Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • ystyr “awdurdod derbyn” mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r person neu'r corff sy'n gyfrifol o dan reoliad 3 am wneud trefniadau derbyn cychwynnol yr ysgol;

  • ystyr “blwyddyn gychwynnol” mewn perthynas ag ysgol newydd yw'r flwyddyn ysgol pan dderbynnir disgyblion (neu y bwriedir y dylid eu derbyn) i'r ysgol;

  • ystyr “corff llywodraethu dros dro” yw —

    (i)

    corff llywodraethu dros dro a sefydlir o dan adran 44 o Ddeddf 1998,

    (ii)

    corff llywodraethu trosiannol sy'n cael ei drin fel corff a sefydlwyd felly yn rhinwedd rheoliad 13(5) o O.S. 1999/362, neu (fel y bo'r achos)

    (iii)

    corff llywodraethu dros dro sy'n cael ei drin fel corff a sefydlwyd felly yn rhinwedd rheoliad 13 o O.S. 1999/704;

  • ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(1);

  • ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996(2);

  • ystyr “Deddf 1998” yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “dyddiad agor ysgol” mewn perthynas ag ysgol newydd yw'r dyddiad pan fydd yr ysgol yn derbyn disgyblion gyntaf;

  • ystyr “O.S. 1999/124” yw Rheoliadau Addysg (Meysydd Perthnasol i Ymgynghori â Hwy ynglŷn â Threfniadau Derbyn)(3);

  • ystyr “O.S. 1999/125” yw Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) 1999(4);

  • ystyr “O.S. 1999/362” yw Rheoliadau Addysg (Trosglwyddiad i Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999(5);

  • ystyr “O.S. 1999/704” yw Rheoliadau Addysg (Trosglwyddiad i Fframwaith Newydd) (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) 1999(6);

  • ystyr “prif fynedfa” yw'r brif fynedfa i dir ac adeiladau'r ysgol dan sylw, neu (os yw'r ysgol ar fwy nag un safle) y brif fynedfa i brif adeilad gweinyddol yr ysgol;

  • ystyr “trefniadau derbyn cychwynnol”, ynglŷn ag ysgol newydd, yw'r trefniadau ar gyfer derbyn plant i'r ysgol (gan gynnwys polisi derbyn yr ysgol) ar gyfer y flwyddyn gychwynnol;

mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 84(6) o Ddeddf 1998;

  • mae i “ysgol newydd” yr ystyr a roddir i “new school” gan adran 72(3) o Ddeddf 1998 ac eithrio'r ffaith ei bod yn cynnwys ysgol neu ysgol arfaethedig gyda chorff llywodraethu dros dro y mae iddo'r ystyr a roddir gan y Rheoliadau hyn.

(2Ni fydd Rheoliadau 4, 5 a 6 yn gymwys lle bo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd a sefydlwyd fel rhan o gynigion a oedd yn cynnwys terfynu ysgol arall a gynhaliwyd gan awdurdod addysg lleol yn penderfynu y bydd y trefniadau derbyn cychwynnol yr un fath â rhai'r ysgol honno.

(1)

Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd pob un o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid, mewn perthynas â Chymru, ddehongli cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adrannau perthnasol o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a'r Atodleni iddi fel cyfeiriad, neu gyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad. Gweler adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.