- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae Rheoliadau 1995 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.
Mae'r diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud i sylwedd Rheoliadau 1995 fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff 1 o reoliad 2 (dehongli) — mae'r diffiniad o “animal by-product premises” yn cael ei estyn i gynnwys safleoedd torri; mae'r diffiniad o “game processing facility” yn cael ei ddiwygio i beidio â chynnwys safleoedd torri; mae'r diffiniad o “occupier” wedi'i estyn i gynnwys meddiannwyr safle torri; mae'r diffiniad o “stained” wedi'i ddiwygio i ddarparu, yn achos sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cynnwys carcasau dofednod cyflawn, mai ei ystyr yw bod y toddiant staenio wedi'i ddodi ar ôl i wyneb y carcas gael ei agor â thoriadau lluosog a dwfn; ac mae diffiniadau o'r ymadroddion “cold store”, “cutting premises” a “slaughterhouse” yn cael eu mewnosod (rheoliad 2(2));
(b)mae rheoliad 4 (cwmpas) yn cael ei ddisodli gan ddarpariaeth sy'n darparu mai'r unig garcasau cyfan y mae rhaid eu sterileiddio neu eu staenio yw carcasau cyfan dofednod sy'n dofednod marw adeg cyrraedd lladd-dy neu sydd wedi'u gwrthod yn dilyn archwiliadau iechyd cyn cigydda neu archwiliadau post-mortem a gynhaliwyd ar safle o'r fath. (rheoliad 2(3));
(c)mae'r esemptiad rhag cymhwysiad y Rheoliadau sydd wedi'i gynnwys yn rheoliad 5(2)(a) ac sy'n gweithredu o blaid sgil-gynhyrchion dofednod wedi'i ddileu (rheoliad 2(4));
(ch)mae'r esemptiad rhag cymhwysiad y Rheoliadau sydd wedi'i gynnwys yn rheoliad 5(2)(c) ac sy'n gweithredu o blaid tynnu offal gwyrdd o safleoedd sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cyfleusterau prosesu helgig a lladd-dai yn cael ei estyn i fod yn gymwys o blaid storfeydd oer a safleoedd torri hefyd (rheoliad 2(5));
(d)mae rheoliad 6 (sy'n gosod gofynion ar hyn o bryd mewn perthynas â sterileiddio a staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn lladd-dai a chyfleusterau prosesu adar hela yn unig) yn cael ei ddisodli gan ddarpariaeth sy'n gymwys mewn perthynas â safleoedd torri hefyd (rheoliad 2(6));
(dd)mae rheoliad 8 (sydd ar hyn o bryd yn gosod gofynion mewn perthynas â rhewi sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn safleoedd sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cyfleusterau prosesu adar hela a lladd-dai yn unig) yn cael ei ddisodli gan ddarpariaeth sy'n gymwys mewn perthynas â safleoedd torri hefyd (rheoliad 2(7));
(e)mae rheoliad 9 (sydd ar hyn o bryd yn gosod gofynion mewn perthynas â storio a phecynnu sgil-gynhyrchion anifeiliaid) yn cael ei ddisodli gan ddarpariaeth sy'n gosod gofynion mewn perthynas â storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid sydd heb eu sterileiddio yn yr un ystafell â chynhyrchion sydd wedi'u bwriadu i bobl eu bwyta ac mewn storfeydd oer, safleoedd torri, cyfleusterau prosesu adar hela a lladd-dai (rheoliad 2(8)); ac
(f)mae rheoliad 10 (sydd ar hyn o bryd yn gosod cyfyngiadau ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid o safleoedd sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cyfleusterau prosesu adar hela a lladd-dai yn unig) yn cael ei ddisodli gan ddarpariaeth sy'n gymwys mewn perthynas â storfeydd oer a safleoedd torri hefyd (rheoliad 2(9)).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copi ohono wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau pellach oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: