Search Legislation

Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2935 (Cy.277)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Wedi'u gwneud

27 Tachwedd 2002

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23(2)(a) ac (f), (5) a (9), 23A(3), 25(2) a (7), 26(1), (2), (5) a (6), 51(4), 59(2) i (5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraffau 13 a 14 o Atodlen 2, paragraff 4(1)(a) o Atodlen 4, paragraff 7(1)(a) o Atodlen 5, a pharagraff 10(1)(a) a (2)(1) o Atodlen 6 iddi, ac adrannau 3(3), 12(2)(a), 16(1)(a) a (3), 22(1) a 118(6) o'r Ddeddf Safonau Gofal(2) ac yntau o'r farn nad yw'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau eraill a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2000(3) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002, a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cartref” (“home”) yw—

    (a)

    cartref cymunedol o fewn ystyr adran 53 o Ddeddf 1989;

    (b)

    cartref a gofrestrwyd o dan Ran VIII o Ddeddf 1989(4);

    (c)

    cartref a gofrestrwyd mewn cofrestr a gadwyd at ddibenion adran 60 o Ddeddf 1989(5);

    (ch)

    cartref y cyfeirir ato yn erthygl 3(9) o Orchymyn Cychwyn Rhif 8(6);

    (d)

    cartref gofal preswyl o fewn ystyr adran 1(1) o Ddeddf 1984, cartref nyrsio o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf 1984, a chartref nyrsio meddwl o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf 1984(7));

  • ystyr “Deddf 1984” (“1984 Act”) yw Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984(8);

  • ystyr “Deddf 1989” (“1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;

  • ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “Gorchymyn Cychwyn Rhif 8” (“the No. 8 Commencement Order”) yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion a Chanlyniadol) 2002(9).

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

2.—(1) Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(10) caiff y diffiniad o “perthynas” ei ddiywgio yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn.

(2) Yn lle'r geiriau “(ch) unrhyw unigolyn y cafodd y person ei letya ag ef o dan drefniadau maethu am gyfnod hwy na 28 diwrnod tra'r oedd rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed, neu briod yr unigolyn hwnnw” rhoddir “(ch) unrhyw unigolyn a gafodd ei letya am gyfnod hwy na 28 diwrnod rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed o dan drefniadau maethu a wnaed gyda'r person hwnnw, neu briod yr unigolyn hwnnw”.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

3.  Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(11) ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosodir y geiriau “heblaw pan fo'r ceisydd yn awdurdod lleol neu Ymddiriedolaeth GIG,”.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002

4.  Yn rheoliad 7(5)(c) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002(12) yn lle'r gair “home” rhoddir “independent hospital or clinic”.

Diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991

5.—(1) Caiff Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991(13)) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 1(2), 2(1), 5(1), 6, 10(2) a (3) ac 11, ac ym mharagraff 5 o Atodlen 4, yn lle'r geiriau “registered children’s home” rhoddir y geiriau “private children’s home” bob tro y digwydd.

(3) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), yn y diffiniad o “placement”, yn lle “(b), (c), (d)” rhoddir “(aa)” ym mharagraff (a) a (b)(14).

(4) Yn rheoliad 2(2) (cymhwyso'r rheoliadau) ar ôl y geiriau “voluntary organisation”, rhoddir “, in a school which is a children’s home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.”.

(5) Yn rheoliad 11 (mynediad gan warcheidwaid ad litem i gofnodion a'r gofrestr), ac yn y pennawd i'r rheoliad hwnnw, yn lle “guardian ad litem” rhoddir “officer of the service”(15).

(6) Yn Atodlen 3 (ystyriaethau addysgol y mae awdurdodau cyfrifol i'w ystyried), ym mharagraff 4—

(a)yn lle “Education Act 1981” rhoddir “Education Act 1996”(16); a

(b)yn lle “section 7” rhoddir “section 324”.

Diwygio Rheoliadau Lleoli Plant â Rhieni a.y.y.b. 1991

6.—(1) Caiff Rheoliadau Lleoli Plant â Rhieni a.y.y.b 1991(17) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorir y diffiniad o “guardian ad litem”.

(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (manylion i'w cymryd i ystyriaeth)—

(a)yn is-baragraff (f), yn lle'r geiriau o “under” hyd at “Act” rhoddir “for child minding or day care”; a

(b)yn lle is-baragraff (k) rhoddir—

“(k)details of any criminal offences of which he has been convicted, or in respect of which, at the time the caution was given, he admitted.”.

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Gofal Plant 1991

7.—(1) Caiff Rheoliadau Adolygu Achosion Gofal Plant 1991(18)) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorir y diffiniad o “guardian ad litem”.

(3) Yn rheoliad 1(2) a 12, yn lle'r geiriau “registered children’s homes” rhoddir “private children’s homes” bob tro y diwgydd.

(4) Yn rheoliad 13 (eithriadau i gymhwyso'r Rheoliadau), yn lle'r geiriau “on behalf of” hyd at ddiwedd y rheoliadau, rhoddir “by a local authority or a voluntary organisation in a school which is a children’s home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.”.

(5) Yn Atodlen 2 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfirfol i'w ystyried), ym mharagraff 4, yn lle “Deddf Addysg 1981” rhoddir “Deddf Addysg 1996”.

Diwygio Rheoliadau Gweithdrefn Cynyrchioliadau (Plant) 1991

8.  Caiff Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991(19) eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 11(2) (cais i sefydliadau gwirfoddol a chartrefi plant cofrestredig), yn lle'r geiriau “registered children’s home” rhoddir “private children’s home” bob tro y digwydd; a

(b)yn rheoliad 11A (eithriadau i gymhwyso'r rheoliadau) yn lle'r geiriau sy'n dilyn “voluntary organisation” hyd at ddiwedd y rheoliad rhoddir “, in a school which is a children’s home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.”.

Diwygio Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991

9.  Caiff Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991(20) eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “home” ac yn rheoliad 4(2) yn lle'r geiriau “registered children’s home” rhoddir “private children’s home”; a

(b)yn rheoliad 4(1) (tynnu tystysgrif yn ôl) yn is-baragraff (b), yn lle “Part II of the Children’s Homes Regulations 1991” rhoddir “Parts III to V of the Children’s Homes (Wales) Regulations 2002(21)”.

Diwygio Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991

10.  Caiff Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991(22)) eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “children’s home”, yn lle “registered” rhoddir “private”;

(b)yn rheoliad 5 (plant na fydd adran 25 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt), ym mharagraff (1), yn lle “section 53” hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw, rhoddir “section 90 or 91 of the Powers of the Criminal Courts (Sentencing) Act 2000 (detention at Her Majesty’s Pleasure or for specified period)(23).”; ac

(c)yn rheoliad 7 (plant y bydd adran 25 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt ac yn cael effaith arnynt yn ddarostyngedig i addasiadau)—

(i)yn y naill a'r llall o baragraffau (1)(b) a (3)(b), yn lle “residential care homes, nursing homes or mental nursing homes” rhoddir “care homes or independent hospitals”; a

(ii)ym mharagraff (3)(a) yn lle “residential care home, a nursing home or a mental nursing home” rhoddir “care home or an independent hospital”.

Diwygio Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Rhif 2) 1991

11.  Ym mharagraff (2) o reoliad 2 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Rhif 2)(24), yn lle “residential care home, nursing home, or mental nursing home” rhoddir “care home or independent hospital”.

Diwygio Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) Cymru) 2001

12.  Yn y diffiniad o “ysbyty” yn rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001(25) yn lle paragraff (b) rhoddir “(b) sefydliad cofrestredig o fewn ystyr adran 34(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(26))”.

Darpariaeth trosiannol

13.—(1) Ni fydd unrhyw ddiwygiad a wnaed yn rheoliadau 5 i 12 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas, neu mewn cysylltiad, â chartref, y mae am y tro, unrhyw un o'r darpariaethau a grybwyllwyd ym mharagraff (2) yn gymwys.

(2) Y darpariaethau yw paragraffau (6) i (9) o erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(27)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Tachwedd 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn gwneud diwygiadau amrywiol i nifer o Reoliadau sy'n rheoli lleoli, gofal a llety plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989 ('Deddf 1989'), ac i nifer o Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('Deddf 2000').

Caiff Rheoliadau Deddf 1989 eu diwygio o ganlyniad i weithredu Rhan II o Ddeddf 2000 mewn perthynas â chartrefi plant a chartrefi gofal. Gwneir hefyd amryw o fân ddiwygiadau a diwygiadau diweddaru eraill.

