Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

161Cyfyngiadau ar adran 160
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar sail rheoli ystad, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Os yw cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, caiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail B o’r seiliau rheoli ystad cyn bod yr amodau wedi eu bodloni.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail G o’r seiliau rheoli ystad (dim angen y llety ar olynydd)—

(a)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod am farwolaeth y deiliad contract blaenorol, neu

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu sail rheoli ystad H (cyd-ddeiliad contract yn gadael) i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract i ben o dan y contract.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.