Rhan 10 – Cyffredinol
Adran 172 – Gorchmynion a rheoliadau
217.Mae’r adran hon yn darparu bod gorchmynion a rheoliadau o dan y Mesur hwn yn cael eu gwneud drwy offeryn statudol ac yn nodi gweithdrefnau’r Cynulliad mewn cysylltiad â’r offerynnau hyn.
Adran 173 – Y weithdrefn sy’n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127
218.Mae’n nodi’r weithdrefn y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn os byddant yn gwneud gorchymyn o dan adran 127 i wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad y maent yn meddwl ei fod yn atal neu’n rhwystro cynghorau cymuned rhag arfer eu pŵer (ynghylch llesiant) o dan adran 2(1) o Ddeddf 2000.
Adran 174 – Canllawiau a chyfarwyddiadau
219.Mae’n egluro pwerau Gweinidogion Cymru i roi canllawiau a rhoi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn.
Adran 175 – Dehongli
220.Mae’n darparu dehongliad o dermau penodol a gaiff eu defnyddio yn y Mesur hwn.
Adran 176 – Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau
221.Mae’r adran hon yn mewnosod is-adrannau (5) i (7) newydd yn adran 106 o Ddeddf 2000 i wneud darpariaeth ar gyfer gorchmynion a rheoliadau o dan yr adrannau newydd o’r Ddeddf honno a fewnosodir gan y Mesur i gael eu gwneud gan offeryn statudol ac mae’n nodi gweithdrefnau’r Cynulliad mewn cysylltiad â’r offerynnau hyn.
222.Mae hefyd yn cyflwyno Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau) ac yn gwneud darpariaeth i’r PAGA ragnodi cynllun i awdurdod lleol gan ddefnyddio’r rheoliadau presennol am gyfnod trosiannol ar gyfer y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill 2011 hyd at 31 Mawrth 2012. Mae’r PAGA i gyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf o dan y Mesur erbyn 31 Rhagfyr 2011 ac mae’r adroddiad i ymdrin â’r flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2012 hyd at 31 Mawrth 2013.