Caiff Rheoliadau Deddf 2000 eu diwygio er mwyn unioni mân wall drafftio, ac yn ogystal: (i) mewn perthynas â Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002, i eglurhau nad yw sefydliad yn gartref gofal at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 pan mai dim ond llety ynghyd â gofal i blant fu gynt yn blant maeth i'r person sy'n ei weithredu y mae'n eu darparu; a (ii) mewn perthynas â Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002, i hepgor y gofyniad bod raid i awdurdod lleol neu Ymddiriedolaeth GIG gyflenwi tystlythyr ariannol i gydfynd â chais i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(1)

1989 p.41. Mae'r pwerau wedi eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Maent yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru drwy rinwedd adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cofnod mewn perthynas â Deddf Plant 1989 yn atodlen 1 iddi ac, mewn perthynas â'r pŵer o dan adran 23A o Ddeddf 1989, gan adran 8(7) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35). Gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989 am y diffniad o “prescribed”.

(2)

2000 p.14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r “appropriate Minister”. Ystyr “appropriate Minister” yw'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru: a.121(1) o Ddeddf 2000. Ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: adran 5(b) o Ddeddf 2000. Mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ystyr “appropriate Minister” yw'r Ysgrifennydd Gwladol: adran 121(1) o Ddeddf 2000. Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 ar gyfer y diffiniadau o “regulations” a “prescribed”.

(3)

O dan adran 22(9) o Ddeddf 2000 bydd y Gweinidog priodol yn ymgynghori ag unrhyw berson y mae'n ei ystyried yn briodol cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 22, oni bai fod y rheoliadau yn diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan yr adran honno ac nad yw'r rheoliadau yn ei farn ef yn rhoi effaith i unrhyw newidiadau o bwys yn y ddarpariaeth a wnaed gan y rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan adran 22: gweler rheoliad 2.

(4)

Diddymwyd darpariaethau Rhan VIII o Ddeddf 1989 ynghylch cofrestru rhai cartrefi plant gan adran 117(2) o Ddeddf 2000, ac Atodlen 6 iddi, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.

(5)

Diddymwyd darpariaethau adran 60 o Ddeddf 1989 sy'n ymwneud â chofrestru cartrefi plant gwirfoddol gan adran 117(2) o Ddeddf 2000, ac Atodlen 6 iddi, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.

(6)

Mae erthygl 3(9) yn gymwys i rai cartrefi plant nad oeddent ar 1 Ebrill 2002 wedi'u cofrestru o dan Ran VIII o Ddeddf 1989, ond mewn perthynas â hwy, trwy rinwedd erthgyl 3(1) o Orchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/139), yr oedd y person a oedd yn gweithredu'r cartref wedi'i ddiogleu rhag cyflawni'r drosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989 o weithredu cartref plant anghofrestredig. Deddfodd O.S. 2001/139 ddarpariaethau trosiannol mewn perthynas â chychwyn adran 40 o Ddeddf 2000, a oedd yn diwygio adran 63 o Ddeddf 1989 er mwyn gwaredu'r esemptiad o'r gofyniad i gofrestru o dan yr adran honno mewn perthynas â chartrefi plant sy'n lletya tri phlentyn neu lai.

(7)

Diddymwyd Deddf 1984 gan adran 117(2) o Ddeddf 2000, ac Atodlen 6 iddi, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.

(14)

Mae'r darpariaethau a amnewidiwyd yn gyfeiriadau at ddarpariaethau Deddf Plant 1989 a amnewidiwyd eu hunain gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a pharagraff 14(1), (3) ac(8) o Atodlen 4 iddi.

(15)

Mae Adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989 yn darparu bod i “officer of the service” yr un ystyr ag sydd yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p. 43). Gweler adran 11(3) o'r Ddeddf honNo.

(16)

1996 p.56.

(17)

O.S. 1991/893, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2015.

(23)

2000 p.6.

(24)

O.S. 1991/2034, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/694.

(26)

1983 p.20. Diwygir adran 34(1) gan adran 116 o Ddeddf Safonu Gofal 2000, a pharagraff 9(4) o Atodlen 4 iddi. Sefydliad cofrestredig yw sefydliad nad yw'n ysbyty at ddiebnion Rhan II o Ddeddf 1983, y mae person wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas ag ef fel ysbyty annibynnol lle caiff triniaeth neu nyrsio (neu'r ddau) eu darparu i bersonau sy'n agored i gael eu cadw o dan Ddeddf 1983.

(27)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources