Adran 142 – Swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodau
161.Mae'n nodi swyddogaethau'r PAGA, ac yn benodol yn rhoi iddo fwy o hyblygrwydd mewn cysylltiad â diffinio'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a all gymhwyso cynghorwyr i gael taliadau, disgrifio'r mathau o daliadau a gosod lefelau taliadau i'r awdurdodau hynny a ddisgrifir yn adran 144. Mae Llywodraeth y Cynulliad o'r farn bod yr hyblygrwydd hwn yn angenrheidiol i ganiatáu i'r PAGA ymateb i wahanol amgylchiadau cynghorwyr ac awdurdodau.
162.Bydd y darpariaethau yn galluogi'r PAGA i bennu swm gwirioneddol taliad y caiff awdurdod ei wneud i aelod, gosod lefel uchaf taliad i aelod o'r awdurdod neu gyfyngu ar y gyfran o aelodau’r awdurdod sy’n gallu cael math penodol o daliad. Gallai'r Panel, mewn perthynas ag un neu ragor neu bob un o awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad, benderfynu gosod taliadau a allai gynnwys cyfraddau uchaf a chyfraddau gwirioneddol.
163.Mae'r ddarpariaeth yn is-adran (2) yn diffinio'r materion perthnasol y caiff y PAGA benderfynu arnynt o dan is-adran (1). Mae materion perthnasol yn rhai sy'n ymwneud â busnes swyddogol cynghorwyr fel y'i diffinnir yn is-adran (8) ac mae'n cynnwys taliadau i gynghorwyr sy'n arfer hawl i absenoldeb teuluol (fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 2 o'r Mesur hwn).
164.O dan is-adran (4) caiff y PAGA osod mynegrifau a chyfraddau addasu uchaf y caiff awdurdodau eu cymhwyso neu gyfeirio atynt wrth addasu eu cyfraddau talu o flwyddyn i flwyddyn. Caiff y PAGA hefyd benderfynu ar gyfran yr aelodau sy’n gallu cael math penodol o daliad er bod angen cydsyniad Gweinidogion Cymru os yw’r PAGA yn dymuno pennu’r gyfran yn uwch na hanner cant y cant.
165.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i'r PAGA, wrth osod swm neu gyfradd addasu uchaf neu fynegrif, gymryd i ystyriaeth effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar yr awdurdod o dan sylw.