Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Cyflwyniad

1.Mae'r nodiadau esboniadol hyn yn ymwneud â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Ionawr 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 16 Mawrth 2011. Mae'r nodiadau wedi eu paratoi gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo'r darllenydd i ddeall y Mesur. Nid ydynt yn rhan o'r Mesur nac wedi eu hategu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2.Dylid darllen y nodiadau ar y cyd â'r Mesur. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod, yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r Mesur. Felly, pan fo’n ymddangos nad oes angen unrhyw esboniad neu sylw ar adran neu ran o adran, nis rhoddir.

3.Mae'r Mesur yn rhoi effaith bellach mewn cyfraith ddomestig i ddarpariaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Protocolau Dewisol iddo.

4.Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (“y Confensiwn”) yn gonfensiwn rhyngwladol sy'n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol plant. Cymeradwywyd testun y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn gan Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig ar 20 Tachwedd 1989.

5.Ar 16 Rhagfyr 1991, cadarnhaodd Llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon y Confensiwn a daeth i rym yn y Deyrnas Unedig ar 15 Ionawr 1992.

6.Mae'r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau hefyd ddau Brotocol Dewisol i'r Confensiwn. Mae'r cyntaf o'r rhain yn ymwneud â chynnwys plant mewn gwrthdrawiadau arfog, ac mae'r ail yn ymwneud â gwerthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.

7.Mae'n ofynnol o dan erthygl 44(1)(b) o'r Confensiwn i wledydd sydd wedi ei gadarnhau gyflwyno bob 5 mlynedd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (“y Pwyllgor”) adroddiad sy'n rhoi manylion y cynnydd a wnaed ganddynt tuag at weithredu'n llawn y Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol a chaniateir i'r gwledydd hyn ymddangos gerbron y Pwyllgor. Mae'r Pwyllgor wedi ei sefydlu o dan erthygl 43(1) o'r Confensiwn at ddiben archwilio'r cynnydd sydd wedi ei wneud gan Bartïon Gwladwriaethau tuag at ei weithredu. Mae'r Pwyllgor wedi ei ffurfio o ddeg arbenigwr yn y meysydd a gwmpesir gan y Confensiwn, a'r rheini'n arbenigwyr sydd wedi eu hethol i'r Pwyllgor gan y Gwladwriaethau sy'n bartïon i'r Confensiwn.

8.Yn Ionawr 2004, mabwysiadodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, y Confensiwn fel sail i ategu ei bolisïau ynghylch plant a phobl ifanc 0 i 25 oed (h.y. gan gynnwys y rhai sy’n 25 oed) a thrwy hynny atgyfnerthodd y “Saith Nod Craidd” yr oedd wedi eu llunio yn 2002 ar gyfer plant a phobl ifanc ar sail y Confensiwn. Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Gweinidogion Cymru yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

9.Wrth lunio ei pholisïau ynghylch plant a phobl ifanc yng Nghymru mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfeirio at ddau grŵp oedran. Cyfeirir at blant sydd o dan 11 oed fel “plant”, a chyfeirir at bobl sy'n 11 i 25 mlwydd oed fel “pobl ifanc”. Yn y Mesur hwn cyfeirir at bobl sydd o dan 18 oed fel “plant”, a chyfeirir at y rhai sy'n 18 i 24 mlwydd oed (h.y. gan gynnwys y rhai sy’n 24 oed) fel “pobl ifanc”. Mabwysiadwyd y dull gweithredu hwn er mwyn bod yn gyson â’r Confensiwn ac â Mater 15.6 yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y deilliodd y cymhwyster deddfwriaethol ar gyfer y Mesur hwn ohono.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources