- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted). This item of legislation is currently only available in its original format.
Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â rheoleiddio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
[2 Chwefror 2026]
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, gwasanaeth yw gwasanaeth bysiau lleol ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd, am daliadau teithio ar wahân, gan ddefnyddio un neu ragor o gerbydau gwasanaeth cyhoeddus, sydd—
(a)yn bodloni’r amod yn is-adran (3), a
(b)ag un neu ragor o fannau esgyn neu fannau disgyn yng Nghymru.
(2)Ond nid yw cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at wasanaeth bysiau lleol yn cynnwys cyfeiriadau at—
(a)gwasanaeth adran 19 (gweler adran 44(1) ynghylch hynny);
(b)gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 (gweler adran 44(1) ynghylch hynny);
(c)gwibdaith neu gylchdaith;
(d)gwasanaeth yn lle trên.
(3)Mae gwasanaeth yn bodloni’r amod yn yr is-adran hon os, yn achos pob un o’i fannau esgyn—
(a)yw’r man disgyn nesaf o dan 15 milltir i ffwrdd (o fesur mewn llinell syth), a
(b)nad oes unrhyw fan ar y llwybr rhwng y man esgyn hwnnw a’r man disgyn hwnnw sydd 15 milltir i ffwrdd, neu’n fwy na 15 milltir i ffwrdd, o’r naill neu’r llall ohonynt (o fesur mewn llinell syth).
(4)At ddibenion yr adran hon—
(a)mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf 1981;
(b)mae i “gwibdaith neu gylchdaith” yr ystyr a roddir i “excursion or tour” yn adran 137(1) o Ddeddf 1985;
(c)gwasanaeth yw “gwasanaeth yn lle trên” ar gyfer cludo teithwyr, yn lle gwasanaeth rheilffyrdd i deithwyr sydd wedi ei atal dros dro neu sydd wedi ei derfynu.
(5)Pan fyddai rhan o wasanaeth anghymwys yn bodloni’r amod yn is-adran (3) pe bai’r rhan honno’n wasanaeth ynddo’i hun, mae’r rhan honno ei hun i’w thrin fel pe bai’n wasanaeth bysiau lleol at ddibenion y Ddeddf hon heblaw’r ddyletswydd yn adran 5(1)(a).
(6)At ddibenion is-adran (5) gwasanaeth yw “gwasanaeth anghymwys” (heblaw un o fewn is-adran (2)) ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd am daliadau teithio ar wahân, gan ddefnyddio un neu ragor o gerbydau gwasanaeth cyhoeddus, y mae ganddo un neu ragor o fannau esgyn neu fannau disgyn yng Nghymru, ond nad yw’n bodloni’r amod yn is-adran (3).
(7)Mae is-adran (5)(b) ac (c) o adran 1 o Ddeddf 1981 (ystyr “fares”) yn gymwys mewn perthynas â “taliadau teithio” at ddibenion yr adran hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r term Saesneg cyfatebol “fares”.
Yn y Ddeddf hon—
(a)mae cyfeiriadau at “man esgyn”, mewn perthynas â gwasanaeth, yn gyfeiriadau at unrhyw fan ar ei lwybr y caniateir esgyn i’r gwasanaeth ynddo (pa un a ganiateir i deithwyr hefyd ddisgyn oddi ar y gwasanaeth yn y man hwnnw ai peidio);
(b)mae cyfeiriadau at “man disgyn”, mewn perthynas â gwasanaeth, yn gyfeiriadau at unrhyw fan ar ei lwybr y caniateir disgyn oddi ar y gwasanaeth ynddo, ac eithrio yn achos argyfwng (pa un a ganiateir i deithwyr hefyd esgyn i’r gwasanaeth yn y man hwnnw ai peidio).
Yn y Ddeddf hon—
(a)mae cyfeiriadau at “gwasanaeth bysiau lleol hyblyg” yn gyfeiriadau at wasanaeth bysiau lleol sydd, er gwaethaf bodolaeth unrhyw rannau cyfyngedig o’r llwybr sy’n sefydlog, mor hyblyg yng nghyfanrwydd ei weithrediad fel na fyddai’n ymarferol nodi ei lwybr at ddibenion Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru (gweler adran 5(1)(b));
(b)mae cyfeiriadau at “gwasanaeth bysiau lleol safonol” yn gyfeiriadau at wasanaeth bysiau lleol nad yw’n wasanaeth bysiau lleol hyblyg.
(1)Wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Ddeddf hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcanion a ganlyn.
(2)Yr amcan cyntaf yw hybu defnyddio gwasanaethau bysiau lleol.
(3)Yr ail amcan yw gwella’n barhaus ddibynadwyedd, diogelwch, fforddiadwyedd a hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol.
(4)Y trydydd amcan yw gweithio tuag at gynyddu argaeledd gwasanaethau bysiau lleol.
(5)Y pedwerydd amcan yw gweithio tuag at gyflawni system drafnidiaeth integredig.
(6)Y pumed amcan yw hwyluso siwrneiau teithwyr sy’n golygu defnyddio mwy nag un gwasanaeth bysiau lleol.
(7)Y chweched amcan yw lleihau allyriadau nwy tŷ gwydr a gwastraff o drafnidiaeth ffyrdd.
(8)Y seithfed amcan yw hwyluso mynediad gan deithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau lleol i fannau lle y darperir addysg, hyfforddiant, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau gofal cymdeithasol.
(9)Yr wythfed amcan yw gweithio tuag at ddileu neu leihau rhwystrau sy’n datgymell defnyddio gwasanaethau bysiau lleol.
(10)Yn yr adran hon—
(a)mae “addysg” yn cynnwys addysg uwch;
(b)mae i “nwy tŷ gwydr” yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3);
(c)ystyr “gwasanaethau iechyd” yw gwasanaethau a ddarperir o dan adran 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) (gan gynnwys gwasanaethau yr ystyrir at ddibenion y ddyletswydd yn is-adran (1) o’r adran honno eu bod yn cael eu darparu o dan y ddyletswydd honno);
(d)ystyr “gwasanaethau gofal cymdeithasol” yw gwasanaethau a drinnir fel gwasanaethau rheoleiddiedig at ddibenion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2).
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)penderfynu ar y gwasanaethau bysiau lleol y maent yn ystyried eu bod yn ofynnol at ddiben sicrhau trafnidiaeth ddiogel, integredig, gynaliadwy, effeithlon ac economaidd yng Nghymru,
(b)cyhoeddi cynllun (i’w alw’n “Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru”) yn nodi manylion allweddol y gwasanaethau bysiau lleol hynny, ac
(c)i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod y gwasanaethau bysiau lleol hynny yn cael eu darparu.
(2)At ddibenion is-adran (1)(b), manylion allweddol gwasanaeth yw—
(a)yn achos gwasanaeth bysiau lleol safonol, y llwybr a’r prif fannau esgyn a mannau disgyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ofynnol at ddibenion darparu’r gwasanaeth hwnnw;
(b)yn achos gwasanaeth bysiau lleol hyblyg—
(i)yr ardal ddaearyddol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol i’r gwasanaeth hwnnw weithredu ynddi;
(ii)unrhyw rannau o’r llwybr y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol iddynt fod yn sefydlog, at ddibenion darparu’r gwasanaeth hwnnw;
(iii)unrhyw fannau esgyn neu unrhyw fannau disgyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol iddynt fod yn sefydlog, at ddibenion darparu’r gwasanaeth hwnnw.
(3)Am ddarpariaeth bellach sy’n ymwneud â Chynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, gweler adrannau 6 i 8.
(4)Am eithriad i’r ddyletswydd yn is-adran (1)(c) yn achos gwasanaethau trawsffiniol, gweler adran 20 (gwasanaethau trawsffiniol a’r ddyletswydd i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu).
(5)Pan fo’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod gwasanaeth bysiau lleol yn cael ei ddarparu, cânt sicrhau’r gwasanaeth hwnnw drwy wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 10;
(b)rhoi trwydded mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 12;
(c)darparu gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 18;
(d)dibynnu ar wasanaeth a ddarperir fel y’i disgrifir yn adran 19.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol, osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad ar baratoadau i adran 5(1)(c) ddod i rym.
(7)Rhaid i’r datganiad, yn benodol, fynd i’r afael â pharatoadau mewn perthynas â chapasiti sefydliadol.
(1)Cyn cyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru o dan adran 5(1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru lunio drafft o’r Cynllun.
(2)Wrth lunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru geisio barn pob awdurdod lleol.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, wrth lunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, roi sylw i bob un o’r canlynol—
(a)Strategaeth Drafnidiaeth Cymru;
(b)pob cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy’n cael effaith o dan adran 109A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38);
(c)swyddogaethau awdurdodau lleol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2)
(4)Ar ôl llunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn cyhoeddi’r Cynllun, ymgynghori â phob un o’r personau a ganlyn ar y drafft—
(a)pob awdurdod lleol;
(b)pob cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer pob Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(d)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(e)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau cyflogeion gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(f)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau lleol, neu sy’n debygol o ddefnyddio’r gwasanaethau hynny, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(g)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)Ar ôl ymgynghori â’r personau hynny ar y drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun o dan adran 5(1)(b) naill ai yn nhermau’r drafft neu, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gan roi sylw i unrhyw farn a fynegir yn ystod yr ymgynghoriad, mewn termau eraill.
