Adran 2: Annibyniaeth, bod yn agored ac yn gynhwysol
8.Mae is-adran (1) yn sefydlu annibyniaeth y Bwrdd rhag unrhyw ddylanwad gan y Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
9.Mae is-adran (2) yn gosod dyletswydd bendant ar y Bwrdd i weithredu mewn modd agored a thryloyw yn gyffredinol. Mae hefyd yn ofynnol i’r Bwrdd roi gwybod i’r cyhoedd am ei weithgareddau drwy roi cyhoeddusrwydd iddynt ar wefan y Cynulliad. Mae is-adran (2) wedi’i hamodi gan is-adran (3) sy’n caniatáu i’r Bwrdd ystyried mater yn breifat pan fo’r Bwrdd o’r farn bod hynny’n briodol. Un enghraifft fyddai wrth gymryd cyngor cyfreithiol neu wrth bennu manylion terfynol penderfyniad drafft.
10.Mae is-adran (4) yn nodi rhestr o ymgynghoreion gan ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd ymgynghori â’r rhai hynny ohonynt y gallai ei benderfyniadau effeithio arnynt, ac eithrio pan fo’r Bwrdd o’r farn bod yna amgylchiadau a fyddai’n gwneud hynny’n amhriodol. Wrth ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad fel hyn, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd roi sylw i’w ddyletswydd i weithredu’n annibynnol o ran cyflawni ei swyddogaethau, yn unol ag is-adran (1).
