Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 a gyflwynwyd i Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2024 ac a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 7 Gorffennaf 2025. Fe’u lluniwyd gan Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf, ond nid ydynt yn rhan ohoni. Pan fo’n ymddangos nad oes angen unrhyw esboniad neu sylw ar un o ddarpariaethau’r Ddeddf, nis rhoddir.

Crynodeb a’R Cefndir

2.Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Prif amcan y Ddeddf hon yw cyfrannu at y nod hwnnw drwy roi camau yn eu lle er mwyn ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf. Yn benodol, yr amcan yw i bob disgybl feithrin sgiliau llafar sydd gyfystyr â lefel B2 o’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.

3.Yn gryno, bydd y Ddeddf:

a)

yn rhoi sail statudol i’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, drwy ei gwneud yn ofynnol i strategaeth y Gymraeg gynnwys targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, o leiaf, erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;

b)

yn sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail lefelau cyfeirio cyffredin y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd;

c)

yn nodi bod tri chategori iaith statudol ar gyfer ysgolion (“Prif iaith – Cymraeg”, “Dwy Iaith”, a “Prif iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi’r categorïau iaith hynny, ynghyd â gofynion o ran isafswm yr addysg Gymraeg a ddarperir a nodau dysgu Cymraeg sydd ynghlwm wrth y categorïau;

d)

yn cysylltu’r cynllunio ieithyddol a wneir ar lefel genedlaethol (drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg), ar lefel sirol (drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg), ac ar lefel ysgol (drwy osod dyletswydd ar ysgolion i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg);

e)

yn sefydlu corff newydd, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a fydd yn gyfrifol am gefnogi pobl (o bob oedran) i ddysgu Cymraeg.

4.Mae’r diagram isod yn dangos sut mae Rhannau gwahanol o’r Ddeddf yn cyd-blethu i gyflawni’r prif nod o hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ar lefel genedlaethol, awdurdod lleol ac ysgol:

5.Isod, nodir yn fras strwythur y cynllunio ieithyddol, a’r atebolrwydd am y camau sydd i’w cymryd yn unol â hynny, a gyflwynir gan y Ddeddf. Fesul lefel, mae’r prif ddyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion fel a ganlyn: -

Y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg

a)

Gofyniad ar Weinidogion Cymru i gymryd pob cam rhesymol i weithredu eu Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg (adran 26), a bod rhaid iddynt adrodd ar y Fframwaith Cenedlaethol yn flynyddol (adran 29).

Cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol

b)

Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau a nodir yn y Fframwaith Cenedlaethol mewn perthynas â’i ardal (adran 26), a rhaid i’w gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru (adran 32). Rhaid i bob awdurdod lleol hefyd gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg (adran 33).

Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion

c)

c)Rhaid i gynllun cyflawni pob ysgol roi sylw i gynllun strategol lleol yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, a chael ei gymeradwyo gan yr awdurdod lleol hwnnw (adrannau 14 a 15). Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sicrhau bod yr ysgol yn darparu’r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer categori iaith yr ysgol, o leiaf (adran 10(6)) a chymryd pob cam rhesymol (adran 15(9)) i weithredu’r cynigion sydd yn ei gynllun cyflawni (gweler adran 14(e), (f), (g), (h) ac (i)).

6.Mae’r Ddeddf yn cynnwys 57 o adrannau a dwy Atodlen.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 – Hybu a Hwyluso Defnydd o’r Gymraeg

Adran 1 – Targedau strategaeth y Gymraeg: o leiaf miliwn o siaradwyr a chynnydd mewn defnydd

7.Effaith adran 1(1)(a) yw ei bod yn ofynnol i strategaeth Gweinidogion Cymru ar hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg, o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“strategaeth y Gymraeg”), gynnwys y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, o leiaf, erbyn 2050. Mae hyn yn darparu na chaiff unrhyw darged a osodir gan y strategaeth fod yn is nag un filiwn, ac mae’n adlewyrchu’r targed presennol a geir yn “Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr”, a gyhoeddwyd yn 2017, ac yn rhoi sail statudol iddo.

8.O dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i Weinidogion Cymru fabwysiadu strategaeth y Gymraeg sy’n nodi eu cynigion ar gyfer hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Rhaid iddynt gyhoeddi’r strategaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymru. Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar sut y gweithredwyd y cynigion yn y strategaeth a nodi pa mor effeithiol y bu gweithredu’r cynigion yn y strategaeth wrth hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Rhaid gosod copi o’r adroddiad gerbron y Senedd. Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi cynllun cyn dechrau pob blwyddyn ariannol yn nodi sut maent yn mynd i weithredu’r cynigion yn y strategaeth yn ystod y flwyddyn honno.

9.Mae adran 1 hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill y mae rhaid i’r strategaeth eu cynnwys. Rhaid i’r strategaeth osod targedau:

10.Mae’r targed o gael miliwn o siaradwyr yn sail i nod cyffredinol y Ddeddf hon, sef cynyddu nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio, ac yn gyrru’r targedau pellach a osodir ar lefel genedlaethol, awdurdod lleol neu ysgol – boed y targedau hynny ar gyfer defnydd mewn gweithleoedd, defnydd cymdeithasol neu ar gyfer y sector addysg a dysgu Cymraeg. Bwriedir hefyd i dargedau’r strategaeth osod cyd-destun a chyfeiriad i Weinidogion Cymru, i awdurdodau lleol, i’r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac i ysgolion wrth iddynt fynd ati i gynllunio eu gwaith. Bydd angen gweithredu cydlynol ar sawl lefel er mwyn gallu gwireddu nod cyffredinol y Ddeddf. Er enghraifft, mae’r targedau sy’n ymwneud ag addysg a bennir yn y strategaeth yn unol ag adran 1(1)(c), yn sail i’r cynnwys a’r targedau a osodir yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg (gweler Rhan 4).

11.Mae adran 1(1)(e) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnwys yn y strategaeth y camau y byddant yn eu cymryd i annog trosglwyddo’r Gymraeg, ac mae adran 1(1)(f) yn ei gwneud yn ofynnol i’r strategaeth bennu’r camau y bwriedir eu cymryd i annog cynnydd mewn defnydd digidol o’r Gymraeg. Mae adran 1(1)(g) yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i bennu meini prawf i fesur y cynnydd sydd ei angen er mwyn cyflawni targedau’r is-adran hon.

12.Mae adran 1(2) yn nodi y gall Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r targedau sy’n ofynnol i’r strategaeth eu gosod, yn unol ag adran 1(1)(c), ac sy’n ymwneud â:

13.Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried y targedau a bennir yn unol ag adran 1(1)(a)-(d) wrth iddynt nodi yn y strategaeth (adran 1(3)) eu cynigion ar gyfer hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Mae adran 1(4) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt nodi (yn y cynllun a gyhoeddir yn flynyddol o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) yr hyn y byddant yn ei wneud i gyflawni’r targedau y cyfeirir atynt yn adran 1(1)(a) a (b). Yn ogystal, mae’n ofynnol iddynt, yn unol ag adran 29, gynnwys gwybodaeth yn yr adroddiad blynyddol (o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) am sut y gweithredwyd y Fframwaith Cenedlaethol. Rhaid iddynt hefyd gynnwys gwybodaeth yn y cynllun (o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) am sut y byddant yn gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol. Mae adran 24 yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i nodi yn y Fframwaith Cenedlaethol sut y byddant yn gweithredu cynigion y strategaeth mewn perthynas â’r targedau a bennir yn unol ag adran 1(1)(c)-(d).

14.Mae adran 1(5) yn diwygio adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 o ganlyniad i’r darpariaethau hyn, ac yn ychwanegu Comisiynydd y Gymraeg yn ymgynghorai pan fo Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ar strategaeth y Gymraeg newydd neu ar ddiwygiadau iddi.

15.Mae adran 1(6) yn diffinio termau penodol at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf, gan gynnwys y diffiniad o “addysg Gymraeg”.

Adran 2 – Adrodd ar y targedau yn strategaeth y Gymraeg

16.Mae’r adran hon yn ffurfioli rôl atebolrwydd y Senedd o ran y targed o filiwn o siaradwyr a’r targedau eraill yn strategaeth y Gymraeg. Mae’r adran hon yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth yn adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ar sut y gweithredwyd eu cynigion yn strategaeth y Gymraeg.

17.O leiaf unwaith pob 5 mlynedd rhaid i’r adroddiad o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gynnwys dadansoddiad o sefyllfa’r Gymraeg, sy’n cynnwys yr elfennau a restrir yn adran 2(1)(a) i (f). Mae hefyd yn ofynnol i’r dadansoddiad asesu’r tebygolrwydd y bydd targedau strategaeth y Gymraeg yn cael eu cyflawni, gan gyfeirio at y meini prawf sydd wedi eu pennu i fesur cynnydd yn erbyn y targedau (adran 1(1)(g)).

18.Yn dilyn dadansoddiad o’r fath, ac os yw Gweinidogion Cymru yn dod i’r casgliad nad yw targed yn debygol o gael ei gyflawni, mae adran 2(2) i (4) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod datganiad gerbron y Senedd i esbonio’r rhesymau dros hynny a nodi’r camau pellach y byddant yn eu cymryd i gyflawni’r targed.

Adran 3 – Cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg

19.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch sut mae cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg at ddibenion adrannau 1 a 2.

20.O dan adran 3(1) bydd rheoliadau gan Weinidogion Cymru yn datgan y ffynonellau data sydd i’w defnyddio i gyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg, a bydd rhaid ystyried unrhyw ddata perthnasol sy’n deillio o gyfrifiad a gynhelir yn unol â Deddf Cyfrifiad 1920. Mae adran 3(2) yn datgan mai hunanasesiad (hynny yw, asesiad yr unigolyn ei hun o’i allu yn y Gymraeg) yw sail penderfyniad ynghylch a yw person yn siaradwr Cymraeg yn achos personau 17 oed a throsodd. Ar gyfer plant o dan 17 oed bydd hyn yn cael ei benderfynu naill ai ar sail hunanasesiad, neu asesiad gan riant neu ofalwr. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd, drwy reoliadau, bennu dull gwahanol o benderfynu a yw plentyn o dan 17 oed yn siaradwr Cymraeg at ddibenion adran 1 a 2, a phennu a ddylid defnyddio’r dull hwnnw yn ogystal â’r hunanasesiad neu’r asesiad gan riant neu ofalwr, neu yn ei le.

21.Mae adran 3(4) i (6) yn gwneud darpariaeth ynghylch llunio a chyhoeddi canllawiau ar asesiadau. Bydd y rhain yn cynorthwyo unigolion i gwblhau asesiadau, gan gynnwys hunanasesiad o’u gallu yn y Gymraeg, a hefyd yn cynorthwyo wrth gasglu data ynghylch nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried y Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg o dan adran 6 wrth lunio’r canllawiau.

Adran 4 - Adolygu safonau’r Gymraeg

22.Mae Rhan 4 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â safonau ymddygiad yn ymwneud â’r Gymraeg ac ynglŷn â gorfodi’r safonau. Mae rheoliadau o dan y Mesur yn pennu’r safonau ac fe’u gosodir ar gyrff penodol drwy hysbysiadau cydymffurfio a ddyroddir gan Gomisiynydd y Gymraeg.

23.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu rhai o’r safonau yng ngoleuni’r darpariaethau yn y Ddeddf hon, ac yn nodi nifer o drefniadau ar gyfer yr adolygiad hwnnw.

24.Yn unol ag adran 4(1) rhaid i’r adolygiad ystyried a oes angen diwygio safonau penodol er mwyn hwyluso cyflawni targed yn strategaeth y Gymraeg a bennir yn Rhan 1 neu (yn achos rhai o’r safonau hynny) er mwyn adlewyrchu darpariaethau a geir yn Rhan 2 (Disgrifio Gallu yn y Gymraeg) o’r Ddeddf hon.

25.O dan adran 4(2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn rhan o’r adolygiad. Rhaid iddynt gwblhau’r adolygiad o fewn 12 mis ar ôl iddynt gyhoeddi’r Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg o dan adran 7.

Rhan 2 – Disgrifio Gallu yn y Gymraeg ac Atodlen 1 – Mathau o Ddefnyddiwr  Cymraeg a Lefelau Cyfeirio Cyffredin

Adran 5 – Mathau o ddefnyddiwr Cymraeg a lefelau cyfeirio cyffredin

26.Mae’r adran hon ac Atodlen 1 yn sefydlu un dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg y bwriedir iddo fod yn addas ar gyfer pob cyd-destun.

27.Mae adran 5(1) yn cyflwyno Atodlen 1, sy’n cynnwys Tabl. Mae’r Tabl hwnnw yn gwneud darpariaeth sydd:

a)

yn disgrifio tri math o ddefnyddiwr Cymraeg;

b)

yn pennu lefelau (y cyfeirir atynt fel “lefelau cyfeirio cyffredin”) ar gyfer y mathau o ddefnyddiwr Cymraeg, ac

c)

yn disgrifio nodweddion cyffredinol y lefelau hynny.

28.Y tri math o ddefnyddiwr Cymraeg yw “defnyddiwr Cymraeg sylfaenol”, “defnyddiwr Cymraeg annibynnol”, a “defnyddiwr Cymraeg hyfedr”. Mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn disgrifio eu gallu yn y Gymraeg ar sail chwe lefel (A1-C2). Maent yn cael eu grwpio fel a ganlyn:

a)

defnyddiwr sylfaenol (A1 ac A2),

b)

defnyddiwr annibynnol (B1 a B2), ac

c)

defnyddiwr hyfedr (C1 ac C2).

29.Mae’r Tabl yn Atodlen 1 wedi ei atgynhyrchu (mewn perthynas â’r iaith Gymraeg) a’i gyfieithu o’r ddogfen Council of Europe (2020), Common European Framework of Reference for Languages: Learning, teaching, assessment – Companion volume, Cyhoeddi Cyngor Ewrop, Strasbwrg, ar gael yn www.coe.int/lang-cefr (ISBN 978-92-871-8621-8). Cyhoeddir y fersiwn Saesneg â chaniatâd Cyngor Ewrop, a’r fersiwn Gymraeg drwy drefniant gyda Chyngor Ewrop, o dan gyfrifoldeb Senedd Cymru yn unig.

30.Yn unol ag adran 5(2) a (3), mae gan Weinidogion Cymru y pŵer, drwy reoliadau, i ddiwygio’r Tabl yn Atodlen 1. Fodd bynnag, ni chânt ddefnyddio’r pŵer hwn oni bai bod angen gwneud hynny i ymateb i unrhyw newid a wneir i’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.

Adran 6 – Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg

31.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Cod a fydd yn esbonio sut i ddefnyddio’r lefelau cyfeirio cyffredin yn y Tabl yn Atodlen 1, ac yn disgrifio nodweddion y lefelau hynny yn fwy manwl. Bydd y Cod yn cynorthwyo defnyddwyr i ddefnyddio’r dull safonol a sefydlir ar gyfer disgrifio gallu defnyddwyr yn y Gymraeg mewn perthynas ag adran 5 a’r Tabl yn Atodlen 1.

32.Mae adran 6(2) yn nodi’r hyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ei gynnwys yn y Cod, ond o dan adran 6(3) gall hefyd gynnwys unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â disgrifio gallu yn y Gymraeg. Hynny yw nid yw’r Cod wedi ei gyfyngu yn unig i esbonio cynnwys y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.

Adran 7 – Cyhoeddi ac adolygu’r Cod

33.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi, adolygu a diwygio’r Cod. Gweler hefyd adran 52 am ddarpariaeth benodol ynghylch y ddyletswydd i gyhoeddi. Yn ogystal, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn cyhoeddi’r Cod neu God diwygiedig.

Rhan 3 – Addysg Gymraeg.Cyflwyniad

Adran 8 – Trosolwg a dehongli

34.Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r Rhan hon sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer yr hyn y mae’n ofynnol i ysgolion ac awdurdodau lleol ei wneud mewn perthynas â’u darpariaeth addysg Gymraeg.

35.Mae adran 8(2) yn diffinio termau y mae rhaid eu deall cyn ystyried gweddill Rhan 3, sef “addysg Gymraeg”, “addysg feithrin Gymraeg” ac “ysgol”. Mae’r diffiniad o’r term “ysgol a gynhelir”, a geir yn adran 51 (lle diffinnir termau eraill at ddibenion y Ddeddf), yn gymwys wrth ystyried y term “ysgol”.

Categorïau iaith ysgolion

Adran 9 – Categorïau iaith ysgolion

36.Mae’r adran hon yn sefydlu system i gategoreiddio pob ysgol (ac eithrio ysgolion arbennig cymunedol) yn unol â darpariaeth addysg Gymraeg yr ysgol. Mae tri chategori iaith ar gyfer ysgolion yng Nghymru:

(i)

Prif Iaith - Cymraeg,

(ii)

Dwy Iaith, a

(iii)

Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg.

37.Mae adran 9(1) yn datgan bod y categori iaith a ddynodir i ysgol yn penderfynu’r isafswm o addysg Gymraeg y mae rhaid ei ddarparu yn yr ysgol (yn unol ag adran 10) a nodau dysgu Cymraeg yr ysgol (yn unol ag adran 11). Dynodir categori i ysgol pan fydd ei gynllun cyflawni (sy’n nodi ei gategori) yn cael ei gymeradwyo (adrannau 15(5), 18(3) a 19(3)).

38.Pan ddynodir categori iaith i ysgol, rhaid i’r ysgol ddarparu swm o addysg Gymraeg sy’n cyfateb neu sy’n uwch na’r isafswm a nodir ar gyfer y categori hwnnw yn adran 10(2).

39.Yn unol ag adran 9(3), gall ysgol fod â mwy nag un categori iaith. Enghraifft bosibl fyddai ysgol gynradd a chanddi ddwy ffrwd ieithyddol wahanol.

40.Mae adran 9(3) hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas ag ysgolion a chanddynt fwy nag un categori iaith.

41.Ni ddynodir categori iaith i ysgolion arbennig cymunedol ond gweler adran 20 am ddarpariaeth benodol ar gyfer ysgolion arbennig cymunedol, sy’n cynnwys yr opsiwn o ddynodi categori iaith yn wirfoddol. Diffinnir y term “ysgol arbennig gymunedol” yn adran 51(2).

Adran 10 – Isafswm o ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith

42.Mae adran 10(2) yn nodi’r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith ac mae adran 10(1) yn esbonio bod y canrannau a bennir fel yr isafswm yn ganran o’r addysg a hyfforddiant a ddarperir dros flwyddyn ysgol yn ystod sesiynau ysgol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol. Nid yw darpariaeth Gymraeg a ddarperir y tu hwnt i sesiynau ysgol i’w chyfrif tuag at ddiwallu’r isafswm felly. Diffinnir y term “sesiynau ysgol” yn adran 51. Yn ogystal, mae’r isafswm yn cyfeirio at ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yr ysgol yn gyffredinol – nid y ddarpariaeth a gaiff ei rhoi i bob disgybl unigol.

43.Mae adran 10(2) yn pennu mai’r isafsymiau ar gyfer y tri chategori yw:

a)

80% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Cymraeg”;

b)

50% ar gyfer y categori “Dwy Iaith”;

c)

10% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.

44.Yn unol ag adran 10(3), caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n diwygio’r isafsymiau yn adran 10(2). Fodd bynnag, ni chaiff yr isafswm diwygiedig fod yn llai na 80% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Cymraeg”, 50% ar gyfer y categori “Dwy Iaith”, a 10% ar gyfer y categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”.

45.Mae adran 10(4) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i benderfynu a ydynt am arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg” o fewn pob cyfnod 5 mlynedd. Rhaid iddynt benderfynu hynny o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y daw’r adran i rym, ac yna o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd wedi hynny.

46.Mae adran 10(5) yn rhoi dyletswydd bellach ar Weinidogion Cymru, wrth iddynt wneud penderfyniad i arfer y pŵer yn is-adran (3), i ystyried effaith debygol yr isafsymiau ar gyflawni’r targedau a bennir gan strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1 o’r Ddeddf hon. Mae hyn yn cynnwys y targed o filiwn o siaradwyr, a’r targedau eraill yn adran 1. Tra bod y ddyletswydd o dan is-adran (4) i benderfynu a ddylid diwygio’r isafswm yn codi bob 5 mlynedd, mae’r gofyniad yn is-adran (5) yn golygu bod rhaid gwneud y penderfyniad gan roi sylw penodol i’r amserlen o gyrraedd y miliwn erbyn 2050.

47.Mae adran 10(6) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol sicrhau bod yr ysgol yn darparu’r isafswm o addysg Gymraeg, o leiaf, ar gyfer y categori iaith a ddynodir i’r ysgol, ar gyfer pob blwyddyn ysgol y mae’r cynllun cyflawni yn berthnasol iddi. Diffinnir y term “blwyddyn ysgol” yn adran 51.

Adran  11 – Y nodau dysgu Cymraeg ar gyfer pob categori iaith

48.Mae adran 11(1) i (3) yn sefydlu’r nodau dysgu Cymraeg ar gyfer categorïau iaith ysgolion, sy’n seiliedig ar y lefelau cyfeirio cyffredin (a geir yn y Tabl yn Atodlen 1). Effaith adran 9(1) yw bod nod dysgu Cymraeg ysgol yn dibynnu ar ei chategori iaith. Mae adran 14 yn darparu bod rhaid i gynllun cyflawni gynnwys cynigion yr ysgol mewn perthynas â chyflawni nod dysgu Cymraeg yr ysgol.

49.Mae’r nodau dysgu fel a ganlyn:

Categori iaithNod dysgu Cymraeg
Prif Iaith - Cymraeg

Bod disgyblion yn ddefnyddwyr hyfedr o leiaf, erbyn iddynt beidio â bod o oedran

addysg gorfodol (lefel cyfeirio gyffredin C1 neu C2). Mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn disgrifio nodweddion cyffredinol defnyddiwr hyfedr.

Dwy IaithBod disgyblion, fel nod cychwynnol, yn ddefnyddwyr annibynnol o leiaf, erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol (lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2). Mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn disgrifio nodweddion cyffredinol defnyddiwr annibynnol.
Mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn, bod disgyblion yn ddefnyddwyr annibynnol a hefyd yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2 o ran rhyngweithio llafar erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol.
Prif Iaith -  Saesneg, rhannol GymraegBod disgyblion, fel nod cychwynnol, yn ddefnyddwyr sylfaenol, o leiaf, erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol (lefel cyfeirio gyffredin A1 neu A2). Mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn disgrifio nodweddion cyffredinol defnyddiwr sylfaenol.
Mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn, bod disgyblion yn ddefnyddwyr annibynnol erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol (lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2).
Mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a’r grwpiau blwyddyn sy’n dilyn, bod disgyblion yn ddefnyddwyr annibynnol a hefyd yn cyrraedd  lefel cyfeirio gyffredin B2  o ran rhyngweithio llafar erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

50.Pwrpas y nodau dysgu Cymraeg yw eu bod yn rhai sefydlog a throsfwaol a fydd wrth wraidd y gwaith o gynllunio darpariaeth addysg Gymraeg mewn ysgolion.

51.Bydd rheoliadau yn pennu dyddiadau ar gyfer uwchraddio’r nodau dysgu ar gyfer ysgolion yn y categori “Dwy Iaith” ac yn y categori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”.

52.Gan fod y nodau dysgu yn adran 11 yn seiliedig ar ddisgyblion yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin benodol erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol, mae adran 11(4) yn nodi sut y dylid dehongli’r nodau dysgu Cymraeg yng nghyd-destun ysgolion cynradd. Wrth ystyried nod dysgu ysgol gynradd rhaid tybio y bydd ei disgyblion yn aros mewn ysgol o’r un categori pan fyddant yn cael eu haddysg uwchradd. Effaith y dybiaeth felly yw bod rhaid i’r ysgol gymryd yn ganiataol bod y disgyblion yn aros mewn ysgol o’r un categori, yn hytrach na disgwyl i hynny ddigwydd.

53.Mae adran 11(5) yn gosod dyletswydd debyg ar Weinidogion Cymru i’r ddyletswydd a osodir gan adran 10(5), sef bod rhaid iddynt roi sylw i effaith debygol y nodau dysgu ar gyflawni’r targedau a bennir gan strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1 pan fyddant yn penderfynu pryd i uwchraddio’r nodau dysgu drwy reoliadau. Gan fod hyn yn cynnwys y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gwneir y penderfyniad i uwchraddio’r nodau dysgu gan roi sylw penodol i’r amserlen o gyrraedd y miliwn erbyn 2050.

54.Mae adran 11(6) yn diffinio’r term “lefel cyfeirio gyffredin B2 o ran rhyngweithio llafar”, a’r term “grŵp blwyddyn”.

Adran 12 – Asesu cynnydd tuag at gyflawni nodau dysgu Cymraeg

55.Mae adran 12 yn creu cyswllt rhwng y Ddeddf hon a Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae adran 56 o Ddeddf 2021 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch trefniadau asesu.

56.Mae’r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, yn y rheoliadau o dan adran 56 o Ddeddf 2021, wneud trefniadau i asesu cynnydd disgyblion tuag at gyflawni’r nodau dysgu Cymraeg.

57.Caiff y rheoliadau ynghylch trefniadau i asesu cynnydd disgyblion tuag at gyflawni’r nodau dysgu Cymraeg hynny gynnwys, ymhlith materion eraill, y materion a nodir yn adran 12(2)(a) a (b) ac felly wneud defnydd o’r dull safonol o ddisgrifio gallu yn y Gymraeg y mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ar ei gyfer.

58.Mae adran 12(2)(c) yn caniatáu gwneud trefniadau asesu gwahanol ar gyfer ysgolion categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg” sydd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg (gweler adrannau 18 a 19).

59.O dan adran 7 o Ddeddf 2021 rhaid i Weinidogion Cymru baratoi “Cod Cynnydd” sy’n nodi sut y mae rhaid i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant. Mae adran 12(3) yn diwygio Deddf 2021 at ddiben sicrhau bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio’r Cod Cynnydd, roi sylw i’r nodau dysgu Cymraeg a osodir gan adran 11 o’r Ddeddf hon. Mae’r ddyletswydd hon hefyd yn berthnasol wrth i Weinidogion Cymru gadw’r Cod Cynnydd o dan adolygiad.

Adran 13 – Rheoliadau ar gategorïau iaith ysgolion

60.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth bellach am gategorïau iaith ysgolion.

Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg

Adran 14 – Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion

61.Mae adran 14(1) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol lunio cynllun mewn perthynas â’r Gymraeg (“cynllun cyflawni addysg Gymraeg”), ac mae adran 14(1)(a) i (i) yn manylu ar yr hyn y mae rhaid ei gynnwys mewn cynllun o’r fath. Pwrpas hyn yw ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gynllunio ar gyfer darparu addysg Gymraeg, yn y tymor byr ac yn y dyfodol, a dilyn y cyfeiriad a osodir gan Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol perthnasol (gweler Rhan 4).

62.Mae adran 14(5) yn esemptio ysgolion arbennig cymunedol rhag gofynion yr adran hon (ond gweler adran 20 am y gofyniad iddynt gael cynllun addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol).

63.Yn unol ag adran 14(1)(a) i (c), rhaid i gynllun cyflawni nodi categori iaith ar gyfer ysgol, nodi’r ddarpariaeth bresennol (h.y. y swm) o addysg Gymraeg yr ysgol, ac esbonio sut y bydd y corff llywodraethu yn sicrhau bod yr ysgol yn darparu’r isafswm o addysg Gymraeg, o leiaf, yn unol â’i chategori iaith.

64.Yn unol ag adran 14(1)(d) rhaid i gynllun cyflawni nodi sut y bydd y corff llywodraethu yn hybu addysg drochi hwyr i ddisgyblion yn unol ag adran 23(3).

65.Yn ogystal â’r hyn y mae rhaid ei nodi yn unol ag adran 14(1)(c) (darparu’r isafswm o addysg Gymraeg, o leiaf, yn unol â’r categori iaith), yn unol ag adran 14(1)(e) rhaid i gynllun cyflawni nodi cynigion y corff llywodraethu am yr union swm o addysg Gymraeg y mae’r ysgol yn bwriadu ei ddarparu yn ystod cyfnod y cynllun, a sut y bydd yn cynnal y swm hwnnw, a’i gynyddu pan fo hynny’n rhesymol ymarferol.

66.Mae adran 14(1)(f) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cynllun cyflawni nodi gwybodaeth ynghylch darpariaeth addysg feithrin Gymraeg yr ysgol i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol (os cynigir darpariaeth o’r fath), a chynigion y corff llywodraethu ar gynnal y swm hwnnw o addysg feithrin Gymraeg, a chynyddu'r swm pan fo hynny’n rhesymol ymarferol.

67.Mae adran 14(1)(g) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu hefyd nodi yn ei gynllun cyflawni addysg Gymraeg ei gynigion ar sut i hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol a hybu defnydd o’r Gymraeg. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys trefnu gweithgareddau y tu hwnt i sesiynau ysgol yn meithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth o’r iaith Gymraeg ymhlith disgyblion a chymuned yr ysgol. Mae hefyd yn cynnwys cynigion ar sut i hwyluso gwelliant parhaus yn addysg Gymraeg yr ysgol a fyddai’n arwain at gynnydd ar hyd y lefelau cyfeirio cyffredin.

68.Mae adran 14(1)(h) yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun cyflawni addysg Gymraeg nodi cynigion, os yw’r ysgol yn ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” neu “Dwy Iaith”, ar sut y bydd yn cynorthwyo rheini nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus i gefnogi dysgu eu plant a chefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol.

69.Os yw corff llywodraethu ysgol yn bwriadu cynyddu swm ei ddarpariaeth addysg Gymraeg at ddiben newid categori, rhaid i’r cynllun cyflawni, yn unol ag adran 14(1)(i), nodi’r camau y bydd yr ysgol yn eu cymryd i wireddu hynny. Gweler hefyd adran 17 am ofynion penodol ynghylch diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol at ddiben newid ei chategori iaith.

70.O dan adran 30 (Rhan 4) rhaid i awdurdod lleol lunio cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg. Mae adran 14(2) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg ei awdurdod lleol wrth lunio cynllun cyflawni. Mae hefyd yn manylu ar y personau y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ymgynghori â hwy wrth lunio cynllun. Bwriad hyn yw sicrhau bod cyfle i randdeiliaid gyfrannu at benderfyniadau a wneir am yr addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgol ac, yn benodol, i’r awdurdod lleol gael rhoi barn ar ddigonolrwydd y cynllun cyflawni o ran bodloni darpariaethau’r cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg (Rhan 4). Bydd rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y cynllun wrth benderfynu a ddylid ei gymeradwyo o dan adran 15, ac mae’r ymgynghori yn gyfle cynnar i roi barn ar addasrwydd y cynllun cyflawni.

71.Mae adran 14(3) yn nodi bod cynlluniau cyflawni yn cael effaith am gyfnod o dair blwyddyn ysgol. Bydd Gweinidogion Cymru yn datgan, drwy reoliadau, â pha flwyddyn ysgol y mae cyfnod y cynllun cyflawni cyntaf yn dechrau. Bydd cyfnod cynlluniau cyflawni dilynol yn dechrau yn union ar ôl i’r cynllun cyflawni blaenorol ddod i ben.

72.Mae adran 14(4) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau at ddiben newid hyd y cyfnod y mae cynlluniau cyflawni yn cael effaith amdano, ac i wneud darpariaeth benodol am ffurf a chynnwys cynllun cyflawni.

Adran 15 – Cymeradwyo cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg

73.Mae adran 15(1) i (3) yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr hyn y mae’n ofynnol i gorff llywodraethu ei wneud wrth gyflwyno cynlluniau cyflawni. Mae adran 14 yn manylu ar yr hyn y mae’n ofynnol i gynllun cyflawni ysgol ei gynnwys.

74.Mae adran 15(1) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol gyflwyno i’r awdurdod lleol ddrafft o’r cynllun cyflawni y mae wedi ei lunio yn unol ag adran 14. Bydd y corff llywodraethu eisoes wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol wrth lunio cynllun yn unol ag adran 14(2). Rhaid cyflwyno’r cynllun drafft i’r awdurdod lleol o leiaf 9 mis (adran 15(2)) cyn dechrau’r cyfnod y mae’r cynllun yn cael effaith amdano (gweler adran 14(3)).

75.Mae adran 15(3) yn nodi ei bod yn ofynnol i’r corff llywodraethu, wrth gyflwyno’i ddrafft, gynnwys crynodeb o unrhyw ymatebion i’w gynllun a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori.

76.Mae adran 15(4) i (6) yn nodi’r camau y caiff yr awdurdod lleol eu cymryd mewn perthynas â chynllun cyflawni sydd wedi ei gyflwyno iddo o dan adran 15(1). Caiff gymeradwyo’r cynllun, gydag addasiadau neu hebddynt, neu ei wrthod. Diben y ddarpariaeth hon yw sicrhau bod awdurdod lleol yn gallu dylanwadu ar addysg Gymraeg o fewn ei ardal, a bod modd iddo gyflawni’r targedau a osodir arno gan Weinidogion Cymru yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg. Os yw awdurdod lleol yn gwrthod cynllun cyflawni, rhaid iddo roi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu i ailystyried y cynllun. Rhaid i’r cyfarwyddyd hwnnw roi’r rhesymau dros y penderfyniad a phennu erbyn pryd y mae’n rhaid i’r corff llywodraethu gyflwyno drafft pellach o’r cynllun i’r awdurdod lleol.

77.Mae adran 15(4) i (6) hefyd yn gymwys i gynllun cyflawni sy’n cael ei ailgyflwyno. Mae hyn yn golygu y gallai fod angen ailgyflwyno cynllun cyflawni fwy nag unwaith os yw awdurdod lleol yn parhau i fod o’r farn nad yw am gymeradwyo’r cynllun cyflawni.

78.Mae adran 15 wedi’i llunio gyda’r bwriad y bydd awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol yn cytuno ar gynnwys cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol. Felly nid oes modd i awdurdodau lleol, o dan yr adran hon, lunio cynllun cyflawni ar ran ysgol. Dylid nodi, fel cyrff cyhoeddus, fod rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion weithredu yn rhesymol. Pe bai oedi wrth gytuno ar gynllun cyflawni, neu os credir bod corff llywodraethu ysgol neu awdurdod lleol wedi gweithredu yn afresymol, caiff awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru (fel sy’n briodol) ystyried arfer eu pwerau ymyrryd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (gweler hefyd adran 50 o’r Ddeddf hon).

79.O dan adran 15(8) rhaid i gynllun cyflawni ysgol sydd wedi ei gymeradwyo gael ei gyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys ei gyhoeddi ar wefan yr ysgol os oes gan yr ysgol honno wefan. Gweler adran 52 am ddyletswyddau penodol o ran cyhoeddi dogfennau.

80.Mae adran 15(9) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion o dan adran 14(1)(e) i (i) sydd yn y cynllun cyflawni y mae awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo.

Adran 16 - Adolygu a diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg

81.Mae adran 16(1) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol adolygu ei gynllun cyflawni o leiaf unwaith cyn diwedd y cyfnod y mae’r cynllun yn cael effaith amdano.

82.Gan ystyried hyn, mae adran 16(2) yn caniatáu i gorff llywodraethu ysgol ddiwygio ei gynllun cyflawni yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn cael effaith. Unwaith y daw cyfnod y cynllun i ben bydd rhaid cyflwyno a chymeradwyo cynllun newydd ar gyfer y cyfnod nesaf (adran 14). O dan adran 16(3) i (4) rhaid i gorff llywodraethu ysgol roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol (gweler adran 30) wrth adolygu neu ddiwygio’r cynllun cyflawni, a chyflwyno drafft diwygiedig i’r awdurdod lleol. Mae adran 16(5) yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i ddarparu crynodeb o’r diwygiadau a gynigir a’r rhesymau drostynt.

83.Mae adran 16(6) i (7) yn nodi’r camau y caiff yr awdurdod lleol eu cymryd mewn perthynas â’r cynllun cyflawni diwygiedig sydd wedi ei gyflwyno iddo o dan adran 16(3). Caiff gymeradwyo’r cynllun, gydag addasiadau neu hebddynt, neu ei wrthod.

84.Os yw awdurdod lleol yn gwrthod cynllun cyflawni diwygiedig, rhaid iddo roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu i ailystyried y cynllun. Rhaid i’r awdurdod lleol nodi’r rhesymau dros y penderfyniad a phennu erbyn pryd y mae rhaid i’r corff llywodraethu gyflwyno drafft pellach o’r cynllun cyflawni i’r awdurdod lleol.

85.Os oes rhaid i gorff llywodraethu gyflwyno drafft pellach o’r cynllun cyflawni, rhaid i’r cynllun hwnnw gael ei gyflwyno yn unol ag adran 16(5) i (7). Gallai fod angen ailgyflwyno cynllun cyflawni diwygiedig fwy nag unwaith.

86.Yn unol ag adran 16(9), rhaid i gynllun cyflawni ysgol sydd wedi’i ddiwygio a’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol gael ei gyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys ei gyhoeddi ar wefan yr ysgol os oes gan yr ysgol honno wefan. Gweler adran 50 am ddyletswyddau penodol o ran cyhoeddi dogfennau. Mae hefyd yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion o dan adran 14(1)(e) i (i) yn y cynllun cyflawni diwygiedig y mae awdurdod lleol wedi’i gymeradwyo.

Adran 17 – Diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg er mwyn newid categori iaith ysgol

87.Mae adran 17 yn gymwys pan gynigir diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol at ddiben newid categori iaith yr ysgol yn ystod y cyfnod pan fo’r cynllun yn cael effaith. Mae’n darparu na chaniateir i ysgol categori “Prif Iaith – Cymraeg” ddiwygio cynllun cyflawni a fyddai’n newid categori iaith yr ysgol i gategori “Dwy Iaith” na chategori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”, nac ychwaith i ysgol categori “Dwy Iaith” newid ei chategori iaith i’r categori “Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg”. Mae hyn yn ategu’r egwyddorion a osodir yng ngofynion adran 14(1)(e) i (i), sef y dylid llunio cynigion i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yr ysgol pan fo’n rhesymol ymarferol, a hwyluso gwelliant parhaus yn addysg Gymraeg yr ysgol. Maent hefyd yn adlewyrchu’r gofyniad i gynnwys targedau am gynyddu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y strategaeth (adran 1(1)(c)).

88.Os yw cynllun cyflawni yn cael ei ddiwygio at ddiben newid categori iaith, mae adran 16 hefyd yn gymwys o ran hynny. Yn ychwanegol, mae’r gofyniad i ymgynghori â’r personau sydd wedi’u rhestru yn adran 14(2)(b) yn gymwys.

Adran 18 – Isafswm o addysg Gymraeg: esemptiad dros dro

89.Mae adran 18 yn gwneud darpariaeth ar gyfer esemptio ysgolion rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg sy’n ofynnol i ysgol categori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”, sef 10% o’r addysg a hyfforddiant a ddarperir ar draws sesiynau ysgol mewn blwyddyn ysgol i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol. Nid oes modd i gyrff llywodraethu ysgolion sy’n nodi eu bod yn y categori “Dwy Iaith” neu “Prif iaith – Cymraeg” yn eu cynllun cyflawni wneud cais am esemptiad dros dro. Os nad yw ysgol yn gallu darparu’r isafswm gofynnol ar gyfer y categori “Prif iaith – Cymraeg”, dyweder, yna byddai’n nodi categori “Dwy Iaith” yn ei gynllun cyflawni hyd nes y gall ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg sy’n ofynnol ar gyfer y categori “Prif iaith – Cymraeg”.

90.Mae’n bosibl i gorff llywodraethu ysgol gael esemptiad os, wrth lunio ei gynllun cyflawni cyntaf, ei fod o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg âr gyfer ysgol categori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”, sef 10% (adran 10(2)(c)). Yn yr un modd, os yw corff llywodraethu yn dod i’r casgliad nad yw’n rhesymol ymarferol i ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg âr gyfer ysgol categori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” ar ôl dechrau cyfnod ei gynllun cyflawni cyntaf, caiff gynnig diwygio’r cynllun (o dan adran 16) i adlewyrchu hyn a cheisio esemptiad.

91.Mewn achosion o’r fath rhaid i gynllun cyflawni gynnwys elfennau ychwanegol os yw’r ysgol yn ceisio esemptiad. Mae adran 18(2)(d) yn datgan yn benodol fod rhaid i gorff llywodraethu ysgol nodi’r gefnogaeth y mae ei hangen arno er mwyn darparu’r isafswm o addysg Gymraeg. Bydd yr awdurdod lleol ei hun yn ddarostyngedig i ddarpariaethau ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg (adran 30) a’r gofyniad i gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau a osodir arnynt yn y Fframwaith Genedlaethol (adran 26). Felly, er mwyn bodloni’r darpariaethau hyn bydd angen i’r awdurdod lleol gefnogi ysgolion i gynyddu eu haddysg Gymraeg fel eu bod yn bodloni’r isafswm o addysg Gymraeg.

92.Fel y darperir yn adran 15, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gymeradwyo cynlluniau cyflawni. Gan hynny, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu — drwy gymeradwyo’r cynllun — a yw’r ysgol wedi ei hesemptio rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg. Er enghraifft, os yw’r awdurdod lleol o’r farn nad oes rhwystrau rhesymol ymarferol sy’n atal ysgol rhag darparu’r isafswm o addysg Gymraeg, gallai fod yn briodol i’r awdurdod lleol roi cyfarwyddyd i’r ysgol ailystyried y cynllun cyflawni.

93.Pan fo’r awdurdod lleol yn cymeradwyo’r cynllun, y mae’r corff llywodraethu wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg sy’n ofynnol, a bydd yr ysgol yn cael ei dynodi yn ysgol categori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” er nad yw’n darparu’r isafswm a fyddai’n ofynnol am y tro. Bydd yr esemptiad yn cael effaith tan ddiwedd cyfnod y cynllun cyflawni cyntaf yn unol ag adran 18(3)(a). Fodd bynnag, yn unol ag adran 18(2)(c), rhaid i’r corff llywodraethu nodi erbyn pa ddyddiad y bydd yn sicrhau y gall yr ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg. Yn ystod cyfnod yr esemptiad dros dro, mae’n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynigion sydd wedi eu nodi yn y cynllun cyflawni, sy’n cynnwys y cynigion i sicrhau y bydd yr ysgol yn gallu darparu’r isafswm.

Adran 19 – Isafswm o addysg Gymraeg: esemptiad pellach

94.Mae adran 19 yn gwneud darpariaeth ar gyfer esemptiad pellach (hyd at gyfnod o dair blynedd ychwanegol) ar gyfer corff llywodraethu ysgol a gafodd esemptiad mewn perthynas â’i chynllun cyflawni cyntaf. Yn yr un modd ag esemptiad o dan adran 18, dim ond i ysgolion categori “Prif iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg” y mae ail esemptiad yn gymwys. Mae ail esemptiad yn bosibilrwydd os yw’r corff llywodraethu yn parhau i fod o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol i’r ysgol ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg. Dim ond wrth lunio’r ail gynllun cyflawni y mae’n bosibl gwneud cais am esemptiad pellach (ac nid yn ystod cyfnod yr ail gynllun cyflawni).

95.Mae adran 19(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ail gynllun cyflawni gynnwys elfennau ychwanegol os yw’r corff llywodraethu yn ceisio ail esemptiad o dan yr adran hon. Mae hyn yn cynnwys y rhesymau pam na weithredwyd y cynigion yn y cynllun cyflawni cyntaf i sicrhau darpariaeth yr isafswm, neu pam nad oedd y cynigion hynny wedi llwyddo. Rhaid i gorff llywodraethu hefyd nodi’r gefnogaeth y mae ei hangen arno er mwyn diwallu’r isafswm o addysg Gymraeg cyn gynted ag y bo modd, heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod ychwanegol o dair blynedd.

96.Mae i’r ail esemptiad yr un effaith â’r esemptiad cyntaf, ac eithrio nad oes esemptiad absoliwt tan ddiwedd y cyfnod o dair blynedd (fel a geir yn adran 18(3)(a)). Yn lle hynny, mae’r esemptiad rhag darparu’r isafswm o addysg Gymraeg yn gymwys tan y dyddiad sydd wedi ei nodi yn y cynllun cyflawni. Er enghraifft, os yw ail gynllun cyflawni ysgol yn cynnig y bydd yn darparu’r isafswm o addysg Gymraeg erbyn diwedd ail flwyddyn y cynllun hwnnw, ni fydd yr esemptiad yn gymwys ar gyfer trydedd flwyddyn y cynllun. Yn ogystal, mae adran 19(3)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru yn manylu ar y rhesymau pam y cymeradwywyd y cynllun cyflawni a arweiniodd at ail esemptiad ynghyd â gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth y mae’r awdurdod lleol (neu unrhyw un arall) wedi ei chynnig i gorff llywodraethu ysgol sydd wedi cael ail esemptiad. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i fonitro’r defnydd o ail esemptiadau fesul awdurdod lleol.

Ysgolion Arbennig

Adran 20 – Ysgolion arbennig cymunedol: cynlluniau a dynodi categori iaith

97.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol lunio cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol. Mae adran 51 o’r Ddeddf hon yn darparu bod i “ysgol arbennig gymunedol” yr un ystyr â “community special school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

98.Mae adran 20(1)(a) i (d) yn manylu ar yr hyn y mae rhaid ei gynnwys mewn cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol, ac mae adran 20(2) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach ynghylch cynllun o’r fath drwy reoliadau.

99.Mae adran 20(3) yn golygu na fydd categori iaith yn cael ei ddynodi i ysgol arbennig gymunedol fel mater o drefn. Fodd bynnag, caiff corff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol ddewis cael categori iaith ar gyfer ei ysgol ar sail wirfoddol os yw’n dymuno (“dynodiad gwirfoddol”). Yn unol ag adran 20(4) rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau at y diben hwn.

Ysgolion Meithrin a Gynhelir

Adran 21 – Cynlluniau cyflawni addysg feithrin Gymraeg

100.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir lunio cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg. Diffinnir y term “ysgol feithrin a gynhelir” yn adran 51.

101.Mae adran 21(1)(a) i (d) yn manylu ar yr hyn y mae rhaid ei gynnwys mewn cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg. Mae adran 21(2) yn gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol feithrin i roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol. Yn unol ag adran 21(3), caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach, drwy reoliadau, ynghylch cynllun o’r fath.

Cofrestr

Adran 22 – Cofrestr categorïau iaith ysgolion

102.O dan adran 22(1) rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr o gategorïau iaith yr ysgolion yn ei ardal (gweler hefyd adran 52 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â chyhoeddi dogfennau). Rhaid i’r gofrestr hefyd gynnwys cofnod o bob ysgol sydd wedi cael esemptiad rhag y gofyniad i ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg, a chategori iaith arfaethedig unrhyw ysgolion newydd y gwneir cynigion ar eu cyfer o dan adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn ogystal â chategori iaith arfaethedig ysgolion arfaethedig nad oes cynigion wedi eu gwneud ar eu cyfer eto o dan yr adran honno o’r Ddeddf honno. Yn unol ag adran 22(3) rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth bellach am y materion sydd i’w cynnwys yn y gofrestr ynghyd â’i ffurf a threfniadau cyhoeddi.

103.Mae adran 22(2) yn diwygio adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i gyfeirio at y gofrestr yn adran 22(1) o’r Ddeddf hon.

Addysg drochi hwyr

Adran 23 – Addysg drochi hwyr yn y Gymraeg

104.Mae adran 23(2) yn nodi’r hyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei wneud er mwyn codi a sicrhau ymwybyddiaeth ynghylch addysg drochi hwyr (a ddiffinnir yn adran 23(1)) fel bod rhieni neu warcheidwaid yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am addysg plentyn ar unrhyw bwynt. Mae’r dyletswyddau yn cynnwys annog cynnydd yn y galw am addysg drochi hwyr, ac annog mwy o gyfranogiad ynddi. Mae adran 23(2) hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r personau a restrir yn adran 23(2)(b)(i) i (v) ynghylch addysg drochi hwyr, a chymryd pob cam rhesymol i ddarparu addysg drochi hwyr sy’n diwallu’r galw yn ei ardal (adran 23(2)(c)).

105.Pan fo awdurdod lleol yn hysbysu corff llywodraethu ysgol am yr addysg drochi hwyr sydd ar gael, mae adran 23(3) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth am y ddarpariaeth o addysg drochi hwyr, a sut i gael mynediad ati, yn hysbys i ddisgyblion yr ysgol a’u rhieni.

Rhan 4 – Cynllunio Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.Y Fframwaith Cenedlaethol

Adran 24 - Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg

106.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg sy’n cwmpasu’r addysg a ddarperir i ddisgyblion o oedran addysg orfodol yn ogystal â dysgu Cymraeg gydol oes.

107.Rhaid i Weinidogion Cymru fabwysiadu strategaeth ar hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae rhaid i’r strategaeth gynnwys y targedau a nodir yn adran 1(1). Mae’n ofynnol i’r Fframwaith Cenedlaethol nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi strategaeth y Gymraeg ar waith yng nghyd-destun addysg Gymraeg, darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol ac o ran caffael y Gymraeg a dysgu Cymraeg gydol oes.

108.Mae adran 24(3) i (6) yn cynnwys gofynion o ran yr hyn y mae rhaid i Weinidogion Cymru ei gynnwys mewn Fframwaith Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys:

a)

nodi’r camau y byddant yn eu cymryd i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys mewn perthynas â chynyddu’r swm o addysg Gymraeg a gwella darpariaeth addysg Gymraeg mewn ysgolion;

b)

hybu addysg Gymraeg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg”, er mwyn cynyddu nifer y disgyblion sy’n mynychu’r ysgolion hynny;

c)

annog dilyniant o ran addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng gwahanol gyfnodau addysg;

d)

nodi’r camau y byddant yn eu cymryd i ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oed i ddysgu Cymraeg ar hyd eu hoes ac i gynnal a gwella eu gallu yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni: mewn gofal plant i’r rhai sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol, yn ystod gwahanol gamau o’u gyrfaoedd addysg ac yn y gweithle a’r gymuned;

e)

gosod targedau ar awdurdodau lleol i adlewyrchu unrhyw darged cenedlaethol a nodir yn strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1(1)(c) (dyma’r targedau sy’n sail i’r hyn y mae rhaid i awdurdodau lleol ei gynnwys yn y cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg (gweler adran 30));

f)

asesiadau a dadansoddiadau o ran sefyllfa gyfredol y ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn ardal pob awdurdod lleol, a’r hyn sydd ei angen o ran addysg Gymraeg i gyrraedd unrhyw darged a osodir ar awdurdodau lleol yn y Fframwaith Cenedlaethol.

109.Bwriedir i’r camau a nodir yn adran 24(3) gael eu hystyried ochr yn ochr â chamau ar lefel sirol gan awdurdodau lleol ac ar lefel leol mewn ysgolion. Mae’r tabl isod yn ymhelaethu ar y gofynion penodol mewn perthynas ag addysg Gymraeg mewn ysgolion, a sut y maent yn cydblethu â darpariaethau eraill:

Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol nodi’r camau sydd i’w cymryd er mwyn:Eglurhad pellach
Cynyddu’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg

Dyma’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cynyddu’r addysg Gymraeg y maent yn ei chynnig pan fo hynny’n rhesymol ymarferol.

Cydblethiad

Er bod y camau hyn i’w cymryd ar lefel genedlaethol, mae’r gofyniad hwn yn cyd-fynd â’r gofyniad ar lefel leol i ysgolion nodi yn eu cynlluniau cyflawni sut y byddant yn sicrhau cynnydd yn yr addysg Gymraeg pan fo hynny’n rhesymol ymarferol (gweler adran 14(1)(e)(ii) o’r Ddeddf hon).

Gwella’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg

Dyma’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd ar lefel genedlaethol i gynorthwyo ysgolion i wella eu haddysg Gymraeg.

Cydblethiad

Mae’r gofyniad hwn yn cyd-fynd â’r gofyniad:

(i)

ar lefel awdurdod lleol i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg nodi’r camau y bydd awdurdod lleol yn eu cymryd er mwyn gwella’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg (gweler adran 30(3)(a)(i));

(ii)

ar lefel ysgol: i ysgolion nodi yn eu cynlluniau cyflawni sut y byddant yn hwyluso gwelliant parhaus yn yr addysg Gymraeg (gweler adran 14(1)(g)(iii)).

Hybu addysg Gymraeg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” a chynyddu nifer y disgyblion sy’n mynychu ysgolion o’r categori hwnnw

Er mwyn sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau posibl i ddod yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol, a thrwy hynny esgor ar gyfleoedd newydd iddynt, mae gan Weinidogion Cymru rôl i’w chwarae o ran hybu addysg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg”.

Cydblethiad

Mae’r gofyniad hwn yn cyd-fynd â’r gofyniad ar lefel awdurdod lleol i nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i hybu a darparu gwybodaeth am yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” yn ei ardal (gweler adran 30(3)(b)).

Mae hefyd yn cyd-fynd â’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg drochi hwyr yn y Gymraeg yn adran 23(2).

Annog dilyniant o ran addysgu’r Gymraeg ac o ran addysg drwy gyfrwng y Gymraeg mewn amryw gyd-destunau

Dyma’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i annog disgyblion i ddilyn llwybr addysg Gymraeg sy’n gyson â’r ddarpariaeth flaenorol a gawsant. Drwy hynny, bydd disgyblion yn cael eu hannog i wneud cynnydd parhaus yn eu sgiliau Cymraeg ac adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes. Gallai hyn, er enghraifft, fod drwy barhau mewn ysgol o’r un categori iaith wrth symud o addysg gynradd i addysg uwchradd.

Cydblethiad

Mae’r gofyniad hwn yn cyd-fynd â’r gofyniad ar lefel awdurdod lleol i nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i hwyluso dilyniant o ran addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng—

(i)

addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol (gweler adran 30(3)(d)(i)),

(ii)

ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir (gweler adran 30(3)(d)(ii), a

(iii)

addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol (gweler adran 30(3)(d)(iii)).

Mae hefyd yn cyd-fynd â’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu mewn perthynas ag addysg drochi hwyr yn y Gymraeg yn adran 23 o’r Ddeddf hon.

110.Yn ogystal â’r targedau a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol o dan adran 24(5), mae adran 24(7) yn galluogi’r Fframwaith i osod targedau pellach ar awdurdodau lleol at ddiben gweithredu'r Fframwaith.

111.Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer hefyd, yn unol ag adran 24(8), i osod targedau ar yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol i hwyluso cyflawni targedau cenedlaethol (a gynhwysir yn strategaeth y Gymraeg) sy’n ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso’u cynnydd.

112.Yn ogystal, mae adran 24(9) yn caniatáu hyblygrwydd wrth wneud darpariaethau yn y Fframwaith Cenedlaethol. Fel un enghraifft gallai’r Fframwaith Cenedlaethol osod targedau gwahanol, yn unol ag adran 24(5), ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol.

113.Mae adran 24(10) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i ddiwygio adrannau 24(3) i (8) o ran cynnwys y Fframwaith Cenedlaethol.

Adran 25 – Y Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach ar y gweithlu addysg

114.Mae adran 25(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Fframwaith Cenedlaethol nodi’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd mewn perthynas ag ymarferwyr addysg yng Nghymru at ddiben gwella gallu yn y Gymraeg, yn benodol i sicrhau bod hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ar gael.

115.Yn unol ag adran 25(2)(a), rhaid i’r Fframwaith hefyd gynnwys asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y mae ei angen ymhob awdurdod lleol er mwyn cyrraedd targedau a osodir o dan adran 24(5) a (7). Rhaid i’r targed yn adran 24(5) fod yn gysylltiedig â tharged yn strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1(1)(c). Mae’r targedau yn yr adran honno’n gysylltiedig â:

116.Mae adran 25(2)(b) yn darparu bod rhaid i’r Fframwaith nodi’r camau penodol y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd, yn seiliedig ar yr asesiad hwnnw, i sicrhau bod nifer yr ymarferwyr addysg yn ateb y galw.

Adran 26 – Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol

117.Mae adran 26(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol.

118.Mae’n ofynnol, yn unol ag adran 26(2), i bob awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau a osodir arnynt gan y Fframwaith Cenedlaethol, ac i ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn cwblhau’r asesiadau a’r dadansoddiadau y cyfeirir atynt yn adrannau 24(6) a 25(2)(a), a phennu’r targedau a nodir yn adrannau 24(5) neu 24(7).

Adran 27 – Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach am gynnwys, adolygu a diwygio

119.O dan yr adran hon, wrthlunio neu ddiwygio’r Fframwaith Cenedlaethol, rhaid i Weinidogion Cymru nodi’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, yn unol â gofynion adran 24(3) a (4) ac adran 25, am gyfnodau o 10 mlynedd. Mae’r adran hefyd yn manylu ar y broses o adolygu a diwygio’r Fframwaith Cenedlaethol.

120.Rhaid adolygu a diwygio’r Fframwaith Cenedlaethol bob 5 mlynedd er mwyn diweddaru’r camau y bwriedir eu cymryd. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd adolygu targedau’r Fframwaith Cenedlaethol, a gosod targedau newydd yn ôl yr angen.

121.Mae adran 27(4) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r Fframwaith Cenedlaethol o bryd i’w gilydd, neu i lunio un newydd, ac mae adran 27(5) yn nodi pa adrannau o’r Ddeddf hon sy’n gymwys o ran gwneud hynny. Mae adran 27(7) yn nodi bod adran 27(6) yn gymwys i Fframwaith Cenedlaethol newydd fel y mae’n gymwys i’r Fframwaith Cenedlaethol cyntaf.

Adran 28 –Ymgynghori a chyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol

122.Mae’r adran hon yn cynnwys gofynion ar Weinidogion Cymru i ymgynghori wrth lunio neu ddiwygio’r Fframwaith Cenedlaethol, a gofyniad i gyhoeddi’r Fframwaith. Rhaid hefyd ei osod gerbron Senedd Cymru. Rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol cyntaf gael ei osod gerbron Senedd Cymru cyn 31 Gorffennaf 2028.

Adran 29 – Adrodd ar y Fframwaith Cenedlaethol

123.Mae’r adran hon yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnwys gwybodaeth am weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol yn yr adroddiad a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn flynyddol o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rhaid hefyd gynnwys yn y cynllun blynyddol ar Strategaeth y Gymraeg wybodaeth am sut y byddant yn gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol.

Cynlluniau lleol

Adran 30 - Cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

124.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer newid y system o gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a lunnir gan awdurdodau lleol. Cyflwynwyd cyfundrefn cynlluniau strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) gan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae’r Ddeddf hon yn cyflwyno cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg gan hepgor y darpariaethau o dan Ddeddf 2013 (gweler adran 36 o’r Ddeddf hon hefyd). Drwy ddarpariaethau’r Ddeddf hon bydd rhaid i gynlluniau strategol awdurdodau lleol ymateb i dargedau sydd wedi eu gosod arnynt yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, ac i gynlluniau cyflawni ysgolion roi sylw i dargedau cynlluniau strategol eu hawdurdodlleol. Rhaid i’r targedau a osodir ar awdurdodau lleol yn y Fframwaith Cenedlaethol adlewyrchu targedau cenedlaethol a osodir yn strategaeth y Gymraeg (adran 1(1)). Pwrpas cydgysylltu’r targedau yw sicrhau bod targedau yn galluogi gweithio tuag at yr un nod.

125.Yn unol ag adran 30 mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol lunio cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg sy’n cynnwys y materion a nodir yn adran 30(1) i (4).

126.Mae adran 30(1)(a) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i fanylu yn ei gynllun sut y bydd yn hybu a hwyluso, yn ei ardal, addysg Gymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion. Rhaid i gynllun hefyd, yn unol ag adran 30(1)(b), nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau sydd wedi’u gosod arno yn y Fframwaith Cenedlaethol (adran 26(2)(a)).

127.Mae adran 30(2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi yn eu cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, i’r graddau sy’n ofynnol gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau addysg i hybu a hwyluso addysgu’r Gymraeg ac addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg i blant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn ddisgyblion mewn ysgolion. Bydd hyn yn cynnwys plant sy’n derbyn addysg ac eithrio yn yr ysgol.

128.Mae adran 30(3)(a) i (d) yn manylu ar y math o gamau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol eu cynnwys mewn cynllun. Mae adran 30(3)(a) yn nodi bod rhaid i gynllun awdurdod lleol nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i arfer ei swyddogaethau addysg i wella’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg a’r broses o gynllunio darpariaeth addysg Gymraeg o fewn ei ardal. Diffinnir y term “addysg Gymraeg” at ddiben Rhan 4 yn adran 37.

129.Mae adran 30(3)(b) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i fanylu yn ei gynllun sut y bydd yn hybu ac yn darparu gwybodaeth am addysg Gymraeg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” (fel y’i diffinnir yn Rhan 3). Mae cydblethiad yma gyda dyletswydd debyg ar Weinidogion Cymru i hybu addysg Gymraeg mewn ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” yn unol ag adran 24(3)(c). Gallai’r cynllun strategol gyfeirio at y math o wybodaeth y mae ei hangen am addysg Gymraeg ysgolion categori “Prif Iaith – Cymraeg” er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd, a ble y bydd yr wybodaeth honno ar gael i’r cyhoedd. O ran hybu, gallai’r cynllun strategol esbonio beth fydd yr awdurdod lleol yn ei wneud i dynnu sylw’r cyhoedd at gyfleoedd o fewn ardal yr awdurdod lleol i gael mynediad at ysgolion categori “Prif Iaith - Cymraeg”.

130.Mae adran 30(3)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol nodi yn ei gynllun y camau y bydd yn eu cymryd i hybu a darparu gwybodaeth am y ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn ei ardal. Mae adran 23 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch addysg drochi hwyr.

131.Yn unol ag adran 30(3)(d)(i) i (iii), mae’n ofynnol i awdurdod lleol nodi yn ei gynllun y camau y bydd yn eu cymryd i hwyluso dilyniant i ddysgwyr sy’n dysgu Cymraeg a’r rhai sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o un cyfnod o’u haddysg i’r nesaf. Manylir ar y cyfnodau hynny yn is-baragraff (i) rhwng addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol, yn is-baragraff (ii) rhwng ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir, ac yn is-baragraff (iii) rhwng addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol. Diffinnir y term “addysg feithrin” yn adran 37 ac mae’n cynnwys addysg amser llawn neu ran-amser a ddarperir i blant o dan oedran ysgol gorfodol mewn ysgol neu mewn lleoliad arall y tu hwnt i safle’r ysgol. Diffinnir y term “addysg drydyddol” yn adran 51, ac mae’n cynnwys darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion.

132.Yn unol ag adran 30(4)(a), mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol gynnwys yn ei gynllun wybodaeth am yr ymarferwyr addysg sy’n gweithio yn ei ardal ac, o dan adran 30(4)(b), adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a wnaed yn ystod cyfnod y cynllun blaenorol.

133.Mae adran 30(5) yn nodi’r personau y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy wrth lunio cynllun, gyda’r bwriad o sicrhau bod addysg Gymraeg yn cael ei chynllunio mewn modd cydgysylltiedig ar draws ardal yr awdurdod lleol a’r ardaloedd cyfagos, a chyda’r bwriad o hwyluso’r broses honno. Yn ogystal, dylai’r ffaith bod cynlluniau strategol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 32, sicrhau bod gweledigaeth y cynllun strategol yn cyd-fynd â’r Fframwaith Cenedlaethol.

Adran 31 – Cyfnod cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

134.Mae’r adran hon yn nodi am ba gyfnod o amser y mae cynllun strategol yn cael effaith. Cynllun 5 mlynedd ydyw, ond mae rhaid i awdurdodau lleol nodi’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd yn unol ag adran 30(3) dros gyfnod o 10 mlynedd. Bwriad hyn yw galluogi awdurdodau lleol i amlinellu eu bwriadau hirdymor, gan gydnabod bod rhai newidiadau i ddarpariaeth ysgolion yn gallu cymryd degawd i ddwyn ffrwyth.

135.Bydd Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, yn pennu erbyn pryd y mae rhaid i awdurdod lleol lunio cynllun am y tro cyntaf. Y bwriad yw i bob awdurdod lleol weithredu yn unol â’r un amserlen a bod y cyfnod 5 mlynedd yn cychwyn ar yr un pryd i bob awdurdod lleol.

Adran 32 - Cymeradwyo cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

136.Mae’r adran hon yn ymwneud â’r broses o gymeradwyo cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg, gan gynnwys y camau y mae rhaid i awdurdodau lleol eu cymryd wrth gyflwyno eu cynllun drafft i Weinidogion Cymru.

137.Mae adran 32(2) yn nodi ei bod yn ofynnol i’r awdurdod lleol, wrth gyflwyno ei gynllun drafft, gynnwys crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori, ynghyd ag ymateb yr awdurdod lleol i’r ymgynghoriad.

138.Mae adran 32(3) a (4) yn amlinellu’r opsiynau sydd gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chynllun drafft ar ôl iddo ddod i law. Mae tri opsiwn sef:

(a)

cymeradwyo’r cynllun drafft fel y’i cyflwynir,

(b)

cymeradwyo cynllun drafft wedi ei addasu (pan fyddai angen i’r awdurdod lleol gytuno ar unrhyw newidiadau gyda Gweinidogion Cymru),  ac

(c)

gwrthod y cynllun gan gyfarwyddo’r awdurdod lleol i ailystyried y cynllun drafft (a gall hynny olygu ailystyried elfennau o’r cynllun drafft neu’r cynllun yn ei gyfanrwydd).

139.Yn unol ag adran 32(4), os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu gwrthod cynllun drafft, rhaid iddynt roi rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r awdurdod lleol a’i gyfarwyddo i ailystyried ei gynllun. Yn ogystal, rhaid iddynt nodi erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i awdurdod lleol ailgyflwyno ei gynllun drafft.

140.Mae adran 32(5) yn cadarnhau bod adran 32(3) a (4) hefyd yn gymwys i gynllun drafft pellach (e.e. cynllun sy’n cael ei ailgyflwyno). Mae hyn yn golygu y gallai fod angen i awdurdod lleol ailgyflwyno cynllun fwy nag unwaith os yw Gweinidogion Cymru yn parhau o’r farn nad ydynt yn gallu cymeradwyo’r cynllun drafft.

141.Yn yr un modd â’r broses ar gyfer cymeradwyo cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion, mae adran 32 wedi’i llunio â’r bwriad y bydd pob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru yn cytuno ar gynnwys y cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg. Felly nid oes modd i Weinidogion Cymru, o dan yr adran hon, fynnu ar gynnwys penodol unrhyw gynllun strategol lleol. Ond yn hyn o beth, rhaid iddynt, fel cyrff cyhoeddus, weithredu yn rhesymol. Os yw awdurdod lleol yn gweithredu’n afresymol yn ystod y broses gymeradwyo, caiff Gweinidogion Cymru ystyried a oes angen arfer eu pwerau ymyrryd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (gweler hefyd adran 50).

Adran 33 - Cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

142.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y dylai awdurdod lleol gyhoeddi cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg wedi iddo gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, yn ogystal â’r personau y mae disgwyl i awdurdodau lleol anfon copi iddynt. Mae adran 52 yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer cyhoeddi dogfennau, ac adran 53 yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch anfon dogfennau.

143.Mae adran 33(2) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol.

Adran 34 – Adolygu a diwygio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

144.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu a diwygio’r cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg.

145.Mae adran 34(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol adolygu ei gynllun yn gyson at ddiben ystyried a oes angen ei ddiwygio, er enghraifft os oes risg nad yw cynllun yr awdurdod lleol yn mynd i arwain at gyflawni ei dargedau, neu fod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod lleol yn effeithio ar ei allu i gyflawni’r targedau.

146.Mae adran 34(2) a (3) yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod lleol ystyried adolygu ei gynllun, gydag adran 34(4) i (6) yn nodi’r hyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei wneud wrth ystyried diwygio neu benderfynu peidio â diwygio ei gynllun.

147.O dan adran 34(4), os yw awdurdod lleol yn penderfynu peidio â diwygio ei gynllun yn dilyn cyfarwyddyd o dan adran 34(3), byddai rhaid iddo roi rhesymau i Weinidogion Cymru dros beidio â diwygio ei gynllun. Os nad yw Gweinidogion Cymru yn derbyn rhesymau’r awdurdod lleol, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o’r newydd. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, cânt hefyd ystyried defnyddio eu pwerau o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd mewn perthynas â swyddogaethau addysg o dan amgylchiadau penodol). Mae’n bosibl hefyd y byddai Gweinidogion Cymru am ofyn i Brif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (yn unol â’u pwerau yn adran 38 o Ddeddf Addysg 1997) arolygu sut mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau addysg. Mae swyddogaethau awdurdod lleol yn y Rhan hon yn swyddogaethau addysg (adran 50).

Adran 35 - Rheoliadau

148.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg. Mae adran 35(1)(a) i (f) yn nodi’r hyn y caiff rheoliadau ddarparu ar eu cyfer, ond nid yw’r pŵer yn gyfyngedig i hynny. Bwriad y pŵer hwn yw galluogi Gweinidogion Cymru i fanylu ymhellach ar y materion a amlinellir yn adran 30 o’r Ddeddf, er enghraifft mewn perthynas â ffurf a chynnwys cynllun. Gall hyn gynnwys gwneud rheoliadau sy’n amlinellu disgwyliadau ehangach Gweinidogion Cymru ar awdurdodau lleol i amlinellu yn eu cynlluniau sut y mae rhaglenni, polisïau a’u dyletswyddau statudol ehangach wedi cael eu hystyried wrth geisio cyflawni’r targedau a osodir arnynt, e.e. Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant, Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar, rhaglenni cyfalaf ysgolion, trefniadau teithio dysgwyr, ymysg eraill. Gellir hefyd, mewn rheoliadau, fanylu ar amserlen ar gyfer derbyn, ystyried a chymeradwyo cynllun drafft, yn ogystal â threfniadau i adrodd ar weithredu’r cynllun, er enghraifft drwy adroddiadau adolygu blynyddol.

149.Rhoddir pŵer hefyd i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i alluogi dau neu ragor o awdurdodau lleol i lunio cynllun ar y cyd, ac i gymhwyso unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon gydag addasiadau i’r perwyl hwnnw.

Adran 36 – Diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

150.Mae’r adran hon yn hepgor Rhan 4, sef adrannau 84 i 87, a hefyd adran 1(13) a (14) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, sy’n ymwneud ag awdurdodau lleol yn paratoi cynllun strategol Cymraeg mewn addysg. Mae’r Ddeddf hon yn newid y system honno. Mae adrannau 30 i 35 yn gwneud darpariaeth benodol am gynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg ac yn cydblethu’r darpariaethau am y cynlluniau strategol gyda’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf. Yn sgil yr adrannau hynny, mae’r darpariaethau sydd wedi eu hepgor gan yr adran hon yn ddiangen.

Adran 37 - Dehongli

151.Mae’r adran hon yn dehongli termau a ddefnyddir yn Rhan 4 o’r Ddeddf hon.

Rhan 5 - Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac Atodlen 2 - Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Adran 38 - Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

152.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer sefydlu yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd yr Athrofa Dysgu Cymraeg yn gorff corfforedig â’i phersonoliaeth gyfreithiol ei hun sydd â phwerau a dyletswyddau penodol mewn perthynas â hwyluso a chefnogi dysgu’r Gymraeg.

153.Cyflwynir Atodlen 2 gan yr adran hon, sy’n cadarnhau nad yw’r Athrofa Dysgu Cymraeg yn gorff y Goron ac yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodau, staff, gweithdrefnau a materion ariannol. Mae Atodlen 2 hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a darpariaethau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol.

154.Aelodau’r Athrofa Dysgu Cymraeg yw’r cadeirydd a rhwng chwech a deg o aelodau anweithredol, a benodir gan Weinidogion Cymru. Mae’r prif weithredwr yn aelod gweithredol a chaiff y prif weithredwr a’r aelodau anweithredol benodi hyd at ddau aelod o staff i fod yn aelodau gweithredol. Caniateir i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, newid nifer yr aelodau anweithredol ac aelodau gweithredol a benodir, ond rhaid i nifer yr aelodau anweithredol bob amser fod yn fwy na nifer yr aelodau gweithredol.

155.Penodir y prif weithredwr cyntaf gan Weinidogion Cymru, gydag aelodau anweithredol yn penodi’r olynwyr. Mae’r prif weithredwr yn aelod o staff yr Athrofa Dysgu Cymraeg ac, yn rhinwedd y swydd honno, hefyd yn swyddog cyfrifyddu. Fodd bynnag, mae paragraffau 15(2) i (3) o Atodlen 2 yn caniatáu i aelod arall o staff fod yn swyddog cyfrifyddu mewn sefyllfa pan fo’r prif weithredwr yn gallu cyflawni’r cyfrifoldebau fel swyddog cyfrifyddu (er enghraifft oherwydd cyfnod o afiechyd hirdymor), neu mewn sefyllfa pan nad oes prif weithredwr, ac yn ystod y cyfnod hyd nes bod prif weithredwr wedi ei benodi.

156.Mae Atodlen 2 hefyd yn cynnwys darpariaethau am bwyllgorau ac is-bwyllgorau’r Athrofa Dysgu Cymraeg, archwilio a chyfrifon, gweithdrefnau, cofrestr buddiannau a phwerau atodol.

Adran 39 - Hwyluso a chefnogi dysgu Cymraeg gydol oes

157.Mae’r adran hon yn gosod amcan yr Athrofa Dysgu Cymraeg. Prif rôl yr Athrofa Dysgu Cymraeg yw cefnogi pobl i ddysgu Cymraeg, a hwyluso’u cynnydd fel bod rhagor o bobl yn dysgu’r iaith ac yn gwella’u sgiliau. Bwriedir i hyn gyfrannu at wireddu amcanion Cymraeg 2050, sef cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a chynyddu’r defnydd o’r iaith. Mae adran 39(2) yn gosod dyletswyddau ar yr Athrofa Dysgu Cymraeg er mwyn cyflawni’r amcan hwn.

158.Mae adran 39(4) yn rhoi pŵer i’r Athrofa Dysgu Cymraeg mewn perthynas â chydlynu a chomisiynu ymchwil ar addysgu neu ddysgu Cymraeg, ac mae’n rhoi pwerau iddi i roi cyngor i unrhyw berson ar addysgu neu ddysgu Cymraeg a rhoi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas ag addysgu Cymraeg neu ddysgu Cymraeg. Mae hefyd yn caniatáu i’r Athrofa Dysgu Cymraeg wneud unrhyw beth arall sy’n ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg, a hwyluso’u cynnydd, os yw’n ystyried ei fod yn briodol er mwyn cyflawni targedau sydd wedi eu gosod yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg o dan adran 24(8).

159.Rhaid i’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg a ddylunnir ac a ddatblygir ar gyfer dysgwyr dros oedran ysgol gorfodol o dan adran 39(2)(f) gynnwys amrywiaeth o faterion fel y’u nodir yn adran 39(5)(a) i (c), er enghraifft drwy ddarparu amrywiaeth o gyrsiau, gweithgareddau ac adnoddau ar wahanol lefelau dysgu, ac mewn lleoliadau gwahanol. Caiff hyn gynnwys darparu lefelau amrywiol o gyrsiau Cymraeg wyneb yn wyneb yn ogystal ag ar-lein. Bwriedir i hyn sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael yn hwylus i bawb sydd eisoes yn dysgu Cymraeg, neu sy’n dymuno ei dysgu, er mwyn hwyluso cynnydd dysgwyr drwy’r lefelau gwahanol o ddysgu Cymraeg. Mae’n ofynnol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg seilio’r lefelau dysgu ar y lefelau cyfeirio cyffredin sydd yn y tabl yn Atodlen 1, ac ar y Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (gweler adran 6).

Adran 40 - Swyddogaethau ychwanegol

160.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i roi swyddogaethau ychwanegol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg sy’n gysylltiedig â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg neu hwyluso’u cynnydd. Mae’r pwerau yn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion Cymru addasu swyddogaethau’r corff pan fo angen.

Adran 41 – Hybu cyfle cyfartal

161.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg, wrth arfer ei swyddogaethau, hybu cynyddu cyfranogiad gan bersonau dros oedran ysgol gorfodol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes dysgu Cymraeg, ac i hybu bod y personau hynny yn cwblhau rhaglenni dysgu Cymraeg. Diffinnir y term o “grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” yn adran 41(2).

162.Gosodir dyletswydd hefyd ar yr Athrofa Dysgu Cymraeg i hybu’r gwaith o leihau bylchau o ran cyrhaeddiad mewn dysgu Cymraeg rhwng grwpiau amrywiol o bersonau pan fo’r gwahaniaethau hynny yn deillio o ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

Adran 42 - Hybu arloesedd a gwelliant parhaus

163.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg, wrth arfer ei swyddogaethau, hybu arloesedd a gwelliant parhaus mewn perthynas â dysgu Cymraeg, a chodi safonau dysgu Cymraeg. Mae’r adran hefyd yn pennu materion (adran 42(2)(a) i (c)) y mae rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw iddynt wrth arfer ei swyddogaethau yn unol ag adran 42(1).

Adran 43 - Hybu cydlafurio mewn perthynas â dysgu Cymraeg

164.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg, wrth arfer ei swyddogaethau, hybu cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg, yn ogystal â rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir yng Nghymru, darparwyr addysg drydyddol eraill yng Nghymru, a chyflogwyr yng Nghymru.

Adran 44 – Hybu cydlynu mewn perthynas â dysgu Cymraeg

165.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg, wrth arfer ei swyddogaethau, hybu cydlynu yn narpariaeth dysgu Cymraeg yng Nghymru i’r rhai sydd dros oedran ysgol gorfodol, a rhannu arfer orau mewn perthynas â dulliau addysgu a throsglwyddo’r Gymraeg i’r rhai sydd dros oedran ysgol gorfodol.

Adran 45 – Cymhwyso safonau’r Gymraeg

166.Mae adran 45 yn dod â’r Athrofa Dysgu Cymraeg o dan gyfundrefn Safonau’r Gymraeg. Mae’n gwneud hynny drwy ychwanegu’r Athrofa Dysgu Cymraeg at Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac at y rhestr o gyrff sy’n ddarostyngedig i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017. Bydd hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r Athrofa Dysgu Cymraeg a fydd yn pennu’r safonau penodol a fydd yn berthnasol iddi.

Adran 46 - Cynllun strategol

167.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar yr Athrofa Dysgu Cymraeg i lunio cynllun strategol ar gyfer pob cyfnod cynllunio. Diffinnir y term “cyfnod cynllunio” yn adran 46(8). Rhaid i’r cynllun strategol nodi sut y mae’r Athrofa Dysgu Cymraeg yn bwriadu arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 41 i 44 a chyflawni ei hamcan.

168.Mae adran 46(3), (4) a (6), yn gosod y trefniadau y mae rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg eu dilyn wrth lunio, cyflwyno a chyhoeddi’r cynllun strategol.

169.O dan adran 46(5), mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i addasu a chymeradwyo cynllun, ond rhaid i’r Athrofa Dysgu Cymraeg hefyd gytuno ar yr addasiadau hynny.

170.Caiff yr Athrofa adolygu ei chynllun a chyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

Adran 47 - Adroddiad blynyddol

171.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Athrofa Dysgu Cymraeg lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a’i anfon at Weinidogion Cymru. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru osod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru.

Rhan 6 – Cyffredinol

Adran 48 – Cyfarwyddydau a chanllawiau

172.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfarwyddydau a roddir o dan Rannau 3 a 4 o’r Ddeddf hon. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol, wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 49 - Diddymu darpariaethau yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

173.Mae’r adran hon yn diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 drwy ddileu paragraffau a chroes benawdau sy’n ymwneud â chyfrwng iaith yr addysgu mewn ysgolion, ac yn nodi rhai newidiadau canlyniadol. Golyga hyn nad yw’r newidiadau cyfrwng iaith a ddisgrifir yn Atodlen 2 (“Newidiadau Rheoleiddiedig”) i Ddeddf 2013 yn “newid rheoleiddiedig” at ddiben y Ddeddf honno. O ganlyniad nid oes angen dilyn y broses yn Rhan 3 o Ddeddf 2013 wrth wneud y fath newidiadau i gyfrwng iaith yr addysgu. Yn lle hynny, Rhan 3 o’r Ddeddf hon sydd bellach yn gwneud darpariaeth ynghylch newid cyfrwng iaith yr addysgu mewn ysgol.

Adran 50 - Y Deddfau Addysg

174.Mae’r adran hon yn ychwanegu Rhan 3 (Addysg Gymraeg) a Rhan 4 (Cynllunio Addysg a Dysgu Cymraeg) o’r Ddeddf hon at y rhestr o Ddeddfau Addysg (“Education Acts”) a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996. Ffordd o gydlynu deddfwriaeth ar destun addysg yw hyn a’i phrif effaith yw bod gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol bwerau i ymyrryd os bydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn methu â chydymffurfio â dyletswyddau o dan Ran 3, neu’n arfer swyddogaethau o dan Ran 3 mewn ffordd afresymol. Yn yr un modd, os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio â dyletswydd o dan Ran 3 neu Ran 4, os yw’n gweithredu’n afresymol wrth gyflawni swyddogaeth o dan Ran 3 neu Ran 4 neu os yw’n methu a chyflawni un neu ragor o’r swyddogaethau hynny i safon ddigonol, gallai Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer i ymyrryd. Mae’r pwerau ymyrryd hyn yn Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Adran 51 - Dehongli

175.Mae’r adran hon yn diffinio rhai o’r termau allweddol a ddefnyddir yn y Ddeddf. Yn ogystal, mae’n darparu bod diffiniadau yn narpariaethau Deddf Addysg 1996 yn gymwys pan ddefnyddir y term diffiniedig yn adran 51(1), adran 1(1)(c), adran 2(1)(b) ac (c) a Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf hon. Ond os rhoddir ystyr arall i un o’r termau hynny gan y Ddeddf hon, yr ystyr arall hwnnw yn hytrach na’r diffiniad yn Neddf Addysg 1996 sydd yn gymwys at ddibenion y Ddeddf. Er enghraifft, mae hyn yn berthnasol i’r diffiniadau o “ysgol” ac “ysgol a gynhelir” sydd ag ystyr benodol yn y Ddeddf hon (gweler adran 8(2)(c) ac adran 51(1)).

Adran 52 – Cyhoeddi

176.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid cyhoeddi dogfen yn unol â dyletswydd o dan y Ddeddf hon. Mae’n ofynnol i’r ddogfen fod ar ffurf electronig. Mae hefyd yn ofynnol i berson gyhoeddi’r ddogfen mewn modd arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol fel bod y rhai na allant gael mynediad at y ddogfen yn electronig, neu ei bod yn annhebygol y gallant gael mynediad o’r fath, yn gallu cael mynediad ati.

Adran 53 – Anfon dogfennau

177.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi neu anfon hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen, ac yn egluro sut y gall person wneud hynny yn unol â dyletswydd o dan y Ddeddf hon. Mae’r dulliau cyfathrebu a ganiateir yn cynnwys person yn anfon y ddogfen â llaw, ei gadael ym man preswylio arferol y person, a’i hanfon drwy’r post neu drwy e-bost. Caiff person ddefnyddio mwy nag un dull cyfathrebu os yw’n dymuno. Os yw person yn rhoi neu’n anfon hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen drwy e-bost, mae adran 53(2) yn gosod amodau ar gyfer hynny.

Adran 54 - Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

178.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch y pwerau yn y Ddeddf hon sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau, ac mae adran 54(2) a (3) yn manylu ar y pŵer hwnnw. Mae adran 54(4) a (5) yn nodi’r gweithdrefnau deddfwriaethol sy’n gymwys i reoliadau o dan y Ddeddf hon. Mae rheoliadau o dan yr adrannau a nodir yn 54(4) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. O dan 54(5) mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Adran 55 – Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

179.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon. Gall hyn fod yn ddarpariaeth atodol, yn ddarpariaeth ddeilliadol neu’n ddarpariaeth ganlyniadol, neu’n ddarpariaeth drosiannol, yn ddarpariaeth ddarfodol neu’n ddarpariaeth arbed. Mae hyn yn cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

Adran 56 - Dod i rym

180.Mae adran 56(1) yn darparu bod Rhan 6 (ac eithrio adran 49), adran 1(1)(a) ac adran 1(4) (at ddibenion adran 1(1)(a)) yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 56(2) yn darparu bod adrannau 1(5) a 5 ac Atodlen 1 yn dod i rym ddau fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 56 hefyd yn darparu bod Rhan 5 ac Atodlen 2 mewn perthynas â’r Athrofa Genedlaethol yn dod i rym ar 1 Awst 2027. Daw pob adran arall i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Adran 57 - Enw byr

181.Enw byr y Ddeddf yw Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.

Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru

182.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:

CyfnodDyddiad
Cyflwynywd15 Gorffennaf 2024
Cyfnod 1 – Dadl14 Ionawr 2025
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau13 and 19 Chwefror 2025
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau6 Mai 2025
Cymeradwywyd gan y Senedd13 Mai 2025
Y Cydsyniad Brenhinol7 Gorffennaf 2025