246.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynglŷn â dehongli termau a ddefnyddir yn yr adrannau sy’n ymwneud ag olynu, at ddibenion y Ddeddf yn fwy cyffredinol. Mae’n cynnwys darpariaeth i egluro y bydd person sy’n olynu i gontract safonol cyfnod penodol, ac ar ddiwedd y contract hwnnw y ffurfir contract safonol cyfnodol, yn parhau i gael ei drin fel olynydd mewn perthynas â’r contract cyfnodol hwnnw (yn yr un modd ag yr oedd yn olynydd mewn perthynas â’r contract cyfnod penodol blaenorol).
247.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth gyffelyb hefyd pan fo contract yn cael ei ddwyn i ben ar sail cefnu (gweler adran 220), ond bod y llys yn penderfynu na ddigwyddodd cefnu, a bod rhaid darparu llety addas arall i ddeiliad y contract. Mae hynny’n golygu, os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract gwreiddiol, y bydd hefyd yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas ag unrhyw gontract meddiannaeth sy’n cael ei ffurfio o ganlyniad i orchymyn o dan adran 222.
248.Mae’r adran hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n cynnal statws olynwyr â blaenoriaeth ac olynwyr wrth gefn o dan yr amgylchiadau a ganlyn:
pan drosglwyddwyd contract yn unol â gorchymyn eiddo teuluol,
pan oedd cael ei drin fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn yn amod o ran cydsynio i drafodiad, a
pan fo deiliad contract o dan gontract diogel yn dod yn ddeiliad contract o dan gontract diogel arall, naill ai gyda’r un landlord ag o dan y contract gwreiddiol neu mewn cysylltiad â’r un annedd.