Adran 16: Enw byr a chychwyn
15.Mae’r adran hon yn cyflwyno’r enw y bydd y Mesur yn cael ei adnabod wrtho yn gyffredinol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dod â’r Mesur i rym. Mae’r adran hon yn dod i rym ar y dyddiad y mae’n cael ei chymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn un o gyfarfodydd y Cyfrin Gyngor, a byddai gweddill y Mesur yn dod i rym yn unol â Gorchymyn Cychwyn a fyddai’n cael ei wneud gan Weinidogion Cymru.
16.Mae’r adran hefyd yn darparu bod y Mesur i gael ei gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg sydd wedi’i nodi yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996. Bydd hynny’n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer pwerau diofyn os bydd awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu’n torri darpariaethau’r Mesur hwn.