Adran 55 – Yr ardal a gwmpesir ac aelodaethAdran 56 – Arfer swyddogaethau gan gynghorwyrAdran 57 – Darpariaeth ganlyniadol
67.Mae'r adrannau hyn yn galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i gael mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd y caniateir i swyddogaethau gweithrediaeth yr awdurdod hwnnw gael eu cyflawni. Mae adran 15 o Ddeddf 2000 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chyflawni swyddogaethau ar gyfer gweithrediaeth arweinydd a chabinet yng Nghymru. Mae adran 15(2) o Ddeddf 2000 yn darparu y caniateir i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb y weithrediaeth gael eu cyflawni gan (a) y weithrediaeth, (b) unrhyw aelod o'r weithrediaeth, (c) unrhyw bwyllgor i'r weithrediaeth a (d) unrhyw swyddogion i'r awdurdod.
68.Mae adran 55 o'r Mesur yn diwygio'r ddarpariaeth bresennol yn adran 18 o Ddeddf 2000 i roi i awdurdodau fwy o hyblygrwydd ynghylch aelodaeth o bwyllgor ardal sy'n cyflawni swyddogaethau penodedig yn ei ran ef o ardal yr awdurdod. Ar hyn o bryd, mae pwyllgor ardal yn bodloni'r amodau os yw'r aelodau o'r pwyllgor sy'n gynghorwyr wedi eu hethol ar gyfer adrannau etholiadol sy'n dod yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno. Yn ôl yr amodau presennol ar gyfer ardal, rhaid i'r ardal a gwmpesir gan y pwyllgor ardal beidio â bod yn fwy na dwy ran o bump o ardal gyfan yr awdurdod a phoblogaeth y rhan honno yn yr un modd.
69.Mae adran 56 yn gwneud darpariaeth newydd i alluogi aelod o awdurdod lleol sy'n cynrychioli'r weithrediaeth neu'r awdurdod ar gorff allanol i wneud penderfyniadau mewn perthynas â swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb gweithrediaeth yr awdurdod, ar yr amod bod y weithrediaeth neu'r awdurdod wedi cyflawni'r swyddogaethau hynny'n ffurfiol i'r aelod. Nid oes unrhyw bŵer i ddarparu ar gyfer hynny ar hyn o bryd.
70.Mae adran 57 yn gwneud newidiadau canlyniadol i Ddeddf 1972 a Deddf 2000. Mae'r diwygiadau i Ddeddf 1972 yn darparu bod aelodau sy'n arfer swyddogaethau yn gwneud cofnodion ysgrifenedig o benderfyniadau ac yn eu darparu i'r awdurdod. Mae'r newidiadau i Ddeddf 2000 yn caniatáu i swyddogaethau gweithrediaeth gael eu cyflawni'n unol â'r darpariaethau newydd ynghylch aelodau ac i'r aelodau hynny gael eu galw gerbron pwyllgor trosolwg a chraffu i ateb cwestiynau am y swyddogaethau hynny.
