantaethau hynny (rheoliadau 11 a 18).

Mae Rhan IV yn ymdrin â chymeradwyo rhieni maeth gan wasanaethau maethu. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i banel maethu gael ei sefydlu ar gyfer pob gwasanaeth maethu (rheoliadau 24 i 26). Mae rheoliad 27 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer asesu personau sy'n dymuno dod yn rhieni maeth, ac yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r amgylchiadau pan na chaiff personau eu hystyried yn addas i weithredu fel rhieni maeth. Mae rheoliadau 28 a 29 yn darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth, adolygu eu cymeradwyaeth a'i therfynu. Mae rheoliadau 30 i 32 yn darparu bod cofnodion a chofrestr yn cael eu cadw.

Mae Rhan V yn ymdrin â lleoli plant gyda rhieni maeth gan awdurdodau lleol a chyrff gwirfoddol (“awdurdodau cyfrifol”). Mae rheoliadau 33 i 36 yn gosod gofynion cyffredinol ar awdurdodau cyfrifol ynglyn â gwneud, goruchwylio a therfynu lleoliadau, ac mae rheoliadau 37 a 38 yn gwneud darpariaeth benodol am leoliadau byr-dymor, a lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol. Mae perthnasoedd rhwng awdurdod lleol ac asiantaeth faethu annibynnol yn cael eu rheoli gan reoliad 40.

Mae Rhan VI (rheoliad 41) yn darparu bod ymweliadau yn cael eu gwneud gan un o swyddogion yr awdurdod lleol â phlant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth gan gyrff gwirfoddol (adran 62 o Ddeddf 1989).

Mae Rhan VII yn gwneud darpariaeth amrywiol ynglyn ag asiantaethau maethu. Mae'n ofynnol i'r person cofrestredig fonitro'r materion a nodir yn Atodlen 7 ynghylch ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu (rheoliad 42), ac i hysbysu'r personau a grybwyllir yn Atodlen 8 o'r digwyddiadau a restrir yn yr Atodlen honno (rheoliad 43). Mae rheoliad 44 yn gosod gofynion ynglyn â sefyllfa ariannol yr asiantaeth. Mae rheoliadau 45 i 47 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol a phenodi datodwyr.

Mae rheoliad 48 yn darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas ag asiantaethau maethu.

Mae rheoliadau 50 a 51 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i'r darpariaethau mewn rheoliadau ynglyn â gofynion cofrestru a thalu ffioedd yn yr un modd â sefydliadau ac asiantaethau eraill sy'n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000.

Mae rheoliad 52 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Pan fyddant yn dod i rym, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau maethu awdurdodau lleol. Yn ôl rheoliad 52(1) a (2) byddant yn gymwys hefyd i gorff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59 o Ddeddf 1989, sydd wedi gwneud cais yn briodol i'r Cynulliad Cenedlaethol am gael ei gofrestru fel asiantaeth faethu erbyn 1 Ebrill 2003. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol tan iddi gael ei chofrestru, ond mae is-baragraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwn yn caniatáu i awdurdod lleol ddirprwyo dyletswyddau penodol i asiantaeth faethu annibynnol sydd wedi gwneud cais am gael ei chofrestru i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 1 Ebrill 2003. Mewn achosion pendodol mae rheoliad 52(7) yn datgymhwyso rheoliad 20(5) (sy'n cyfyngu'r amgylchiadau pan ganiateir i berson sydd wedi'i gymeradwyo fel rhiant maeth gan asiantaeth faethu gael ei gyflogi hefyd i weithio at ddibenion y gwasanaeth).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources