- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
LOCAL GOVERNMENT, WALES, FINANCE
Wedi'u gwneud
3 Chwefror 2000
Yn dod i rym
7 Chwefror 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 74, 140(4) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2000 a byddant yn dod i rym ar 7 Chwefror 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn
ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) 1995(3)
2. Rhodder yn lle rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau (cymhwyso) y rheoliad canlynol–
“3. These Regulations apply in relation to any levy of a National Park authority to be issued to, or anticipated by, a relevant billing authority in respect of financial years beginning on 1st April 2000 and 1st April 2001.”
3. Yn rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau (gosod ardollau) hepgorer paragraffau (1) a (2)
4. Yn rheoliad 6 o'r Prif Reoliadau (mwyafswm ardollau) yn lle paragraffau (5), (6) a (7) mewnosoder y paragraff canlynol
“(5) In this regulation –“the agreed proportion” and “the relevant proportion” shall be construed in accordance with regulation 5, “maximum amount” means the amount specified for each National Park authority in the following table —
| National Park Authority | Maximum Amount £ |
|---|---|
| Brecon Beacons National Park | 621,661 |
| Pembrokeshire Coast National Park | 677,779 |
| Snowdonia National Park | 878,558” |
5. Yn rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau (amnewid ardollau) yn lle paragraff (4) mewnosoder –“A new levy shall be issued in accordance with these Regulations.”
6. Bydd darpariaethau'r Prif Reoliadau fel yr oeddent yn bodoli yn union cyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw ardoll gan awdurdod Parc Cenedlaethol a osodir ar awdurdod bilio perthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Chwefror 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) 1995 (“Rheoliadau 1995”) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Diwygio) 1996. Mae Rheoliadau 1995 yn darparu bod Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn gosod ardollau ar gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol Cymru fel awdurdodau bilio ar gyfer y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli darpariaethau penodol yn Rheoliadau 1995 ar gyfer blynyddoedd ariannol 2000 a 2001 (rheoliadau 2 a 5). Bydd gofyn am ddeddfwriaeth bellach ar gyfer y blynyddoedd sy'n dilyn.
Mae Rheoliad 4 o'r Rheoliadau yn diddymu paragraffau (1) a (2) o reoliad 4 (gosod ardollau) o Reoliadau 1995. Mae'r paragraffau hynny yn atal awdurdod Parc Cenedlaethol rhag gosod ardoll cyn 15 Ionawr yn y flwyddyn ariannol sy'n rhagflaenu'r flwyddyn ariannol y mae ardoll yr awdurdod yn perthyn iddi, oni bai fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu maint y grant y mae'n barod i'w roi i'r awdurdod o dan adran 72 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Mae Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi paragraff (5) newydd yn lle paragraffau (5), (6) a (7) rheoliad 6 (mwyafswm yr ardollau y gellir eu gosod) o Reoliadau 1995. Mae Rheoliad 6 yn atal awdurdod Parc Cenedlaethol rhag codi drwy ardollau swm sy'n uwch na'r mwyafswm. Mae paragraff (5) yn darparu ar gyfer cyfrifo mwyafswm yr ardoll y gellir ei gosod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu'r grantiau ar gyfer y Parciau Cenedlaethol cyn y dyddiad, sef 15 Ionawr, y cyfeirir ato uchod. Mae paragraffau (6) a (7) yn darparu ar gyfer cyfrifo mwyafswm yr ardoll y gellir ei gosod pan nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu'r grant erbyn 15 Ionawr. Mae'r ddarpariaeth newydd yn pennu ar gyfer pob Parc Cenedlaethol fwyafswm unigol yr ardollau y gellir eu gosod gan bob Parc Cenedlaethol
Mae Rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau ôl-ddilynol
1988 c. 41. to which there are amendments that are not relevant to these Regulations.
See the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672).
S.I. 1995/3019; relevant amending instrument is S.I. 1996/2913
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: