ESBONIAD O’R ADRANNAU

Adran 3 – Darparu gwybodaeth

6.Yn unol â’r rheoliadau adeiladu, pan fydd hysbysiad yn cael ei roi i awdurdod lleol o’r bwriad i wneud gwaith adeiladu neu pan fydd cynlluniau llawn o waith o’r fath yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol, rhaid i wybodaeth fynd gyda’r hysbysiad neu’r cynlluniau er mwyn dangos bod modd i’r gwaith fodloni’r gofynion a ragnodir yn y rheoliadau a wneir o dan adran 1. Rhaid darparu’r wybodaeth ar y fath ffurf a all fod wedi’i rhagnodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

7.Pan fydd awdurdod lleol o’r farn nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn gyflawn neu nad yw’n dangos yn ddigonol y bydd y gwaith, unwaith y bydd wedi’i orffen, yn gallu cydymffurfio â’r gofynion a nodwyd yn adran 1(4), caiff roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farn honno i’r person a roddodd yr hysbysiad neu a adneuodd y cynlluniau, a rhaid rhoi’r cyfryw hysbysiad o fewn y “cyfnod perthnasol”, sef pum wythnos (neu hyd at ddau fis, os cytunwyd ar hynny) o ddyddiad cael yr wybodaeth. Caiff person sy’n cael ei hysbysu felly ddiwygio’r wybodaeth a roddwyd a chyflwyno’r wybodaeth wedi’i diwygio i’r awdurdod lleol, a bydd y cyfnod perthnasol yn dechrau adeg cael yr wybodaeth wedi’i diwygio. Caniateir cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cywirdeb y farn honno at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, a rhaid i’r cyfryw ffi ag a ragnodir mewn rheoliadau fynd gydag ef.