Cyfrifoldeb dros y trefniadau derbyn cychwynnol
3.—(1) Gwneir y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd a fydd yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir gan —
(a)yr awdurdod addysg lleol, neu
(b)y corff llywodraethu dros dro lle bo'r awdurdod, gyda chytundeb y corff hwnnw, wedi dirprwyo iddynt y cyfrifoldeb dros benderfynu'r trefniadau hynny.
(2) Gwneir y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd a fydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir gan —
(a)y corff llywodraethu dros dro, neu
(b)yr hyrwyddwyr —
(i)lle nad yw'r corff hwnnw wedi'i sefydlu eto, a
(ii)lle bo'r hyrwyddwyr yn credu y byddai'n ddoeth i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed.