Adran 31 – Eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: Cymru
53.Mae’r adran hon yn creu adran 130E newydd yn Neddf 1983 sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud trefniadau ar gyfer cymorth sydd i’w roi gan IMHAs. Rhaid trefnu bod y cymorth hwn ar gael i ddau grŵp o gleientau: cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymru.
54.Mae’r personau y bernir eu bod yn gleifion cymwys Cymru dan orfodaeth wedi’u nodi yn yr adran 130I newydd yn Neddf 1983 (fel y mae’n cael ei chyflwyno gan adran 35 o’r Mesur). Mae’r adran 130J newydd (fel y mae’n cael ei chyflwyno gan 36 o’r Mesur) yn nodi’r personau y bernir eu bod yn gleifion anffurfiol cymwys Cymru.
55.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi, er enghraifft, y safonau a’r cymwysterau y bydd angen i unigolyn eu bodloni er mwyn cael ei gymeradwyo fel IMHA. Caiff y rheoliadau hyn wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer achosion gwahanol. Bydd hyn yn caniatáu i ystyriaeth gael ei rhoi i anghenion gwahanol grwpiau gwahanol o gleifion.