Adran 17 – Dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl
28.O dan yr adran hon, mae darparydd gwasanaeth iechyd meddwl o dan ddyletswydd i gydgysylltu’r gwahanol wasanaethau iechyd meddwl y mae’n eu darparu, er mwyn gwella effeithiolrwydd y gwasanaethau hynny i’r claf unigol. Mae darparydd o dan ddyletswydd hefyd i gydgysylltu ei wasanaethau iechyd meddwl â’r rhai sy’n cael eu darparu gan ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl arall neu gan ddarparydd dielw yn y trydydd sector.
29.Y gwasanaethau iechyd meddwl sy’n gorfod cael eu cydgysylltu (os yw hyn yn gymwys i’r defnyddiwr gwasanaethau unigol) yw gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd sy’n cynnwys gwasanaethau gofal cymunedol penodol (gweler adran 49 o’r Mesur ), gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, ac (os yw’n gymwys) arfer pwerau awdurdod lleol mewn perthynas â gwarcheidiaeth o dan Ddeddf 1983.
30.Caiff y cydgysylltydd gofal (ar unrhyw adeg) roi cyngor i’r darparydd/darparwyr gwasanaeth ar sut i gyflawni’r ddyletswydd i gydgysylltu gwasanaethau. Pan fo cyngor o’r fath yn cael ei roi, mae’n rhaid i’r darparydd gwasanaeth ystyried y cyngor hwnnw, ac ar unrhyw adeg fe gaiff y darparydd gwasanaeth ofyn cyngor hefyd gan gydgysylltydd gofal y claf ar sut i gydgysylltu’r gwasanaethau.