Adran 5 – Dyletswydd i gynnal asesiad modd
11.Mae is-adran (1) yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad ar fodd defnyddiwr gwasanaeth neu ddarpar ddefnyddiwr gwasanaeth pan fo’r amodau a nodir yn adran 4C wedi’u bodloni. Mae is-adran (2) yn datgymhwyso’r ddyletswydd hon yn yr achosion a nodir yn y rheoliadau a wnaed o dan yr is-adran honno. Mae is-adran (5) yn datgymhwyso’r ddyletswydd yn yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (5) oni bai bod rheoliadau a wnaed o dan yr is-adran honno yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.
12.Mae is-adrannau (3) a (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i lunio rheoliadau ynghylch sut dylid cynnal asesiadau modd.