Mesur a dehongliLL+C
51Mesur allyriadauLL+C
(1)At ddibenion y Rhan hon, rhaid mesur neu gyfrifo pob un o’r canlynol mewn symiau cyfwerth â thunnell o garbon deuocsid—
(a)allyriadau nwyon tŷ gwydr;
(b)gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr;
(c)echdyniadau nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.
(2)Ystyr “swm cyfwerth â thunnell o garbon deuocsid” yw un dunnell fetrig o garbon deuocsid neu swm o unrhyw nwy tŷ gwydr arall sydd â photensial cyfwerth o ran cynhesu byd-eang (a gyfrifir yn gyson ag arferion rhyngwladol adrodd ar garbon).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)
52Arferion rhyngwladol adrodd ar garbonLL+C
Yn y Rhan hon, ystyr “arferion rhyngwladol adrodd ar garbon” yw’r arferion cyffredin mewn perthynas ag adrodd at ddibenion—
(a)protocolau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, neu
(b)y cytundebau neu’r trefniadau rhyngwladol eraill hynny, neu’r ymrwymiadau hynny o dan gyfreithiau’r UE, y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 52 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)
53Dehongliad cyffredinol o’r Rhan honLL+C
Yn y Rhan hon—
ystyr “allyriadau” (“emissions”) mewn perthynas â nwy tŷ gwydr, yw allyriadau o’r nwy hwnnw i’r atmosffer sydd i’w priodoli i weithgarwch pobl;
mae i “allyriadau Cymru” (“Welsh emissions”) yr ystyr a roddir gan adran 34(2);
mae i “allyriadau net Cymru” (“net Welsh emissions”) yr ystyr a roddir gan adran 34(1);
mae i “arferion rhyngwladol adrodd ar garbon” (“international carbon reporting practice”) yr ystyr a roddir gan adran 52;
mae i “blwyddyn darged interim” (“interim target year”) yr ystyr a roddir gan adran 30(3);
mae “corff cynghori” (“advisory body”) i’w ddehongli yn unol ag adran 44;
mae i “cyfnod cyllidebol” (“budgetary period”) yr ystyr a roddir gan adran 31(3);
ystyr “cyfreithiau’r UE” (“EU law”) yw—
(a)yr holl hawliau, pwerau, rhwymedigaethau, ymrwymiadau a chyfyngiadau a grëir gan Gytuniadau’r UE neu sy’n codi oddi tanynt o dro i dro, a
(b)yr holl rwymedïau a gweithdrefnau y darperir ar eu cyfer gan Gytuniadau’r UE neu oddi tanynt o dro i dro;
mae i “cyfrif allyriadau net Cymru” (“net Welsh emissions account”) yr ystyr a roddir gan adran 33;
mae i “cyllideb garbon“ (“carbon budget”) yr ystyr a roddir gan adran 31(1);
mae i “echdyniadau Cymru” (“Welsh removals”) yr ystyr a roddir gan adran 34(3);
mae i “gwaelodlin” (“baseline”) yr ystyr a roddir gan adran 38;
mae i “nwy tŷ gwydr” (“greenhouse gas”) yr ystyr a roddir gan adran 37;
mae i “targed allyriadau 2050” (“2050 emissions target”) yr ystyr a roddir gan adran 29;
mae i “targed allyriadau interim” (“interim emissions target”) yr ystyr a roddir gan adran 30(1);
mae i “uned garbon” (“carbon unit”) yr ystyr a roddir gan adran 36(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 53 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)