Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Adran 83 – Olyniaeth: dehongli

246.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynglŷn â dehongli termau a ddefnyddir yn yr adrannau sy’n ymwneud ag olynu, at ddibenion y Ddeddf yn fwy cyffredinol. Mae’n cynnwys darpariaeth i egluro y bydd person sy’n olynu i gontract safonol cyfnod penodol, ac ar ddiwedd y contract hwnnw y ffurfir contract safonol cyfnodol, yn parhau i gael ei drin fel olynydd mewn perthynas â’r contract cyfnodol hwnnw (yn yr un modd ag yr oedd yn olynydd mewn perthynas â’r contract cyfnod penodol blaenorol).

247.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth gyffelyb hefyd pan fo contract yn cael ei ddwyn i ben ar sail cefnu (gweler adran 220), ond bod y llys yn penderfynu na ddigwyddodd cefnu, a bod rhaid darparu llety addas arall i ddeiliad y contract. Mae hynny’n golygu, os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract gwreiddiol, y bydd hefyd yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas ag unrhyw gontract meddiannaeth sy’n cael ei ffurfio o ganlyniad i orchymyn o dan adran 222.

248.Mae’r adran hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n cynnal statws olynwyr â blaenoriaeth ac olynwyr wrth gefn o dan yr amgylchiadau a ganlyn:

  • pan drosglwyddwyd contract yn unol â gorchymyn eiddo teuluol,

  • pan oedd cael ei drin fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn yn amod o ran cydsynio i drafodiad, a

  • pan fo deiliad contract o dan gontract diogel yn dod yn ddeiliad contract o dan gontract diogel arall, naill ai gyda’r un landlord ag o dan y contract gwreiddiol neu mewn cysylltiad â’r un annedd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources