Adran 36 – Darpariaeth ganlyniadol etc
56.Mae’n gwneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau yn Neddf 2000 i adlewyrchu’r ffaith bod y trefniadau amgen presennol yn cael eu dileu yng Nghymru. Nid oes angen mwyach yr adran 29(3) bresennol o Ddeddf 2000 sy’n caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru newid o drefniadau gweithrediaeth i drefniadau amgen; mae’r newidiadau eraill yn dileu cyfeiriadau at weithdrefnau mewn perthynas â gweithredu trefniadau amgen a fydd wedi darfod amdanynt pan gaiff yr opsiwn hwnnw ei ddileu.
57.Mae is-adrannau (5) – (8) yn caniatáu i awdurdod lleol sydd ar hyn o bryd yn gweithredu trefniadau amgen barhau i wneud hynny ar ôl i’r darpariaethau yn y Mesur ddod i rym. Effaith hynny yw caniatáu cyfnod trosiannol i awdurdod sy’n gweithredu trefniadau amgen; maent yn cysylltu â’r gofyniad ym mharagraff 2(4) o Atodlen 1 i’r Mesur hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fod wedi newid o drefniadau amgen i drefniadau gweithrediaeth cyn pen chwe mis ar ôl y dyddiad y daw adran 35 yn y Mesur hwn i rym.