(6)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru o dan adran 5(1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ei osod gerbron Senedd Cymru.
(7)Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (1) i lunio drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy ddrafft a lunnir cyn i’r adran hon ddod i rym.
(8)Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (2) i Weinidogion Cymru geisio barn wrth lunio drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy geisio barn cyn i’r adran hon ddod i rym.
(9)Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (4) i ymgynghori ar ddrafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru yn barhaus.
(2)O ran Gweinidogion Cymru—
(a)rhaid iddynt wneud unrhyw ddiwygiad i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru y maent yn ystyried ei fod yn ofynnol er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn parhau i nodi’r manylion allweddol y cyfeirir atynt yn adran 5(2);
(b)cânt wneud unrhyw ddiwygiad arall i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru y maent yn ystyried ei fod yn briodol.
(3)Ond nid yw is-adran (2)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddiwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru er mwyn adlewyrchu unrhyw gamau a gymerir mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol a fyddai (oni bai am yr is-adran hon) yn gwneud diwygio’r Cynllun yn ofynnol, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried na fydd y cyfnod y bydd y camau hynny’n cael effaith yn fwy na 14 o ddiwrnodau.
(4)Wrth ystyried a ddylid diwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru a natur unrhyw ddiwygiad, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i bob un o’r canlynol—
(a)Strategaeth Drafnidiaeth Cymru;
(b)os ydynt yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cynllun trafnidiaeth rhanbarthol y pwyllgor hwnnw sy’n cael effaith o dan adran 109A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38);
(c)swyddogaethau awdurdodau lleol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2).
(5)Ar ôl gwneud unrhyw ddiwygiad i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru diwygiedig.
(6)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud unrhyw ddiwygiad i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru ar ôl y dyddiad diweddaraf y’i gosodwyd gerbron Senedd Cymru (naill ai o dan yr adran hon neu o dan adran 6) rhaid iddynt, o fewn y cyfnod o 13 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodwyd y Cynllun gerbron Senedd Cymru yn fwyaf diweddar, osod gerbron Senedd Cymru—
(a)copi pellach o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, a
(b)datganiad sy’n nodi’r gwahaniaethau rhwng y copi pellach hwnnw o’r Cynllun, a’r copi blaenorol o’r Cynllun a osodwyd gerbron Senedd Cymru.
(7)Mae adran 8 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch diwygiadau i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddiwygiad i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei wneud (“diwygiad arfaethedig”), oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried—
(a)mai bychan yn unig fyddai effaith y diwygiad arfaethedig ar y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau lleol, neu
(b)na fyddai’n rhesymol ymarferol cynnal ymgynghoriad ar y diwygiad arfaethedig fel y’i disgrifir yn is-adran (4).
(2)Cyn gwneud y diwygiad arfaethedig, rhaid i Weinidogion Cymru lunio drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru sy’n ymgorffori’r diwygiad arfaethedig (y “Cynllun drafft diwygiedig”).
(3)Wrth lunio’r Cynllun drafft diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal awdurdod lleol, geisio barn yr awdurdod hwnnw.
(4)Ar ôl llunio’r Cynllun drafft diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gwneud y diwygiad arfaethedig i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, ymgynghori â phob un o’r personau a ganlyn ar y diwygiad arfaethedig—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal awdurdod lleol, yr awdurdod hwnnw;
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), y pwyllgor hwnnw;
(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru, yr awdurdod hwnnw;
(d)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol yr effeithir arnynt y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(e)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau cyflogeion gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol yr effeithir arnynt y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(f)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau lleol yr effeithir arnynt, neu sy’n debygol o ddefnyddio’r gwasanaethau hynny, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(g)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)At ddibenion yr ymgynghoriad hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu copi o’r Cynllun drafft diwygiedig i bob un o’r personau hynny.
(6)Ar ôl ymgynghori â’r personau hynny ar y diwygiad arfaethedig, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru naill ai yn nhermau’r Cynllun drafft diwygiedig neu, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gan roi sylw i unrhyw farn a fynegir yn ystod yr ymgynghoriad, mewn termau eraill.
(7)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at “gwasanaethau bysiau lleol yr effeithir arnynt”, mewn perthynas ag ymgynghori ar ddiwygiad arfaethedig, yn gyfeiriadau at wasanaethau bysiau lleol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’r diwygiad arfaethedig yn effeithio arnynt.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan geisir barn awdurdod lleol o dan adran 8(3).
(2)Wrth roi ei farn, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i anghenion personau yn ei ardal y mae’n ystyried eu bod yn defnyddio gwasanaethau bysiau lleol, neu’n debygol o ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol, y mae’r diwygiad arfaethedig yn effeithio arnynt, gan gynnwys yn benodol eu hanghenion mewn perthynas â hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol; a rhaid iddo ystyried a ddylai, at y diben hwn, gynnal ymgynghoriad â phersonau yn ei ardal ynghylch y diwygiad arfaethedig.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, ymrwymo i gytundeb o dan yr adran hon (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “contract gwasanaeth bysiau lleol”) mewn perthynas â gwasanaeth.
(2)Contract yw contract gwasanaeth bysiau lleol, mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, sy’n nodi telerau—
(a)y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi’r hawl i berson o fewn is-adran (3) i weithredu’r gwasanaeth yn unol â hwy, a
(b)y mae’r person hwnnw’n ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â hwy.
(3)Y personau o fewn yr is-adran hon yw—
(a)person sy’n ddeiliad trwydded bysiau cymunedol;
(b)person sy’n ddeiliad trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus.
(4)Yn achos contract gwasanaeth bysiau lleol yr ymrwymir iddo â pherson o fewn is-adran (3)(a) mewn perthynas â gwasanaeth sy’n wasanaeth bysiau cymunedol, rhaid i’r telerau a bennir yn y contract ei gwneud yn ofynnol—
(a)i’r gwasanaeth o dan sylw gael ei ddarparu fel gwasanaeth bysiau cymunedol, a
(b)i bob cerbyd a ddefnyddir wrth ddarparu’r gwasanaeth gael ei ddefnyddio felly o dan drwydded bysiau cymunedol ac yn unol â thelerau trwydded bysiau cymunedol.
(5)Nid yw’r cyfeiriad yn is-adran (3)(b) at drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys—
(a)trwydded y mae amod ynghlwm wrthi o dan adran 26(1A) o Ddeddf 1985 (pŵer comisiynydd traffig i roi amodau ynghlwm wrth drwyddedau) sy’n gwahardd y deiliad rhag defnyddio cerbydau o dan y drwydded i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol o bob disgrifiad, neu o ddisgrifiad a bennir yn yr amod;
(b)trwydded sydd wedi ei hatal dros dro o dan adran 17(2) o Ddeddf 1981 neu adran 28(2) o Ddeddf 1985.
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch telerau y mae rhaid eu cynnwys mewn contract gwasanaeth bysiau lleol.
(2)Caiff y ddarpariaeth honno ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—
(a)prydlondeb, dibynadwyedd a diogelwch;
(b)amlder ac amseru;
(c)llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(d)trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)mannau esgyn a mannau disgyn;
(f)archebu siwrneiau;
(g)cadw cofnodion;
(h)cerbydau (gan gynnwys cyfleusterau sydd i’w darparu a gwybodaeth sydd i’w harddangos ar gerbydau), allyriadau cerbydau, a mathau o danwydd neu bŵer;
(i)cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(j)siwrneiau teithwyr sy’n golygu teithio ar fwy nag un gwasanaeth bysiau lleol, neu deithio ar wasanaeth bysiau lleol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr neu wasanaethau adran 19;
(k)tocynnu, taliadau teithio, a sut y caniateir dangos tystiolaeth o hawl i deithio;
(l)addysg a hyfforddiant;
(m)rhyngweithio â chwsmeriaid, gan gynnwys mewn cysylltiad ag adborth gan gwsmeriaid, a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a digwyddiadau;
(n)cydymffurfiaeth â gofynion statudol;
(o)cymhellion ar gyfer gwella ansawdd gwasanaeth;
(p)cyfleusterau ac amwynderau sydd i’w darparu i unrhyw berson;
(q)taliadau i unrhyw berson.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a)nodi ffurf safonol ar gyfer telerau y mae rhaid eu cynnwys mewn contract gwasanaeth bysiau lleol;
(b)rhagnodi amgylchiadau pan ganiateir defnyddio’r ffurf safonol honno neu pan fo rhaid ei defnyddio mewn contract gwasanaeth bysiau lleol.
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y gofynion yn is-adran (3) wedi eu bodloni, cânt (pa un ai at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, neu fel arall) roi trwydded o dan yr adran hon i berson o fewn is-adran (4).
