- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965) (“Rheoliadau 1997”) a Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964 fel y'i diwygiwyd gan OS 2000/2811) (“Gorchymyn 1997”) yn diffinio deunydd penodol o anifeiliaid buchol, defaid a geifr yn Ddeunydd Risg Penodedig ac yn cyfyngu ar ddefnyddio deunydd o'r fath i bobl ei fwyta. Mae Rheoliadau 1997 a Gorchymyn 1997 yn gymwys i'r Deyrnas Unedig gyfan.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Erthygl 1 o Benderfyniad gan y Comisiwn Ewropeaidd a fabwysiadwyd ar 6 Rhagfyr (“y Penderfyniad”) mewn perthynas â Chymru. Mae Erthygl 1 o'r Penderfyniad yn diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/418/EC yn rheoli defnyddio deunydd sy'n peri risgiau o ran enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy (OJ Rhif L158, 30.6.2000, t.76) drwy ymestyn y diffiniad o Ddeunydd Risg Penodedig i gynnwys y cyfan o goluddyn anifeiliaid buchol.
Mae Rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4(1) o Reoliadau 1997, sy'n ymdrin â deunydd buchol penodedig. Yn rhinwedd y diwygiad, bydd paragraff (1) newydd yn disodli paragraff 1 presennol rheoliad 4. Bydd y paragraff (1) newydd yn darparu fel a ganlyn —
Diffinnir y coluddyn o'r dwodenwm i'r rectwm bellach yn ddeunydd buchol penodedig, mewn perthynas ag anifeiliaid buchol sydd wedi'u cigydda neu sydd wedi marw mewn mannau heblaw Awstralia neu Seland Newydd (paragraff 1(a));
Diffinnir y pen, y thymws, y ddueg a'r madruddyn cefn sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw yn y Deyrnas Unedig neu Bortiwgal yn fwy na chwe mis oed yn ddeunydd risg buchol (paragraff (1)(b));
Diffinnir yr asgwrn cefn, gan gynnwys ganglia'r nerf ddorsal, sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw yn y Deyrnas Unedig neu Bortiwgal yn fwy na 30 mis oed, yn ddeunydd risg buchol. Ceir eithriad yn achos anifeiliaid buchol sydd wedi'u hardystio o dan y Cynllun Sicrwydd Eidion (paragraff (1)(c));
Diffinnir y benglog, y tonsilau a'r madruddyn cefn sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu Bortiwgal (heblaw Awstralia neu Seland Newydd) dros 12 mis oed, yn ddeunydd risg buchol (paragraff 1(d)).
Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff (1) o Erthygl 4 o Orchymyn 1997 yn yr un modd.
Mae ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 wedi digwydd. Yn unol ag adran 65(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheol Sefydlog 22.3 o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, penderfynodd Gweinidog y Cynulliad dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol na ddylid cynnal unrhyw arfarniad rheoleiddiol am nad oedd yn rhesymol ymarferol gwneud hynny o fewn yr amser a oedd ar gael, oherwydd y gofyniad i'r Penderfyniad gael ei weithredu erbyn 1 Ionawr 2001.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: