Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

160Seiliau rheoli ystad
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad meddiant ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.

(2)Mae’r seiliau rheoli ystad wedi eu dynodi yn Rhan 1 o Atodlen 8 (mae paragraff 10 o’r Atodlen honno yn darparu bod Rhan 1 o’r Atodlen honno yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth).

(3)Mae adran 210 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad oni bai—

(a)ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 10), a

(b)ei fod yn fodlon bod llety arall addas (mae’r hyn sy’n addas i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 11) ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).

(4)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall), rhaid i’r landlord dalu i ddeiliad y contract swm cyfwerth â’r treuliau rhesymol y mae deiliad y contract yn debygol o fynd iddynt wrth symud o’r annedd.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar Sail A neu B (y seiliau ailddatblygu) o’r seiliau rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.