Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

RHAN 3 – GWASANAETHAU SY'N YMWNEUD AG ADDYSG, HYFFORDDIANT A SGILIAU

Adran 40 Gwasanaethau a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach

121.Mae is-adran (1) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach i ddarparu neu sicrhau “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr”. Gellir eu cyfarwyddo hefyd i gymryd rhan pan ddarperir gwasanaethau cymorth i ddysgwyr gan rywun arall.

122.Mae is-adran (3) yn rhoi ystyr eang i’r term “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr”. Yn unol â hynny, gall fod angen darparu amrywiaeth eang o wasanaethau o dan yr adran hon.

123.Mae is-adran (4) yn gosod y materion ategol y caniateir eu cynnwys mewn cyfarwyddyd gwasanaethau cymorth i ddysgwyr o dan is-adran (1). Er enghraifft, gall fod yn ofynnol i’r corff a gyfarwyddir roi sylw i ganllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru ynghylch darparu gwasanaeth penodol o ran cymorth i ddysgwyr.

124.Mae is-adran (5) yn nodi y caiff cyfarwyddyd o'r fath ymwneud â dosbarth penodol o bersonau ifanc, caiff hefyd ddarparu ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o bersonau a cheir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

125.Mae is-adran (6) yn darparu ar gyfer amhleidioldeb pan fydd gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn rhoi cyngor a gwybodaeth.  Mae'n darparu bod yn rhaid rhoi gwybodaeth mewn modd amhleidiol a bod yn rhaid cynnig cyngor yr ystyrir ei fod yn hybu budd pennaf y person ifanc ac nad yw'n ceisio hybu buddiannau neu ddyheadau unrhyw ysgol neu sefydliad neu berson neu gorff arall yn erbyn buddiannau gorau'r person ifanc o dan sylw.

Adran 41 Dyletswyddau cyrff llywodraethu

126.Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 40.

Adran 42 Diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000

127.Mae'r adran hon yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000.

128.Mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon i adran 126 o’r Ddeddf honno’n sicrhau bod y gofynion ynghylch trosglwyddo gwybodaeth, a materion perthynol, a osodir ar sefydliadau addysgol gan yr adran honno mewn perthynas â gwasanaethau cymorth i ieuenctid hefyd yn gymwys yn achos gwasanaethau cymorth i ddysgwyr. Er enghraifft, petai sefydliad addysg bellach yn darparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar gyfer disgybl cofrestredig, gallai fod yn ofynnol i ysgol y disgybl ddarparu (gyda chydsyniad y rhiant) yr wybodaeth berthnasol am y disgybl, megis ei gefndir addysgol.

129.Mae'r diwygiadau a wneir i adran 127 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn sicrhau bod gan Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) y pŵer i drefnu arolygiadau ar y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth i ddysgwyr.

Adran 43 Y ddogfen llwybr dysgu

130.Mae’r adran hon yn darparu bod pob “disgybl perthnasol” neu “fyfyriwr perthnasol” yn cael dogfen sy’n cofnodi ei lwybr dysgu. Mae llwybr dysgu disgybl neu fyfyriwr yn cynnwys y cyrsiau astudio cwricwlwm lleol y mae ganddo'r hawlogaeth i’w dilyn o dan y darpariaethau a fewnosodir gan Rannau 1 neu 2 o’r Mesur hwn ynghyd â’r gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a ddarperir ar ei gyfer  o dan adran 37 o’r Mesur hwn. Adwaenir y cofnod fel “y ddogfen llwybr dysgu”. O dan yr adran hon, dyletswydd pennaeth ysgol neu bennaeth Sefydliad Addysg Bellach yw cynhyrchu a diweddaru dogfennau llwybr dysgu.

Adran 44 Llwybrau dysgu: dehongli

131.Mae'r adran hon yn diffinio termau a ddefnyddir yn adran 43.

Adran 45 Darparu gwybodaeth am y cwricwlwm

132.Mae'r adran hon yn mewnosod adran newydd 45B yn Neddf Addysg 1997. Mae’n caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau gyrfa i'w gwneud yn ofynnol i ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach roi gwybodaeth iddynt am y cwricwlwm.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources