Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
2018 dccc 2
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol; ac i barhau â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru a’i ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru.
[24 Ionawr 2018]
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Deddf cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 23(3), Atod. 2
C2Deddf cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 22(4), Atod. 2
C3Deddf wedi ei eithrio (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 5
C4Deddf wedi ei chyfyngu (1.9.2021) gan 1996 c. 56, a. 569(2BA) (fel y’i mewnosodwyd gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 4(30)(b); O.S. 2021/373, ergl. 8(j)(x))