- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 (“Rheoliadau 1995”) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae Rheoliadau diwygio tebyg yn cael eu gwneud ar gyfer Lloegr a'r Alban. Effaith y diwygiadau yw—
(a)datgymhwyso Rheoliadau 1995 i'r graddau y mae ffermwyr sy'n cynhyrchu nifer cynfyngedig o adar neu gwningod bob blwyddyn yn cyflawni gwerthiannau penodol, sef drwy adwerthu yn bennaf (rheoliad 2(2) i (5));
(b)gwahardd person rhag gweithredu lladd-dy sydd â thrwybwn isel oni bai ei fod wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd am nifer a tharddiad yr adar a'r cwningod sydd i'w cigydda yno (rheoliad 2(6));
(c)diddymu rheoliad 15(3) (esemptio rhag y gofyniad i anfon dogfennau cludiant gyda chig ffres) a gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 15(1) a (2) (rheoliad 2(7) ac (8));
(ch)diwygio rheoliad 18(1)(a) (dyletswydd meddiannydd i gadw cofnodion) i'w gwneud yn ofynnol i feddiannydd safle trwyddedig gofnodi tarddiad cig sy'n dod i'r safle (rheoliad 2(9));
(d)diwygio gofynion paragraff 5 o Ran I o Atodlen 5 mewn perthynas ag offer oeri mewn lladd-dai trwybwn isel a safleoedd torri trwybwn isel (rheoliad 2(10));
(dd)cywiro gwall ym mharagraff 11 o Atodlen 8 (rheoliad 2(11));
(e)diwygio gofynion paragraff 1(a) o Atodlen 14 i Reoliadau 1995 mewn perthynas â chludo cig ffres adar o ladd-dai trwybwn isel a safleoedd torri trwybwn isel (rheoliad 2(12)).
2. Daw'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2002 ac eithrio'r rhai ym mharagraffau (2), (3), (4) a (5) o reoliad 2 sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2002.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yn rhannol, ddarpariaethau—
(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/495/EEC ynghylch iechyd y cyhoedd a phroblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar osod cig cwningod a chig adar hela wedi'i ffermio ar y farchnad (OJ Rhif L268, 24.9.91, t.41); a
(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC ynghylch problemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i osod ar y farchnad, y ceir ei destun wedi'i gydgrynhoi yn atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1).
4. Mae Rheoliad 3 (a wneir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
5. Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: