- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio am y trydydd tro Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy.15), “y prif Reoliadau”).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae Rheoliadau Porthiant (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/892, “Rheoliadau Cymru a Lloegr”), sy'n gweithredu'r un newidiadau yn Lloegr ag a wneir mewn perthynas â Chymru gan y Rheoliadau hyn, yn cynnwys dwy ddarpariaeth sydd hefyd yn gymwys i Gymru a Gogledd Iwerddon. Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cymru a Lloegr yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i'r graddau y mae'n berthnasol i reoliad 11 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cymru a Lloegr) neu 12 o'r Prif Reoliadau. Mae rheoliad 5 o Reoliadau Cymru a Lloegr hefyd yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu—
(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/79/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 87/153/EEC sy'n pennu canllawiau ar gyfer asesu ychwanegion mewn maeth i anifeiliaid (OJ Rhif L267, 6.10.2001, t.1);
(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/102/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 1999/29/EC ar sylweddau a chynhyrchion annymunol mewn maeth anifeiliaid (OJ Rhif L6, 10.1.2002, t.45); ac
(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/1/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 94/39/EC o ran porthiant anifeiliaid i gynnal gwaith yr afu mewn achos o annigonedd cronig yr afu.
4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau canlynol—
(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2013/2001 ynghylch awdurdodiad dros dro ar ddefnydd ychwanegyn newydd ac awdurdodiad parhaol o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L272, 13.10.2001, t.24);
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2200/2001 ynghylch awdurdodiad dros dro o ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L299, 15.11.2001, t.1); ac
(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 256/2002 ynghylch awdurdodiad dros dro ar ychwanegyn ac awdurdodiad parhaol o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.6).
5. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn addasu darpariaethau'r prif Reoliadau sy'n darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hynny a wnaed o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (rheoliad 5);
(b)yn ychwanegu tri Rheoliad newydd gan y Comisiwn at restr Rheoliadau'r Comisiwn y rhoddwyd awdurdodiad odanynt i farchnata ychwanegion bwyd a gynhwysir yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (rheoliad 7 ac Atodlen 1);
(c)addasu'r rheolaethau yn y prif Reoliadau sy'n rheoli presenoldeb sylweddau annymunol mewn porthiant anifeiliaid drwy bennu uchafswm lefelau newydd ar gyfer Diocsin mewn porthiant (rheoliad 8 ac Atodlen 2);
(ch)addasu darpariaethau'r prif Reoliadau sy'n rheoli porthiant dietetig o ran y nodweddion maethlon a labelu porthiant sy'n ofynnol pan fwriedir ef i gynorthwyo swyddogaeth yr afu mewn achos o annigonedd cronig yr afu mewn cŵ n neu gathod (rheoliad 10 ac Atodlen 3);
(d)gwneud diwygiadau i'r prif Reoliadau i gywiro mân wallau ynddynt (rheoliadau 4 a 9); ac
(dd)gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny ac i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S.1999/1663), Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325) (rheoliadau 1999, 3, 6 ac 11 i 13).
(e)Noder hefyd yr effaith ar Reoliadau Cymru a Lloegr y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 uchod, sy'n addasu darpariaethau'r prif Reoliadau sy'n pennu'r weithdrefn i'w dilyn mewn perthynas ag asesu ychwanegion bwyd y ceisiwyd awdurdodiad marchnata ar eu cyfer ac o ran ceisiadau am awdurdodiad o'r fath (rheoliadau 3 a 5 o Reoliadau Cymru a Lloegr).
6. Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn a rhoddwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau'r Cyfarwyddebau i'r gyfraith ddomestig drwy'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ar gais oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Cymru), Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: