RHAGYMADRODD
1.Mae’r nodiadau esboniadol hyn yn cyfeirio at Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 fel y cafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 15 Hydref 2009. Maen nhw wedi’u paratoi gan Jenny Randerson AC, cynigydd y Mesur, i helpu’r sawl sy’n darllen y Mesur. Dylai’r Nodiadau Esboniadol hyn gael eu darllen ar y cyd â’r Mesur ond dydyn nhw ddim yn rhan ohono.