- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 42A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998 (“y Ddeddf”), mae'n ofynnol i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru (“awdurdod bilio”) lunio a chadw rhestr ar gyfer pob blwyddyn daladwy (“rhestr aneddiadau gwledig”) sy'n enwi'r aneddiadau gwledig sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol o fewn ardal yr awdurdod, ac sydd ym marn yr awdurdod heb boblogaeth o fwy na 3,000 ar 31 Rhagfyr yn union cyn dechrau'r flwyddyn ariannol daladwy o dan sylw ac sydd yn y flwyddyn ariannol honno yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal sydd wedi'i dynodi'n ardal wledig at ddibenion yr adran.
Yr ardaloedd gwledig yng Nghymru sydd wedi'u dynodi at ddibenion adran 42A o'r Ddeddf yw'r rhai a grybwyllir yn yr Atodlen i Orchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998 (“Gorchymyn 1998”).
Yn rhinwedd darpariaethau adran 43(6A) a (6B) o'r Ddeddf mae swm taladwy yr ardreth annomestig am ddiwrnod taladwy yn cael ei leihau os yw'r hereditament o dan sylw, ar y diwrnod o dan sylw, o fewn anheddiad a enwyd yn rhestr yr awdurdod bilio o aneddiadau gwledig am y flwyddyn ariannol daladwy ac nad yw gwerth trethiannol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar ddechrau'r flwyddyn honno yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan orchymyn ac os yw naill ai'r cyfan neu ran o'r hereditament yn cael eu defnyddio ar y diwrnod o dan sylw yn siop gyffredinol gymwys neu yn swyddfa bost gymwys neu os oes unrhyw amodau a ragnodir gan orchymyn wedi'u bodloni.
Yn rhinwedd darpariaethau adran 47(1), (3) a (3A) o'r Ddeddf, gall y swm taladwy ar gyfer diwrnod taladwy gael ei leihau os oes penderfyniad gan yr awdurdod bilio ar waith yn ystod y diwrnod taladwy neu yn ystod cyfnod sy'n cynnwys y diwrnod taladwy, i'r perwyl bod adran 47 yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament o dan sylw ac os yw'r hereditament o dan sylw, ar ddiwrnod taladwy, o fewn anheddiad sydd wedi'i enwi yn rhestr aneddiadau gwledig yr awdurdod bilio am y flwyddyn ariannol daladwy y mae'r diwrnod hwnnw yn digwydd ynddi ac os nad yw gwerth trethiannol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol daladwy yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan orchymyn.
Yn ôl Erthygl 3 o Orchymyn 1998, rhagnodir mai £5,000 yw uchafswm y gwerth trethiannol at ddibenion adran 43(6B)(b) a rhagnodir mai £10,000 yw uchafswm y gwerth trethiannol at ddibenion adran 47(3A)(b).
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Erthygl 3 o Orchymyn 1998 ac yn rhagnodi mai £9,000 (yn achos tafarn neu orsaf betrol) a £6,000 (mewn unrhyw achos arall) yw'r uchafswm at ddibenion adran 43(6B)(b) ac mai £12,000 yw'r uchafswm at ddibenion adran 47(3A)(b).
Hefyd, mae'r Gorchymyn yn peri bod rhyddhad ardrethi gorfodol ar gael yn ehangach o dan adran 43(6A) drwy ragnodi, at ddibenion adran 43(6B)(c)(ii), yr amodau nad yw hereditament yn cael ei ddefnyddio dim ond i arddangos hysbysebion neu ar gyfer parcio cerbydau modur neu ar gyfer offer telathrebu neu beiriant arian awtomatig ac nad yw'n cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel siop gyffredinol neu swyddfa bost ac nad yw'n perthyn i'r Goron.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: