Adran 22 – Diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996
67.Mae adran 22 yn gwneud diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996. Mae adran 455 yn caniatáu codi tâl ac mae adran 456 yn ymwneud â’r rheoliad am daliadau a ganiateir. Mae’r diwygiadau a wneir gan adran 22 yn cymryd i ystyriaeth y pŵer a roddir gan adran 6 o’r Mesur i awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio. Mae codi tâl am y trefniadau teithio hynny mewn cysylltiad â phlant o oedran ysgol gorfodol yn ddarostyngedig i’r rheolau yn Neddf 1996. Mae’r rhain yn cynnwys darparu i riant plentyn dalu taliadau a ganiateir ac i awdurdodau benderfynu polisi codi tâl a pheidio â chodi tâl. Mae’r diwygiad a wneir gan is-adran (3) yn caniatáu i dâl a godir am drefniadau teithio a ddarperir yn unol ag adran 6 fod yn fwy na chost darparu’r trefniadau.