- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (“y prif Orchymyn”) (O.S. 2002/280 (Cy.32)). Daw i rym am hanner dydd ar 10 Ebrill 2002.
Mae'r diwygiadau canlynol yn cael eu gwneud—
(a)mae'r diffiniad o “hunting” yn erthygl 2 yn cael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at “hare” (erthygl 2(2));
(b)mae symud defaid, geifr, camelidau a cheirw i fannau er mwyn iddynt dderbyn triniaeth filfeddygol, ar yr amod y byddant yn cael eu cadw ar wahân i anifeiliad eraill tra bônt yno, yn cael ei ychwanegu at y rhestr o symudiadau sy'n cael ei chofnodi yn erthygl 3(2)(b) o'r prif Orchymyn, sef symudiadau sydd wedi'u hesemptio o'r gofyniad cyfnod segur sy'n cael ei gofnodi a'i ddiffinio yn erthygl 3(1)(b) o'r Gorchymyn hwnnw (y “gofyniad cyfnod segur”) (erthygl 2(3)(a));
(c)mae dychwelyd yr anifeiliad y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) uchod o'r man derbyn triniaeth filfeddygol, ynghyd ag unrhyw epil y gannwyd iddynt yno, (ar yr amod eu bod hwy a'u hepil wedi eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill tra oeddent yno) yn cael ei ychwanegu at y rhestr o symudiadau sy'n cael ei chofnodi yn erthygl 3(3) o'r prif Orchymyn sef symudiadau sydd wedi'u hesemptio o'r gofyniad cyfnod segur yn y safle lle tarddodd yr anifeiliaid ohonno (erthygl 2(3)(b));
(ch)mae'r esemptiadau sy'n cyfateb ac sy'n bodoli eisoes yngl 246 yn â'r gofyniad cyfnod segur fel y maent yn gymwys i symud gwartheg i fannau er mwyn iddynt dderbyn triniaeth filfeddygol, neu eu symud oddi yno, yn cael eu diwygio er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gadw gwartheg ar wahân i anifeiliaid eraill tra yno (erthygl 2(3)(a) a (b));
(d)mae'r rhestr o symudiadau a gofnodir yn erthygl 3(3) o'r prif Orchymyn sef symudiadau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn cael ei diwygio er mwyn sicrhau na fydd symud camelid ar hirdaith drwy fan yn gwneud y camelid yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn y fan honno (erthygl 2(3)(b));
(dd)mae'r gofyniad (yn unol ag erthygl 3(3)(a)(i) a 3(5) o'r prif Orchymyn) i gadw moch ar wahân mewn cyfleusterau i'w cadw ar wahân sydd wedi'u cymderadwyo, pan maent yn dychwelyd o ganolfannau semeniad artiffisial neu fannau y'u symudwyd hwy iddynt er mwyn bridio neu driniaeth filfeddygol, i'r man yr oeddent yn tarddu ohono, os nad yw dychwelyd i fod yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn y mannau hynny, yn cael ei ddisodli gan ofyniad i gadw moch ar wahân i bob anifail arall yn y mannau hynny am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd (erthygl 2(3)(c)).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: