Adran 19 – Penderfynu ar breswylfa arferol mewn amgylchiadau penodol
57.Mae’r adran hon yn nodi’r darpariaethau ar gyfer penderfynu ar breswylfa arferol person mewn amgylchiadau penodol. Os nad oes gan berson breswylfa arferol, mae is-adran (1) yn datgan y dylai’r person gael ei drin at ddibenion y Mesur fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y man lle y mae’n preswylio am y tro.
58.Mae is-adrannau (2) i (6) yn gwneud darpariaeth i blentyn neu berson ifanc a chanddo fwy nag un cartref. Os nad yw rhieni plentyn yn cyd-fyw ond bod y plentyn yn byw gyda’r naill riant a’r llall, neu gyda rhiant ac mewn cartref plant hefyd, yna dylid ystyried bod y ddau fan preswyl yn fan preswyl arferol i’r plentyn at ddibenion y Mesur. Os oes mwy na dau o’r cyfryw fannau yna mae is-adran (6) yn datgan mai dim ond y ddau fan agosaf at yr ysgol neu’r sefydliad addysg fydd yn cyfrif.
59.Mae is-adran (7)(b) yn ei gwneud yn glir mai ystyr “rhiant” yw rhiant o fewn yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576(1) o Ddeddf Addysg 1996 ac sy’n unigolyn. Mae’r adran honno’n diffinio’r term rhiant fel pe bai’n cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sy’n berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant neu sy’n gofalu am y plentyn neu’r person ifanc. Gall y diffiniad hwn felly gynnwys tad-cu, mam-gu, nain a thaid, perthnasau eraill a gofalwyr maeth.