(2)Trwydded yw trwydded a roddir o dan yr adran hon (y cyfeirir ati yn y Ddeddf hon fel “trwydded gwasanaeth bysiau lleol”), mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, y mae’r person y rhoddir y drwydded iddo wedi ei awdurdodi oddi tani i ddarparu’r gwasanaeth yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn cael effaith.
(3)Y gofynion yw na fyddai caniatáu’r drwydded—
(a)yn cael effaith andwyol sylweddol ar wasanaeth bysiau lleol a ddarperir o dan gontract gwasanaeth bysiau lleol, neu a ddarperir gan Weinidogion Cymru o dan adran 18;
(b)yn anghyson â’r polisïau a’r cynigion a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
(4)Y personau o fewn yr is-adran hon yw—
(a)person sy’n ddeiliad trwydded bysiau cymunedol;
(b)person sy’n ddeiliad trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus.
(5)Nid yw’r cyfeiriad yn is-adran (4)(b) at drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys—
(a)trwydded y mae amod ynghlwm wrthi o dan adran 26(1A) o Ddeddf 1985 (pŵer comisiynydd traffig i roi amodau ynghlwm wrth drwyddedau) sy’n gwahardd y deiliad rhag defnyddio cerbydau o dan y drwydded i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol o bob disgrifiad, neu o ddisgrifiad a bennir yn yr amod;
(b)trwydded sydd wedi ei hatal dros dro o dan adran 17(2) o Ddeddf 1981 neu adran 28(2) o Ddeddf 1985.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded y mae amodau ynghlwm wrthi (am ddarpariaeth bellach ynghylch amodau gweler adran 14).
(1)Rhaid i drwydded gwasanaeth bysiau lleol bennu’r cyfnod y mae’n cael effaith .
(2)Mae trwydded gwasanaeth bysiau lleol yn peidio â chael effaith—
(a)pan ddaw’r cyfnod a bennir o dan is-adran (1) i ben, neu
(b)os caiff ei dirymu o dan adran 16 cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(3)Nid yw trwydded gwasanaeth bysiau lleol sydd wedi ei hatal dros dro o dan adran 16 yn cael unrhyw effaith yn ystod unrhyw gyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith .
(1)Yn achos trwydded gwasanaeth bysiau lleol a roddir i berson o fewn adran 12(4)(a) mewn perthynas â gwasanaeth sy’n wasanaeth bysiau cymunedol, rhaid i Weinidogion Cymru roi amod ynghlwm wrth y drwydded sy’n ei gwneud yn ofynnol—
(a)i’r gwasanaeth o dan sylw gael ei ddarparu fel gwasanaeth bysiau cymunedol, a
(b)i bob cerbyd a ddefnyddir wrth ddarparu’r gwasanaeth gael ei ddefnyddio felly o dan drwydded bysiau cymunedol ac yn unol â thelerau trwydded bysiau cymunedol.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch amodau pellach y mae rhaid eu rhoi ynghlwm wrth drwydded gwasanaeth bysiau lleol.
(3)Caiff y ddarpariaeth honno ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—
(a)prydlondeb, dibynadwyedd a diogelwch;
(b)amlder ac amseru;
(c)llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(d)trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)mannau esgyn a mannau disgyn;
(f)archebu siwrneiau;
(g)cadw cofnodion;
(h)cerbydau (gan gynnwys cyfleusterau sydd i’w darparu a gwybodaeth sydd i’w harddangos ar gerbydau), allyriadau cerbydau, a mathau o danwydd neu bŵer;
(i)cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(j)siwrneiau teithwyr sy’n golygu teithio ar fwy nag un gwasanaeth bysiau lleol, neu deithio ar wasanaeth bysiau lleol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr neu wasanaethau adran 19;
(k)tocynnu, taliadau teithio, a sut y caniateir dangos tystiolaeth o hawl i deithio;
(l)addysg a hyfforddiant;
(m)rhyngweithio â chwsmeriaid, gan gynnwys mewn cysylltiad ag adborth gan gwsmeriaid, a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a digwyddiadau;
(n)cydymffurfiaeth â gofynion statudol;
(o)cymhellion ar gyfer gwella ansawdd gwasanaeth;
(p)cyfleusterau ac amwynderau sydd i’w darparu i unrhyw berson;
(q)taliadau i unrhyw berson.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei rhoi, ddileu amod sydd ynghlwm wrth y drwydded drwy roi hysbysiad o hyn i ddeiliad y drwydded a chydag effaith o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(5)Os yw’r amod yn is-adran (6) neu (7) wedi ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei rhoi, drwy roi hysbysiad o hyn i ddeiliad y drwydded a chydag effaith o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, amrywio’r drwydded drwy—
(a)diwygio amod sydd ynghlwm wrth y drwydded;
(b)rhoi amod newydd ynghlwm wrth y drwydded.
(6)Yr amod yw bod yr amrywiad yn cael ei wneud o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (2).
(7)Yr amod yw bod deiliad y drwydded wedi cytuno—
(a)â’r amrywiad i’r drwydded fel y’i nodir yn yr hysbysiad, a
(b)â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r amrywiad i gymryd effaith ohono.
(8)Caniateir i’r dyddiad a bennir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (4) neu (5) fod naill ai’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad arno, neu ddyddiad ar ôl hynny.
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ceisiadau am drwyddedau gwasanaeth bysiau lleol.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys cais;
(b)pryd a sut y mae cais i’w wneud;
(c)ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais am drwydded gwasanaeth bysiau lleol, rhaid iddynt roi hysbysiad o’u rhesymau i’r ceisydd.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu trwydded gwasanaeth bysiau lleol neu ei hatal dros dro drwy roi hysbysiad i’r perwyl hwn i’r person y rhoddwyd y drwydded iddo (“deiliad y drwydded”).
(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)y sail y caiff y drwydded ei dirymu neu ei hatal dros dro arni;
(b)pryd y mae’r diddymiad neu’r ataliad dros dro yn cymryd effaith;
(c)yn achos atal trwydded dros dro, y cyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith (y “cyfnod atal dros dro”), a’r amodau y mae angen cydymffurfio â hwy cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(3)Y seiliau y caniateir i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei dirymu neu ei hatal dros dro arnynt yw—
(a)y bu methiant i gydymffurfio ag amod sydd ynghlwm wrth y drwydded;
(b)y byddai parhau i ddarparu’r gwasanaeth a bennir yn y drwydded yn peryglu aelodau’r cyhoedd;
(c)yn achos trwydded y mae amod wedi ei roi ynghlwm wrthi o dan adran 14(1)—
(i)nad yw deiliad y drwydded ar hyn o bryd yn dal unrhyw drwyddedau bysiau cymunedol, neu
(ii)ers i’r drwydded gael ei rhoi, fod trwydded bysiau cymunedol a ddelir gan ddeiliad y drwydded wedi ei dirymu o dan adran 23(6) o Ddeddf 1985 (pa un a yw deiliad y drwydded yn parhau i ddal trwyddedau bysiau cymunedol eraill ai peidio);
(d)yn achos trwydded nad oes amod wedi ei roi ynghlwm wrthi o dan adran 14(1)—
(i)nad yw deiliad y drwydded ar hyn o bryd yn dal unrhyw drwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus,
(ii)ers i’r drwydded gael ei rhoi, fod trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan ddeiliad y drwydded wedi ei hatal dros dro o dan adran 17(2) o Ddeddf 1981 (pa un a yw deiliad y drwydded yn parhau i ddal trwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill ai peidio),
(iii)ers i’r drwydded gael ei rhoi, fod trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan ddeiliad y drwydded wedi ei dirymu o dan adran 17(1) neu (2) o Ddeddf 1981 (pa un a yw deiliad y drwydded yn parhau i ddal trwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill ai peidio), neu
(iv)ers i’r drwydded gael ei rhoi, fod amod wedi ei roi ynghlwm wrth drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan ddeiliad y drwydded, o dan adran 26(1A) o Ddeddf 1985, sy’n gwahardd deiliad y drwydded rhag defnyddio cerbydau o dan y drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol o bob disgrifiad, neu o ddisgrifiad a bennir yn yr amod (pa un a yw deiliad y drwydded yn parhau i ddal trwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill nad oes unrhyw amod o’r fath wedi ei roi ynghlwm wrthynt ai peidio);
(e)bod y cyfnod atal dros dro a bennir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (1) mewn perthynas â’r drwydded wedi dod i ben heb gydymffurfiaeth â’r amodau a bennir o dan is-adran (2)(c).
(4)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (5)(b), caiff hysbysiad a roddir o dan is-adran (1) bennu o dan is-adran (2)(b) fod y dirymiad trwydded neu’r ataliad dros dro yn cymryd effaith naill ai ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, neu ar ddyddiad ar ôl hynny.
(5)Caiff rheoliadau—
(a)addasu is-adran (3);
(b)gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae dirymiad trwydded gwasanaeth bysiau lleol neu ataliad dros dro yn cymryd effaith.
(1)Caiff person y mae ei gais am drwydded gwasanaeth bysiau lleol yn cael ei wrthod apelio yn erbyn y gwrthodiad.
(2)Caiff person y rhoddwyd iddo drwydded gwasanaeth bysiau lleol apelio yn erbyn unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y drwydded (gan gynnwys yn erbyn diwygiad i amod).
(3)Caiff person y rhoddwyd iddo drwydded gwasanaeth bysiau lleol sy’n cael ei dirymu apelio yn erbyn dirymu’r drwydded.
(4)Caiff person y rhoddwyd iddo drwydded gwasanaeth bysiau lleol sy’n cael ei hatal dros dro apelio yn erbyn—
(a)yr ataliad dros dro;
(b)y cyfnod a bennir o dan adran 16(2)(c);
(c)yr amodau a bennir o dan adran 16(2)(c).
(5)Mae apêl i’w dwyn gerbron y Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(6)Ar apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a)cadarnhau’r penderfyniad y dygir yr apêl mewn perthynas ag ef,
(b)diddymu’r penderfyniad, neu
(c)rhoi penderfyniad arall yn lle’r penderfyniad y dygir yr apêl mewn perthynas ag ef.
(7)Yn is-adran (2), nid yw cyfeiriadau at amodau yn cynnwys cyfeiriad at amod sydd wedi ei roi ynghlwm wrth drwydded gwasanaeth bysiau lleol yn unol ag adran 14(1).
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, ddarparu gwasanaeth bysiau lleol os ydynt wedi eu bodloni y byddai gwneud hynny yn ffordd fwy effeithiol o gyflawni’r ddyletswydd honno nag ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 10 mewn perthynas â’r gwasanaeth.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i wasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau cymunedol.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, ddibynnu ar wasanaeth o fewn is-adran (2) a ddarperir gan unrhyw berson (heb, yn achos gwasanaeth y mae’r pwerau yn adran 10 neu 12 ar gael mewn perthynas ag ef, ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol na rhoi trwydded gwasanaeth bysiau lleol mewn perthynas â’r gwasanaeth).
(2)Y gwasanaethau o fewn yr is-adran hon yw—
(a)gwasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau cymunedol;
(b)gwasanaeth bysiau lleol a ddarperir fel y’i disgrifir yn adran 46(1) o Ddeddf 1981 (teithwyr sy’n talu am deithio ar fysiau ysgol);
(c)gwasanaeth adran 19;
(d)gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1.
(1)At ddibenion yr adran hon—
(a)mae gwasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau lleol safonol yn wasanaeth trawsffiniol os—
(i)yw llwybr y gwasanaeth wedi ei nodi yng Nghynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, a
(ii)yw rhan o’r llwybr hwnnw yng Nghymru a rhan ohono yn Lloegr;
(b)mae gwasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau lleol hyblyg yn wasanaeth trawsffiniol os—
(i)yw ardal weithredu ddaearyddol y gwasanaeth wedi ei nodi yng Nghynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, a
(ii)yw rhan o’r ardal honno yng Nghymru a rhan ohoni yn Lloegr;
(c)mae cyfeiriadau at wasanaeth trawsffiniol yn Lloegr yn gyfeiriadau at wasanaeth trawsffiniol i’r graddau—
(i)yn achos gwasanaeth bysiau lleol safonol, y mae ei lwybr yn Lloegr;
(ii)yn achos gwasanaeth bysiau lleol hyblyg, y mae ei ardal weithredu yn Lloegr.
(2)Nid yw adran 5(1)(c) i’w thrin fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod gwasanaeth trawsffiniol yn Lloegr yn cael ei ddarparu os ydynt yn ystyried bod yr amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni mewn perthynas â’r gwasanaeth.
(3)Yr amod yw y caiff yr anghenion trafnidiaeth perthnasol eu diwallu heb i Weinidogion Cymru sicrhau bod y gwasanaeth trawsffiniol yn Lloegr yn cael ei ddarparu.
(4)At y diben hwn, ystyr “yr anghenion trafnidiaeth perthnasol” yw’r anghenion trafnidiaeth yng Nghymru a fyddai’n cael eu diwallu pe bai Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod y gwasanaeth trawsffiniol yn Lloegr yn cael ei ddarparu.
(5)Wrth ystyried a yw’r amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni, nid oes ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw ddarpariaeth a sicrheir gan gyngor sir yn Lloegr o dan adran 63 o Ddeddf 1985 (swyddogaethau cynghorau lleol mewn perthynas â thrafnidiaeth).
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, yn nodi asesiad Gweinidogion Cymru o’r ffordd y mae arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon gan Weinidogion Cymru yn ystod y cyfnod adrodd wedi cyfrannu at gyflawni’r amcanion yn adran 4, a’r graddau y mae arfer y swyddogaethau hynny ganddynt wedi cyfrannu at gyflawni’r amcanion hynny.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—
(a)cyhoeddi’r adroddiad o dan yr adran hon sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd hwnnw, a
(b)gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru.
(3)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—
(a)yn achos y cyfnod adrodd cyntaf, y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 5(1)(c) i rym (at unrhyw ddiben neu ar gyfer unrhyw ardal);
(b)yn achos cyfnodau adrodd dilynol, cyfnodau olynol o bedair blynedd.
(4)At ddibenion is-adran (1), nid yw swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys swyddogaeth sy’n arferadwy o dan adran 48.
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 10, hysbysu comisiynydd traffig yr ymrwymwyd i’r contract;
(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei rhoi o dan adran 12, hysbysu comisiynydd traffig bod y drwydded wedi ei rhoi, ac am y cyfnod a bennir yn y drwydded o dan adran 13(1);
(c)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gontract gwasanaeth bysiau lleol derfynu, pa un ai o dan delerau’r contract neu fel arall, hysbysu comisiynydd traffig ei fod wedi terfynu;
(d)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei dirymu neu ei hatal dros dro o dan adran 16, hysbysu comisiynydd traffig ei bod wedi ei dirymu neu ei hatal dros dro ac, yn achos atal trwydded dros dro, y cyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith.
(1)Ni chaniateir darparu gwasanaeth bysiau lleol yng Nghymru oni bai—
(a)ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru o dan gontract gwasanaeth bysiau lleol,
(b)ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru o dan drwydded gwasanaeth bysiau lleol, neu
(c)ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru gan Weinidogion Cymru o dan adran 18.
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i wasanaeth bysiau lleol—
(a)sy’n wasanaeth bysiau cymunedol, neu
(b)sy’n cael ei ddarparu fel y’i disgrifir yn adran 46(1) o Ddeddf 1981 (teithwyr sy’n talu am deithio ar fysiau ysgol).
(3)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion darparu bod is-adran (1) yn gymwys neu nad yw’n gymwys i ddisgrifiad penodedig o wasanaeth bysiau lleol, neu ei bod yn gymwys neu nad yw’n gymwys i wasanaeth bysiau lleol a ddarperir mewn modd penodedig.
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod person yn gweithredu gwasanaeth bysiau lleol neu wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath yn groes i adran 23 rhaid iddynt hysbysu comisiynydd traffig.
(1)Os yw comisiynydd traffig wedi ei fodloni—
(a)bod person yn gweithredu gwasanaeth bysiau lleol neu wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath yn groes i adran 23, a
(b)wrth weithredu’r gwasanaeth hwnnw, fod y person wedi methu â chymryd pob cam rhesymol i osgoi torri gofynion yr adran honno,
caiff y comisiynydd traffig wneud un neu ragor o orchmynion o dan is-adran (2).
(2)Y gorchmynion yw—
(a)gorchymyn i’r person dalu, o fewn amser a bennir yn y gorchymyn, gosb o unrhyw swm y mae’r comisiynydd traffig yn credu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond nad yw’n fwy na’r terfyn uchaf;
(b)gorchymyn o unrhyw ddisgrifiad arall a ragnodir mewn rheoliadau.
(3)Os yw person yn methu â chydymffurfio â gorchymyn o dan is-adran (2), a bod yr amod yn is-adran (5) wedi ei fodloni mewn perthynas â’r gorchymyn, caiff comisiynydd traffig wneud gorchymyn o dan yr is-adran hon yn gorchymyn i’r person dalu, o fewn cyfnod a bennir yn y gorchymyn, gosb ychwanegol.
(4)Caiff y gosb ychwanegol fod yn unrhyw swm y mae’r comisiynydd traffig yn credu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond ni chaiff fod yn fwy na 110% o’r terfyn uchaf.
(5)Yr amod yw naill ai—
(a)ar apêl o dan adran 26 yn erbyn gwneud y gorchymyn, bod y gorchymyn wedi ei gadarnhau, neu
(b)bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl i’r Uwch Dribiwnlys o dan adran 26 yn erbyn gwneud y gorchymyn wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei dwyn.
(6)Ar ôl gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3), rhaid i’r comisiynydd traffig roi hysbysiad i—
(a)y person y mae’r gorchymyn wedi ei wneud mewn perthynas ag ef, a
(b)Gweinidogion Cymru.
(7)Ac eithrio i unrhyw raddau y darperir ar eu cyfer mewn rheoliadau o dan yr adran hon, mae swm y gorchmynnir ei dalu o dan is-adran (2) neu (3) yn daladwy i Weinidogion Cymru ac yn adenilladwy, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
(8)Caiff rheoliadau o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth ynghylch gorchmynion o dan yr adran hon gan gynnwys darpariaeth ynghylch (ymhlith pethau eraill)—
(a)ffurf a chynnwys gorchymyn;
(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn gan gomisiynydd traffig mewn perthynas â gorchymyn.
(9)Y terfyn uchaf, at ddibenion cosb y gorchmynnir i berson ei thalu o dan yr adran hon, yw
(a)yn achos person sydd, ar yr adeg berthnasol, wedi ei drwyddedu i ddefnyddio cerbydau o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, y swm a gyfrifir drwy luosi cyfanswm nifer y cerbydau y mae’r person wedi ei drwyddedu i’w defnyddio o dan yr holl drwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan y person ar yr adeg berthnasol, â’r naill neu’r llall o—
(i)swm a bennir mewn rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn, neu
(ii)os nad oes unrhyw swm wedi ei bennu felly, £550;
(b)yn achos person nad yw, ar yr adeg berthnasol, wedi ei drwyddedu i ddefnyddio cerbydau o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus—
(i)swm a bennir mewn rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn, neu
(ii)os nad oes unrhyw swm wedi ei bennu felly, £550.
(10)At ddibenion is-adran (9), yr “adeg berthnasol” yw—
(a)yn achos gorchymyn a wneir o dan is-adran (2)(a), yr adeg y gwneir y gorchymyn hwnnw;
(b)yn achos gorchymyn a wneir o dan is-adran (3) mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â gorchymyn o dan is-adran (2), yr adeg y gwnaed y gorchymyn hwnnw o dan is-adran (2).
(1)Caiff person y mae gorchymyn wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan is-adran (2) neu (3) o adran 25 apelio i’r Uwch Dribiwnlys yn erbyn gwneud y gorchymyn.
(2)Ar apêl yn erbyn gwneud gorchymyn, caiff yr Uwch Dribiwnlys—
(a)cadarnhau’r gorchymyn;
(b)diddymu’r gorchymyn;
(c)rhoi gorchymyn arall yn lle’r gorchymyn a wnaed.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad o dan yr adran hon i—
(a)person sy’n gweithredu gwasanaeth bysiau lleol neu sydd wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath,
(b)person sy’n gweithredu gwasanaeth adran 19 neu sydd wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath, neu
(c)person sy’n gweithredu gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 neu sydd wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath,
yn ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu i Weinidogion Cymru wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.
(2)O ran yr hysbysiad—
(a)rhaid iddo nodi sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei darparu;
(b)ni chaiff ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth sy’n ymwneud â chyfnod sy’n dod i ben fwy na phum mlynedd cyn y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, nac sy’n ymwneud â dyddiad sy’n fwy na phum mlynedd cyn y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(3)Ni chaniateir pennu gwybodaeth yn yr hysbysiad oni bai—
(a)bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen yr wybodaeth at ddiben arfer swyddogaeth berthnasol, a
(b)bod yr wybodaeth o fath a bennir mewn rheoliadau o dan yr adran hon.
(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon bennu gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—
(a)amserlenni ac amlderau gwasanaeth, a phrydlondeb gwasanaethau;
(b)llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(c)mannau esgyn a mannau disgyn;
(d)trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)archebu siwrneiau;
(f)taliadau teithio, tocynnau, refeniw a chostau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau;
(g)mathau o siwrneiau a nifer y siwrneiau a wneir;
(h)niferoedd teithwyr;
(i)cerbydau a’r defnydd ohonynt;
(j)cyfleusterau sydd ar gael i deithwyr ar gerbydau;
(k)cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(l)amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig) sydd ar gael yng nghyffiniau mannau esgyn a mannau disgyn;
(m)cyfansoddiad y gweithlu;
(n)rhagolygon yn ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion uchod.
(5)O ran y rheoliadau—
(a)rhaid iddynt wneud darpariaeth ynghylch apelau;
(b)cânt wneud darpariaeth ynghylch datgelu gwybodaeth (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y defnydd o wybodaeth gan bersonau y’i datgelir iddynt).
(6)At ddibenion yr adran hon, “swyddogaeth berthnasol” yw—
(a)swyddogaeth Gweinidogion Cymru sy’n arferadwy o dan Ran 2 neu Ran 3;
(b)swyddogaeth Gweinidogion Cymru sydd fel arall yn arferadwy mewn perthynas â chontract gwasanaeth bysiau lleol, trwydded gwasanaeth bysiau lleol, neu wasanaeth y dibynnir arno o dan adran 19.
(7)Yn y Rhan hon, mae i “llwybr teithio llesol” a “cyfleusterau cysylltiedig” yr ystyr a roddir yn adran 2 o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad o dan yr adran hon i awdurdod lleol neu gyngor cymuned yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod neu’r cyngor ddarparu i Weinidogion Cymru wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Rhaid i’r hysbysiad nodi sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei darparu.
(3)Ni chaniateir pennu gwybodaeth yn yr hysbysiad oni bai—
(a)bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen yr wybodaeth at ddibenion arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2, a
(b)bod yr wybodaeth o fath a bennir mewn rheoliadau o dan yr adran hon.
(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon bennu gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—
(a)llwybrau;
(b)mannau lle y caniateir i deithwyr esgyn i wasanaethau bysiau a disgyn oddi arnynt;
(c)seilwaith, gan gynnwys seilwaith trafnidiaeth ffyrdd a seilwaith priffyrdd;
(d)gweithredu gwasanaethau bysiau;
(e)argaeledd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr a gwasanaethau adran 19;
(f)amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig).
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i sicrhau bod yr wybodaeth a bennir mewn rheoliadau o dan yr adran hon yn cael ei rhoi i’r cyhoedd.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon bennu gwybodaeth sy’n ymwneud â gwasanaeth o fewn is-adran (3).
(3)Y gwasanaethau yw—
(a)gwasanaeth bysiau lleol;
(b)gwasanaeth adran 19 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19;
(c)gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19.
(4)Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn y rheoliadau yn cynnwys gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—
(a)amserlenni ac amlderau gwasanaeth, a phrydlondeb gwasanaethau;
(b)llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(c)mannau esgyn a mannau disgyn;
(d)trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)archebu siwrneiau;
(f)taliadau teithio a thocynnau;
(g)gweithredu gwasanaethau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—
(i)lleoliad cerbydau;
(ii)yr amser y mae gwasanaeth wedi cyrraedd neu y disgwylir iddo gyrraedd cyrchfan;
(h)cyfleusterau sydd ar gael i deithwyr ar gerbydau;
(i)cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(j)amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig) sydd ar gael yng nghyffiniau mannau esgyn a mannau disgyn.
(5)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth sy’n pennu sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei rhoi i’r cyhoedd.
(1)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol—
(a)i berson sy’n gweithredu gwasanaeth bysiau lleol,
(b)i berson sy’n gweithredu gwasanaeth adran 19 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19, neu
(c)i berson sy’n gweithredu gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19,
ddarparu gwybodaeth benodedig mewn perthynas â’r gwasanaeth i Weinidogion Cymru.
(2)Ni chaniateir pennu gwybodaeth yn y rheoliadau oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen yr wybodaeth at ddiben y ddyletswydd o dan adran 29(1).
(3)Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn y rheoliadau yn cynnwys gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—
(a)amserlenni ac amlderau gwasanaeth, a phrydlondeb gwasanaethau;
(b)llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(c)mannau esgyn a mannau disgyn;
(d)trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)archebu siwrneiau;
(f)taliadau teithio a thocynnau;
(g)gweithredu gwasanaethau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—
(i)lleoliad cerbydau;
(ii)yr amser y mae gwasanaeth wedi cyrraedd neu y disgwylir iddo gyrraedd cyrchfan;
(h)cyfleusterau sydd ar gael i deithwyr ar gerbydau;
(i)cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(j)amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig) sydd ar gael yng nghyffiniau mannau esgyn a mannau disgyn.
(4)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth sy’n pennu sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei darparu.
Nid yw gofyniad a osodir ar berson o dan adran 27, 28 neu 30 yn gymwys i wybodaeth y byddai gan y person, mewn achos cyfreithiol, hawl i wrthod ei darparu ar sail braint gyfreithiol.
(1)Os yw comisiynydd traffig wedi ei fodloni bod person sy’n gweithredu gwasanaeth bysiau neu sydd wedi gweithredu gwasanaeth bysiau, heb esgus rhesymol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â hysbysiad a roddir o dan adran 27 neu reoliadau a wneir o dan adran 30, caiff y comisiynydd traffig wneud un neu ragor o orchmynion o dan is-adran (2).
(2)Y gorchmynion yw—
(a)gorchymyn i’r person dalu, o fewn amser a bennir yn y gorchymyn, gosb o unrhyw swm y mae’r comisiynydd traffig yn credu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond nad yw’n fwy na’r terfyn uchaf;
(b)gorchymyn o unrhyw ddisgrifiad arall a ragnodir mewn rheoliadau.
(3)Os yw person yn methu â chydymffurfio â gorchymyn o dan is-adran (2), a bod yr amod yn is-adran (5) wedi ei fodloni mewn perthynas â’r gorchymyn, caiff comisiynydd traffig wneud gorchymyn o dan yr is-adran hon yn gorchymyn i’r person dalu, o fewn cyfnod a bennir yn y gorchymyn, gosb ychwanegol.
(4)Caiff y gosb ychwanegol fod yn unrhyw swm y mae’r comisiynydd traffig yn credu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond ni chaiff fod yn fwy na 110% o’r terfyn uchaf.
(5)Yr amod yw naill ai—
(a)ar apêl o dan adran 33 yn erbyn gwneud y gorchymyn, bod y gorchymyn wedi ei gadarnhau, neu
(b)bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl i’r Uwch Dribiwnlys o dan adran 33 yn erbyn gwneud y gorchymyn wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei dwyn.
(6)Ar ôl gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3), rhaid i’r comisiynydd traffig roi hysbysiad i—
(a)y person y mae’r gorchymyn wedi ei wneud mewn perthynas ag ef, a
(b)Gweinidogion Cymru.
(7)Ac eithrio i unrhyw raddau y darperir ar eu cyfer mewn rheoliadau o dan yr adran hon, mae swm y gorchmynnir ei dalu o dan is-adran (2) neu (3) yn daladwy i Weinidogion Cymru ac yn adenilladwy, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
(8)Caiff rheoliadau o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth ynghylch gorchmynion o dan yr adran hon gan gynnwys darpariaeth ynghylch (ymhlith pethau eraill)—
(a)ffurf a chynnwys gorchymyn;
(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn gan gomisiynydd traffig mewn perthynas â gorchymyn.
(9)Y terfyn uchaf, at ddibenion cosb y gorchmynnir i berson ei thalu o dan yr adran hon, yw—
(a)yn achos person a oedd, ar yr adeg berthnasol, wedi ei drwyddedu i ddefnyddio cerbydau o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, y swm a gyfrifir drwy luosi cyfanswm nifer y cerbydau yr oedd y person wedi ei drwyddedu i’w defnyddio o dan yr holl drwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddalid gan y person ar yr adeg berthnasol, â’r naill neu’r llall o—
(i)swm a bennir mewn rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn, neu
(ii)os nad oes unrhyw swm wedi ei bennu felly, £550;
(b)yn achos person nad oedd, ar yr adeg berthnasol, wedi ei drwyddedu i ddefnyddio cerbydau o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus—
(i)swm a bennir mewn rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn, neu
(ii)os nad oes unrhyw swm wedi ei bennu felly, £550.
(10)At ddibenion is-adran (9), yr “adeg berthnasol” yw—
(a)yn achos methiant i gydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â hysbysiad a roddir o dan adran 27, yr amser y rhoddwyd yr hysbysiad;
(b)yn achos methiant i gydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 30, yr amser y methodd y person â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw.
(1)Caiff person y mae gorchymyn wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan is-adran (2) neu (3) o adran 32 apelio i’r Uwch Dribiwnlys yn erbyn gwneud y gorchymyn.
(2)Ar apêl yn erbyn gwneud gorchymyn, caiff yr Uwch Dribiwnlys—
(a)cadarnhau’r gorchymyn;
(b)diddymu’r gorchymyn;
(c)rhoi gorchymyn arall yn lle’r gorchymyn a wnaed.
(1)Mae Deddf 1985 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 66 (cyfyngiad ar bwerau cynghorau penodol i weithredu ymgymeriadau bysiau), yn is-adran (1), hepgorer “a county council or county borough council in Wales”.
Yn Neddf 1985, yn adran 63 (swyddogaethau cynghorau lleol mewn perthynas â thrafnidiaeth teithwyr), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)The duty in subsection (1) does not require a council in Wales to secure the provision of a service that is a local bus service for the purposes of section 1 of the Bus Services (Wales) Act 2026 (asc [X]).”
(1)Caiff awdurdod lleol roi cymorth ariannol mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth bysiau lleol.
(2)Nid yw adran 88(1) o Ddeddf 1985 yn gymwys mewn perthynas â chymorth ariannol a roddir o dan is-adran (1) (ac, yn unol â hynny, nid yw adrannau 89 i 92 o’r Ddeddf honno (rheolau sy’n ymwneud â chytundebau cymhorthdal) yn gymwys).
(3)Yn adran 63 (swyddogaethau cynghorau lleol mewn perthynas â thrafnidiaeth teithwyr) o Ddeddf 1985, yn is-adran (9), yn y geiriau agoriadol, ar ôl “references to services”, mewnosoder “in connection with which financial assistance has been given under section 36 of the Bus Services (Wales) Act 2026 and to services”.
(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo trosglwyddiad perthnasol i’w drin fel pe bai’n digwydd at ddibenion Rheoliadau TUPE (i’r graddau nad hyn fyddai’r achos fel arall), pan—
(a)ymrwymir i gontract gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 10, neu y’i terfynir neu y’i hamrywir, pa un ai o dan delerau’r contract neu fel arall;
(b)rhoddir trwydded gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 12, neu y’i dirymir neu y’i hamrywir, neu fo’n peidio â chael effaith am fod y cyfnod a bennir o dan adran 13(1) wedi dod i ben;
(c)bydd Gweinidogion Cymru yn ymgymryd â darparu gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 18, neu’n peidio â darparu gwasanaeth o’r fath.
(2)Pan fo rheoliadau’n gwneud darpariaeth o dan is-adran (1) ar gyfer amgylchiadau pan fo trosglwyddiad perthnasol i’w drin fel pe bai’n digwydd at ddibenion Rheoliadau TUPE—
(a)rhaid iddynt hefyd wneud darpariaeth i’r trosglwyddiad perthnasol hwnnw gael ei drin fel pe bai’n drosglwyddiad perthnasol, o fewn yr ystyr a roddir i “relevant transfer” yn Rheoliadau TUPE, at ddibenion adrannau 257 a 258 o Ddeddf Pensiynau 2024, ac unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 258 o’r Ddeddf honno;
(b)cânt wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â chymhwyso Rheoliadau TUPE mewn perthynas â’r trosglwyddiad perthnasol.
(3)Yn yr adran hon—
(a)mae cyfeiriadau at Reoliadau TUPE yn gyfeiriadau at Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246);
(b)mae cyfeiriadau at “trosglwyddiad perthnasol” yn gyfeiriadau at “relevant transfer” o fewn yr ystyr a roddir i’r term hwnnw yn y Rheoliadau hynny.
(1)Mae Deddf 1985 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 6 (cofrestru gwasanaethau lleol)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “or (1D)” rhodder “, (1D) or (1F)”;
(b)ar ôl is-adran (1E) mewnosoder—
“(1F)A service is within this subsection if it is a local bus service for the purposes of section 1 of the Bus Services (Wales) Act 2026 (asc [X]).
(1G)But for the purposes of subsection (1F), a service that is within subsection (1I) is not to be treated as a local bus service (and is therefore a local service for the purposes of subsection (1)) unless it is—
(a)secured under a local bus service contract entered into under section 10(1) of the Bus Services (Wales) Act 2026, or
(b)a service in respect of which a local bus service permit granted under section 12(1) of that Act has effect.
(1H)For the purposes of subsection (1G)(b), a local bus service permit is to be treated as continuing to have effect throughout any period during which the permit is suspended under section 16(1) of the Bus Services (Wales) Act 2026.
(1I)The services are—
(a)a community bus service (within the meaning given in section 22(1) of this Act);
(b)a service provided as described in section 46(1) of the 1981 Act (fare-paying passengers on school buses).
(1J)In the case of a service that is a standard local bus service for the purposes of the Bus Services (Wales) Act 2026, any part of the service which is provided outside Wales is to be treated as a separate service for the purposes of subsection (1F) (and is therefore not a local bus service for the purposes of that subsection), if there is any stopping place for that part of the service outside Wales, or if there is any point outside Wales at which passengers may request to be taken up or set down (other than in the case of an emergency).
(1K)In the case of a service that is a flexible local bus service for the purposes of the Bus Services (Wales) Act 2026, any part of its area of operation which is outside Wales is to be treated as a separate service for the purposes of subsection (1F) (and is therefore not a local bus service for the purposes of that subsection).”
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—
(a)bo gwasanaeth bysiau lleol wedi ei gofrestru â chomisiynydd traffig o dan adran 6 o Ddeddf 1985, ond
(b)bo’r gwasanaeth hwnnw yn peidio â bod yn wasanaeth lleol, at ddibenion adran 6, yn rhinwedd y diwygiadau a wneir i’r adran honno gan adran 38.
