Cynllun cyffredinol y Mesur
3.Nod allweddol y Mesur yw trosglwyddo gwaith penderfynu ar daliadau Aelodau Cynulliad a deiliaid swyddi ychwanegol, rhai presennol a blaenorol, o Gomisiwn y Cynulliad i Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Bwrdd”). Roedd trosglwyddo’r cyfrifoldeb hwn yn ganolog i nifer o’r argymhellion a gafwyd yn adroddiad y Panel Adolygu Annibynnol (“y Panel”) o dan y teitl Yn Gywir i Gymru: Adolygiad annibynnol o’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad (Gorffennaf 2009). Mae’r adroddiad hwn i’w weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
4.Mae i’r Mesur 20 o adrannau a thair atodlen. Mae adran 1 yn sefydlu’r Bwrdd. Mae adrannau 2, 3 a 12 i 15 yn nodi swyddogaethau’r Bwrdd ac ym mha fodd y mae’n rhaid i’r swyddogaethau hynny gael eu harfer. Mae adrannau 4 i 7 ac Atodlenni 1 a 2 yn ymdrin â phenodi i’r Bwrdd a therfynu aelodaeth ohono. Yn adrannau 8 i 11 darperir ar gyfer materion o natur weinyddol, gan gynnwys telerau ac amodau penodi i’r Bwrdd, y cymorth gweinyddol iddo, amledd y cyfarfodydd a’r gofyniad bod rhaid cynhyrchu adroddiad blynyddol. Mae adran 16 ac Atodlen 3 yn nodi diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“y Ddeddf”) ac mae adran 17 yn diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Yn olaf, yn adrannau 18 i 20 ceir darpariaethau cyffredinol.