(2)Pan fydd y gwasanaeth yn peidio â bod yn wasanaeth lleol at ddibenion adran 6—
(a)mae cofrestriad y gwasanaeth o dan adran 6 yn peidio â chael effaith, a
(b)mae unrhyw amod sydd wedi ei roi ynghlwm wrth drwydded bysiau cymunedol neu drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus o dan adran 8 o Ddeddf 1985, i’r graddau y mae’n gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth, yn peidio â chael effaith.
(1)Mae adran 7 (darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr) o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p. 5) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1), ar ôl “public passenger transport services” mewnosoder “, other than a service that is within subsection (1A),”.
(3)Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A)A service is within this subsection if it is a local bus service for the purposes of section 1 of the Bus Services (Wales) Act 2026 (asc [X]).”
(4)Ar ôl is-adran (4A), mewnosoder—
“(4B)The restriction in subsection (4) does not apply in the case of a local bus service contract entered into under the Bus Services (Wales) Act 2026 (asc [X]).”
(1)Yn Neddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38)—
(a)hepgorer adrannau 114 i 123 (cynlluniau partneriaeth ansawdd);
(b)hepgorer adrannau 124 i 134B (cynlluniau contractau ansawdd);
(c)hepgorer adrannau 135 i 138 (cynlluniau tocynnu ar y cyd).
(2)Mae unrhyw gynllun a wnaed o dan adran 114, 124, neu adran 135 o’r Ddeddf honno’n peidio â chael effaith.
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig.
(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol ac ar gyfer ardaloedd gwahanol.
(3)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed.
(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).
(5)Mae offeryn statudol Cymreig y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
(6)Mae is-adran (5) yn gymwys i offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
(a)adran 16(5) (dirymu trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol a’u hatal dros dro);
(b)adran 23(3) (cymhwyso’r cyfyngiad yn adran 23);
(c)adran 25(2)(b) (gorchmynion eraill y caniateir eu gwneud gan gomisiynydd traffig mewn perthynas â thorri’r cyfyngiad yn adran 23);
(d)adran 25(9)(a)(i) a (b)(i) (penderfynu’r terfyn uchaf ar gyfer cosbau am dorri’r cyfyngiad yn adran 23);
(e)adran 27 (darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion swyddogaethau o dan Ran 2 neu Ran 3);
(f)adran 28 (darparu gwybodaeth am seilwaith a materion eraill i Weinidogion Cymru gan awdurdodau lleol a chynghorau cymuned);
(g)adran 29 (gwybodaeth i gael ei rhoi i’r cyhoedd);
(h)adran 30 (darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion adran 29);
(i)adran 32(2)(b) (gorchmynion eraill y caniateir eu gwneud gan gomisiynydd traffig mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth);
(j)adran 32(9)(a)(i) a (b)(i) (penderfynu’r terfyn uchaf ar gyfer cosbau am fethiant i gydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth);
(k)adran 37(1) a (3) (cymhwyso Rheoliadau TUPE);
(l)adran 44(3) (ystyr gweithredwr).
(7)Mae is-adran (5) hefyd yn gymwys i offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw ddarpariaeth nas crybwyllir yn is-adran (6), pan fo’r rheoliadau yn addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.
(8)Mae unrhyw offeryn statudol Cymreig arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.
(9)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd Cymru;
(b)Mesur gan y Cynulliad;
(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson neu’n awdurdodi person i—
(a)hysbysu person arall am rywbeth, neu
(b)rhoi dogfen i berson arall (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu “rhoi” neu unrhyw derm arall).
(2)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen arall i’r person o dan sylw mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn—
(a)drwy ei roi neu ei rhoi i’r person â llaw;
(b)drwy ei adael neu ei gadael, wedi ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y person, yng nghyfeiriad priodol y person;
(c)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy bost rhagdaledig, wedi ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y person yng nghyfeiriad priodol y person;
(d)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, drwy ei anfon neu ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (9).
(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2)(a) at roi hysbysiad neu ddogfen arall i berson â llaw—
(a)os mai corff corfforedig yw’r person, yn gyfeiriad at ei roi neu ei rhoi â llaw i un o swyddogion y corff;
(b)os mai partneriaeth yw’r person, yn gyfeiriad at ei roi neu ei rhoi â llaw i un o’r partneriaid.
(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2)(b) ac (c) at gyfeirio hysbysiad neu ddogfen arall at berson—
(a)os mai corff corfforedig yw’r person, yn gyfeiriad at ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y corff corfforedig, neu at un o swyddogion y corff;
(b)os mai partneriaeth yw’r person, yn gyfeiriad at ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y bartneriaeth, neu at un o’r partneriaid.
(5)Mae is-adrannau (6) i (8) yn gymwys at ddibenion penderfynu cyfeiriad priodol person fel y cyfeirir ato yn is-adrannau (2)(b) ac (c).
(6)Os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiad penodol neu ddogfen arall benodol, y cyfeiriad hwnnw yw cyfeiriad priodol y person at ddibenion cyflwyno’r hysbysiad hwnnw neu’r ddogfen arall honno.
(7)Yn achos cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall nad yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno mewn perthynas ag ef neu â hi fel y’i disgrifir yn is-adran (6), os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau yn gyffredinol, y cyfeiriad hwnnw yw cyfeiriad priodol y person at ddibenion cyflwyno’r hysbysiad neu’r ddogfen arall.
(8)Yn achos cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall pan na fo’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno fel y’i disgrifir yn is-adran (6) mewn perthynas â’r hysbysiad hwnnw neu’r ddogfen honno, nac wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau yn gyffredinol, cyfeiriad priodol y person at ddibenion cyflwyno’r hysbysiad neu’r ddogfen arall yw—
(a)os mai corff corfforedig yw’r person, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
(b)os mai partneriaeth yw’r person, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;
(c)mewn unrhyw achos arall, preswylfa hysbys ddiwethaf neu fan busnes hysbys diwethaf y person.
(9)Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(d) yw bod yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—
(a)yn gallu cael ei gyrchu neu ei chyrchu gan y person y’i hanfonir ato,
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac
(c)yn gallu cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio ar gyfer cyfeirio ato neu ati yn y dyfodol.
(10)At ddibenion yr adran hon—
(a)prif swyddfa cwmni sydd wedi ei gofrestru y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw prif swyddfa’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno yn y Deyrnas Unedig;
(b)ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall y corff corfforedig.
(1)Yn y Ddeddf hon—
mae “addasu” (“modify”) yn cynnwys diwygio, dirymu neu ddiddymu;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “comisiynydd traffig” (“traffic commissioner”) yw comisiynydd traffig ar gyfer Cymru a Lloegr a benodir o dan adran 4 o Ddeddf 1981;
ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 (p. 14);
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67);
ystyr “gwasanaeth adran 19” (“section 19 service”) yw gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd pan fo pob cerbyd a ddefnyddir yn cael ei ddefnyddio felly o dan drwydded o dan adran 19 o Ddeddf 1985;
mae i “gwasanaeth bysiau cymunedol” yr ystyr a roddir i “community bus service” yn adran 22 o Ddeddf 1985;
ystyr “gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1” (“Part 3 of Schedule 1 service”) yw gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd pan fo pob cerbyd a ddefnyddir yn cael ei ddefnyddio felly mewn amgylchiadau pan fo’r amodau a nodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Ddeddf 1981 wedi eu bodloni;
mae i “gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr” yr ystyr a roddir i “public passenger transport services” yn adran 7 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p. 5);
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “Strategaeth Drafnidiaeth Cymru” (“Wales Transport Strategy”) yw Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a gyhoeddir o dan adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p. 5);
mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;
mae i “trwydded bysiau cymunedol” yr ystyr a roddir i “community bus permit” yn adran 22 o Ddeddf 1985;
mae i “trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus” yr un ystyr â “PSV operator’s licence” yn Neddf 1981.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at weithredwr, mewn perthynas â gwasanaeth, yn gyfeiriadau at y person, neu at bob un o’r personau, sy’n darparu’r gwasanaeth; ac mae ymadroddion cysylltiedig (gan gynnwys cyfeiriadau at berson sydd wedi gweithredu gwasanaeth) i’w dehongli yn unol â hynny.
(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch amgylchiadau pan fo person o ddisgrifiad penodedig i’w drin at ddibenion is-adran (2) fel pe bai’n darparu gwasanaeth neu fel pe na bai’n darparu gwasanaeth.
Mae’r Tabl isod yn rhestru darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n diffinio neu’n egluro fel arall dermau a ddefnyddir yn y Ddeddf hon (heblaw term nas defnyddir ond mewn adran lle y mae’r term hwnnw wedi ei ddiffinio neu ei egluro)—
| Term | Darpariaeth berthnasol |
|---|---|
| A bennir (“ specified”) | Adran 44(1) |
| Addasu (“ modify”) | Adran 44(1) |
| Awdurdod lleol (“local authority”) | Adran 44(1) |
| Comisiynydd traffig (“traffic commissioner”) | Adran 44(1) |
| Contract gwasanaeth bysiau lleol (“local bus service contract”) | Adran 10(1) |
| Cyfleusterau cysylltiedig (“related facilities”) | Adran 27(7) |
| Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru (“Welsh Bus Network Plan”) | Adran 5(1)(b) |
| Deddf 1981 (“the 1981 Act”) | Adran 44(1) |
| Deddf 1985 (“the 1985 Act”) | Adran 44(1) |
| Gwasanaeth adran 19 (“section 19 service”) | Adran 44(1) |
| Gwasanaeth bysiau cymunedol (“community bus service”) | Adran 44(1) |
| Gwasanaeth bysiau lleol (“local bus service”) | Adran 1 |
| Gwasanaeth bysiau lleol hyblyg (“flexible local bus service”) | Adran 3(a) |
| Gwasanaeth bysiau lleol safonol (“standard local bus service”) | Adran 3(b) |
| Gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 (“Part 3 of Schedule 1 service) | Adran 44(1) |
| Gwasanaeth trawsffiniol (cross-border service”) | Adran 20(1) |
| Gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr (“public passenger transport services”) | Adran 44(1) |
| Gweithredwr (“ operator”) | Adran 44(2) |
| Hysbysiad (“ notice”) | Adran 44(1) |
| Llwybr teithio llesol (“active travel route”) | Adran 27(7) |
| Man disgyn (“disembarkation point”) | Adran 2(b) |
| Man esgyn (“embarkation point”) | Adran 2(a) |
| Penodedig (“ specified”) | Adran 44(1) |
| Rheoliadau (“ regulations”) | Adran 44(1) |
| Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (“Wales Transport Strategy”) | Adran 44(1) |
| Swyddogaethau (“ functions”) | Adran 44(1) |
| Trwydded bysiau cymunedol (“community bus permit”) | Adran 44(1) |
| Trwydded gwasanaeth bysiau lleol (“local bus service permit”) | Adran 12(2) |
| Trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus (“PSV operator’s licence”) | Adran 44(1) |
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, neu o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).
Mae’r Atodlen (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol etc.) yn cael effaith.
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)adrannau 1 i 3;
(b)adran 5(6) a (7);
(c)adran 11;
(d)adran 14(2) a (3);
(e)adran 15(1) a (2);
(f)adran 27(3)(b), (4) a (5);
(g)adran 28(3)(b) a (4);
(h)adran 29(2) i (5);
(i)adran 30;
(j)adran 32(2)(b), (8), a (9)(a)(i) a (9)(b)(i);
(k)adrannau 42 i 46;
(l)yr adran hon;
(m)adran 49.
(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)adran 4;
(b)adran 21.
(3)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—
(a)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;
(b)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol ac ar gyfer ardaloedd gwahanol.
Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—
(a)Deddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026, neu
(b)the Bus Services (Wales) Act 2026.
(a gyflwynir gan adran 47)
1(1)Mae Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 1 (gorchmynion rheoleiddio traffig y tu allan i Lundain Fwyaf), yn is-adran (3B)—
(a)hepgorer paragraff (a);
(b)hepgorer paragraff (b).
(3)Yn Atodlen 9, ym mharagraff 27, hepgorer is-baragraff (3).
2(1)Mae Deddf Trafnidiaeth 1985 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 6 (cofrestru gwasanaethau lleol)—
(a)yn is-adran (2A), ym mharagraff (a), hepgorer “or 114(3A)” ac “and quality partnership schemes”;
(b)hepgorer is-adran (2B);
(c)hepgorer is-adran (7A);
(d)yn is-adran (8), hepgorer “and, in the case of variation, to section 6B of this Act”.
(3)Yn adran 6A (ceisiadau i gofrestru etc. pan fo cyfyngiadau mewn grym)—
(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (a), hepgorer “or 114(3A)” ac “or a quality partnership scheme”;
(b)yn is-adran (8), ym mharagraff (c), hepgorer “or 118(4)”;
(c)yn is-adran (12)—
(i)hepgorer y cofnod ar gyfer “quality partnership scheme”;
(ii)yn y cofnod ar gyfer “registration criteria”, hepgorer paragraff (b);
(iii)yn y cofnod ar gyfer “relevant operator”, ym mharagraff (a), hepgorer “or 118(4)”.
(4)Hepgorer adran 6B (ceisiadau i gofrestru pan fo cynllun contractau ansawdd mewn grym).
(5)Yn adran 26 (amodau sydd ynghlwm wrth drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus), yn is-adran (1)—
(a)ym mharagraff (b), hepgorer “118(4),” a “, 129(1)(b)”;
(b)ym mharagraff (bza), hepgorer “, 134B(7)(c)”;
(c)ym mharagraff (ba), hepgorer “, 138”.
(6)Yn adran 66 (eithrio pwerau cynghorau penodol i redeg ymgymeriadau bysiau), yn is-adran (1), hepgorer “and 132C”.
(7)Yn adran 82 (gorsafoedd bysiau: cyfyngiadau ar arferion gwahaniaethol etc.), yn is-adran (4A), hepgorer “or a quality partnership scheme”.
(8)Mae adran 93 (cynlluniau consesiwn teithio) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn is-adran (1), yn y geiriau agoriadol, ar y diwedd, mewnosoder “other than services within subsection (1A)”;
(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A)A service is within this subsection if it is a local bus service for the purposes of section 1 of the Bus Services (Wales) Act 2026 (asc [X]).”
(9)Yn adran 134 (rheoliadau, rheolau a gorchmynion), yn is-adran (7), hepgorer paragraff (c).
(10)Yn adran 135 (gweithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau, rheolau a gorchmynion), yn is-adran (8), hepgorer paragraff (c).
3(1)Mae Deddf Trafnidiaeth 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 139 (gwybodaeth am wasanaethau bysiau)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “Each local transport authority” mewnosoder “whose area is in England”;
(b)yn is-adran (4), ar ôl “an authority” mewnosoder “whose area is in England”.
(3)Yn adran 143 (pŵer i gael gwybodaeth am wasanaethau lleol), yn is-adran (1), ar ôl “A local transport authority” mewnosoder “whose area is in England”.
(4)Yn adran 149 (consesiynau teithio: ad-dalu gweithredwyr)—
(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (b), ar ôl “145B(1)” mewnosoder “, other than in respect of a service that is within subsection (1A),”;
(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A)A service is within this subsection if it is a local bus service for the purposes of section 1 of the Bus Services (Wales) Act [2026] (asc [X]), and it is—
(a)provided under a local bus service contract entered into under section 10 of that Act, or
(b)provided by the Welsh Ministers under section 18 of that Act.”;
(c)yn is-adran (2), ym mharagraff (a)(ii), ar y dechrau, mewnosoder “in respect of a service other than a service that is within subsection (1A),”.
(5)Yn adran 153 (prawf cystadleuaeth: swyddogaethau a chytundebau sy’n ymwneud â bysiau)—
(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—
(i)hepgorer “quality partnership schemes,” yr ail waith y mae’n digwydd;
(ii)hepgorer “ticketing schemes,” yr ail waith y mae’n digwydd;
(b)yn is-adran (3), yn y diffiniad o “voluntary agreement”, hepgorer “, or under sections 114 to 123 (quality partnership schemes)”.
(6)Yn adran 155 (sancsiynau), yn is-adran (1)—
(a)ym mharagraff (b), hepgorer “, 118(4), 129(1)(b)”;
(b)ym mharagraff (ba), hepgorer “, 134B(7)(c)”;
(c)ym mharagraff (c), hepgorer “, 138”.
(7)Yn adran 162 (dehongli Rhan II)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)hepgorer y cofnodion ar gyfer “appropriate national authority”, “exempt continuation proposal”, “quality contract”, “quality contracts scheme”, “quality partnership scheme” a “ticketing scheme”;
(ii)yn y cofnod ar gyfer “connecting rail or tram service”, hepgorer paragraff (b) a’r “and” o’i flaen;
(b)yn is-adran (4), hepgorer “section 114(2)(a),”, “section 116(2)(a), (4)(a), (4A)(a) and, in the second place, (4C),”, “section 118(1) and (2),” a “section 129(4),”.
(8)Yn Atodlen 10 (prawf cystadleuaeth ar gyfer arfer swyddogaethau bysiau)—
(a)ym mharagraff 1, yn is-baragraff (1)—
(i)hepgorer paragraff (a);
(ii)hepgorer paragraff (b);
(b)ym mharagraff 1, yn is-baragraff (2)—
(i)hepgorer paragraff (a);
(ii)hepgorer paragraff (b);
(c)ym mharagraff 12, yn is-baragraff (2), ym mharagraff (b), hepgorer “a quality partnership scheme” ac “, a ticketing scheme”;
(d)ym mharagraff 17, yn is-baragraff (5), ym mharagraff (c), hepgorer “a quality partnership scheme,”.
(9)Yn Atodlen 11 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraff 8.
4(1)Mae Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Hepgorer—
(a)adrannau 13 i 21;
(b)adran 26;
(c)adrannau 28 i 32;
(d)adrannau 34 a 35;
(e)adrannau 37 i 43;
(f)yn adran 44, is-adran (1);
(g)adran 49;
(h)yn Atodlen 1, paragraffau 2 a 3;
(i)yn Atodlen 4, paragraff 43.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: