Rhan 2 – Y Dreth Gyngor
Adran 16 – Trosolwg o Ran 2
83.Maeʼr adran hon yn rhoi trosolwg oʼr adrannau yn Rhan 2.
Adran 17 – Cyfrifoʼr dreth ar gyfer bandiau prisio gwahanol
84.Maeʼr adran hon yn diwygio adran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“
85.Cyn y diwygiad, mae ystyr y llythyren “D” yn y ddwy fformiwla wedi ei osod fel y gyfran ar gyfer Band D.
86.Ar ôl y diwygiad, mae is-adran newydd (4B) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i newid y band prisio y cyfeirir ato yn yr ystyr a roddir i “D” gan adrannau 36 a 47. Mae is-adran newydd (4B) hefyd yn ailddatgan, ar gyfer Gweinidogion Cymru, y pwerau presennol o dan is-adran (4) i amnewid cyfran arall mewn perthynas ag is-adran (1A), a bandiau prisio eraill mewn perthynas ag is-adran (3) (syʼn cynnwys y rhestr o fandiau prisio ar gyfer anheddau yng Nghymru). Ac mae is-adran newydd (4C) yn ailadrodd, ar gyfer is-adran newydd (4B), yr eglurhad cyfatebol, mewn cysylltiad ag is-adran (4)(b), yn is-adran (4A).
Adran 18 – Disgowntiau
87.Maeʼr adran hon yn datgymhwyso darpariaethau presennol yn Neddf 1992 ynghylch disgowntiau i’r dreth gyngor mewn perthynas ag anheddau trethadwy yng Nghymru, ac mae’n mewnosod darpariaeth newydd ynghylch disgowntiau o’r fath sy’n gymwys o ran Cymru yn unig.
88.Mae adrannau 6 a 9 o Ddeddf 1992 yn cynnwys darpariaeth ynghylch atebolrwydd am dalu’r dreth gyngor o dan wahanol amgylchiadau. Mae adran 18(2) a (3) yn diwygio’r adrannau hyn i’r graddau y maent yn darparu ar gyfer diystyru personau penodol at ddibenion penderfynu pwy sy’n atebol pan fyddai’r personau hynny fel arall yn atebol ar y cyd ac yn unigol. O dan adrannau 6 a 9 fel y’u diwygir gan adran (18)(2) a (3), diystyrir personau at y dibenion hyn os ydynt yn cael eu diystyru at ddibenion disgownt mewn perthynas ag annedd yng Nghymru o dan adran newydd 11E(5) (gweler isod) ac os ydynt yn cael eu cynnwys mewn disgrifiad a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Mae adran 18(4) yn diwygio adran 11 o Ddeddf 1992 fel ei bod yn parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr yn unig, ac mae adran 18(5) yn mewnosod adran 11E newydd sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer disgowntiau mewn perthynas â Chymru.
89.Mae adran 11E(1) yn darparu pwerau ar gyfer Gweinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau swm y disgownt y gall annedd drethadwy fod yn ddarostyngedig iddo (neu’r dull ar gyfer cyfrifo’r swm hwnnw) pan fo naill ai’r meini prawf a nodir yn adran 11E(2), neu feini prawf eraill a nodir gan reoliadau o dan 11E(3), yn cael eu bodloni mewn cysylltiad â’r annedd honno. Mae adran 11E(4) yn egluro y caiff y rheoliadau o dan adran 11E(1) ragnodi swm gwahanol o ddisgownt (neu ddarpariaeth wahanol ar gyfer cyfrifo swm disgownt) mewn perthynas â meini prawf gwahanol. Mae hefyd yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud darpariaeth ynghylch swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn perthynas ag annedd y mae mwy nag un disgownt yn gymwys mewn cysylltiad â hi.
90.Mae’r meini prawf a nodir yn adran 11E(2)(a) yn cyfateb i’r rhai a nodir yn adran 11(1) a (2)(b) o Ddeddf 1992, ond mae adran 11E(2)(b) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu drwy reoliadau ar gyfer amodau neu feini prawf eraill y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i swm y dreth gyngor syʼn daladwy ar annedd drethadwy fod yn ddarostyngedig i ddisgownt o dan adran 11E(1). Mae adran 11E(6) yn darparu y caniateir rhagnodi’r amodau neu’r meini prawf hyn, a hefyd unrhyw amodau neu feini prawf a ragnodir o dan adran 11E(3), drwy gyfeirio at:
y math o anheddau neu eu nodweddion ffisegol, neu faterion eraill sy’n ymwneud ag anheddau;
amgylchiadau unrhyw berson sy’n atebol am dalu swm y dreth gyngor dan sylw, neu faterion eraill sy’n ymwneud â’r person hwnnw.
91.Mae adran 11E(5) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy reoliadau pwy sy’n cael eu diystyru at ddibenion y disgowntiau a nodir yn adran 11E(2) o Ddeddf 1992. Mae’r pŵer hwn yn disodli’r pŵer yn adran 11(5) o Ddeddf 1992 a fydd yn parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr yn unig.
92.Mae adran 18(5) hefyd yn mewnosod adran 11F newydd yn Neddf 1992. Mae’r adran hon yn disodli adran 12 o Ddeddf 1992, sy’n cael ei hepgor gan adran 18(6). O dan adran 11F(1) a (3), caiff Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, ragnodi dosbarthau o anheddau y mae disgownt o dan adran 11E yn gymwys iddynt drwy gyfeirio at:
y math o anheddau neu eu nodweddion ffisegol, neu faterion eraill sy’n ymwneud ag anheddau;
amgylchiadau unrhyw berson sy’n atebol am dalu swm y dreth gyngor dan sylw, neu faterion eraill sy’n ymwneud â’r person hwnnw.
93.O dan adran 11F(2), ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol y mae dosbarth o anheddau o’r fath yn cael ei ragnodi mewn cysylltiad â hi, caiff awdurdod bilio benderfynu datgymhwyso neu leihau’r disgownt o dan sylw mewn perthynas ag anheddau yn ei ardal (neu ran o’i ardal a bennir gan yr awdurdod).
94.Mae adran 11F(4) i (7) yn gwneud darpariaeth atodol, gan gynnwys gofyniad i unrhyw benderfyniad a wneir gan awdurdod o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi’n electronig.
95.Mae adran 12A ac adran 12B o Ddeddf 1992 yn rhoi pwerau yn ôl eu disgresiwn i awdurdodau bilio i godi symiau uwch oʼr dreth gyngor yn achos anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol.
96.Mae adran 18(7) yn diwygio adran 12A o Ddeddf 1992, sy’n gwneud darpariaeth i awdurdodau bilio bennu bod swm y dreth gyngor sy’n daladwy yn cael ei gynyddu hyd at 300 y cant. Fel y’i diwygiwyd, ni fydd adran 12A bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod bilio ddatgymhwyso’r disgownt pan nad oes preswylydd yn yr annedd fel rhan o’i benderfyniad i gynyddu’r dreth gyngor o dan adran 12A (oherwydd bod y disgownt pan nad oes preswylydd yn yr annedd wedi cael ei ddiddymu yng Nghymru). Yn hytrach, mae adran 12A yn cael ei diwygio fel bod rhaid i’r awdurdod gyfrifo swm y dreth gyngor sy’n daladwy drwy, yn gyntaf, ychwanegu’r cynnydd ar ffurf canran, ac wedyn tynnu unrhyw ddisgownt sy’n gymwys (gweler adran 12A(1)). Bydd disgownt ym gymwys at y dibenion hyn os yw wedi cael ei ragnodi gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol ag adran 11E(3), ac nad yw wedi cael ei ddatgymhwyso gan yr awdurdod bilio o dan adran 11F(2)(a). Swm y disgownt y mae’r awdurdod bilio yn ei dynnu fydd swm y disgownt a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir o dan adran 11E(1) neu, os yw’n llai, y swm a bennir gan yr awdurdod bilio o dan adran 11F(2)(b). Mae adran 18(8) yn gwneud yr un diwygiad i adran 12B o Ddeddf 1992 mewn perthynas ag anheddau a feddiennir yn gyfnodol.
97.Mae is-adrannau (9) i (11) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau eraill yn Neddf 1992.
Adran 19 – Symiau gostyngedig
98.Mae adran 19(2) oʼr Ddeddf yn diwygio adran 13 o Ddeddf 1992, o ran pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhagnodi o dan ba amodau ac amgylchiadau y mae person yn gymwys ar gyfer gostyngiad i’r dreth gyngor, drwy ei newid yn ddyletswydd i wneud rheoliadau o’r fath.
99.Mae adran 19 hefyd yn dileu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 13A o Ddeddf 1992 syʼn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio wneud cynllun gostyngiadauʼr dreth gyngor, ac yn gwneud amryw ddiwygiadau canlyniadol – gan gynnwys hepgor Atodlen 1B i Ddeddf 1992, a oedd yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadauʼr dreth gyngor yn unol â rheoliadau o dan adran 13A.
100.Mae adran 19(6) yn diwygio adran 66(2) o Ddeddf 1992, sy’n rhestru materion yn y Ddeddf honno na chaniateir eu cwestiynu ond drwy adolygiad barnwrol, drwy ychwanegu materion mewn rheoliadau a wneir o dan adran 13 at y rhestr hon.
Adran 20 - Y weithdrefn ar gyfer llunio rhestrau prisio
101.Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer llunio rhestrau prisio newydd bob pum mlynedd ar gyfer y dreth gyngor, gan ddechrau yn 2028 , drwy ddiwygio adran 22B o Ddeddf 1992.
102.Cyn y diwygiad, caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy orchymyn, y flwyddyn y mae rhestr brisio treth gyngor newydd i gael ei llunio. Nid oes gofyniad i lunio rhestr newydd ar gyfnodau rheolaidd.
103.Diwygir adran 22B(3) o Ddeddf 1992 fel na all Gweinidogion Cymru ond arfer eu pŵer i wneud gorchymyn i bennu blwyddyn heb fod yn hwyrach na 2027 . Mae adran 20(1)(b) oʼr Ddeddf yn mewnosod is-adrannau newydd (3A) i (3C) yn adran 22B. Maeʼr rhain yn nodiʼr trefniadau newydd ar gyfer llunio rhestrau prisioʼr dreth gyngor ar ôl 2029:
mae adran 22B(3A) yn darparu bod rhaid i swyddog rhestru mewn awdurdod bilio yng Nghymru lunio rhestr newydd ar 1 Ebrill yn y flwyddyn ailbrisio;
mae adran 22B(3B) yn pennu 2028 a phob pumed flwyddyn wedyn yn flwyddyn ailbrisio;
mae adran 22B(3C) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru drwy orchymyn i ddiwygio blwyddyn ailbrisio, neuʼr cyfnod rhwng blynyddoedd prisio.
104.Mae adran 20(1)(d) oʼr Ddeddf yn mewnosod is-adran (7A) yn adran 22B o Ddeddf 1992. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, mewn gorchymyn, y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i swyddogion rhestru anfon copi oʼr rhestr brisio arfaethedig at eu hawdurdodau bilio. Os na fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn oʼr fath, y dyddiad cau fydd 1 Medi cyn y dyddiad y maeʼr rhestr i gael ei llunio arno.
105.Mae adran 20(1)(e), (f) ac (g) yn newid y system o adneuo rhestrau prisio yng Nghymru, ar gyfer rhestrau yn y dyfodol, drwy ddatgymhwyso adran 22B(10) o Ddeddf 1992 a mewnosod is-adrannau newydd (8) a (10A). Ar ôl y diwygiad, rhaid i awdurdod bilio yng Nghymru:
gadw, yn electronig, gopi o restr a gynigir gan swyddog prisio a chymryd camau i roi hysbysiad ohoni;
adneuo, yn ei brif swyddfa, gopi o restr a lunnir o dan adran 22B(3);
cadw, yn electronig, gopi o restr a lunnir o dan adran 22B(3A).
106.Mae is-adran (10) o adran 22B o Ddeddf 1992 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwygiad mewn perthynas ag unrhyw restr ar gyfer Cymru a adneuwyd cyn i adran 19 ddod i rym (yn sgil adrannau 34 a 37 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019). Mae hyn yn golygu bod cyfeiriadau at restr a adneuwyd o dan is-adran (10) (“a list deposited under subsection (10)”) syʼn ymddangos mewn lleoedd eraill yn Neddf 1992 (er enghraifft, yn adran 24(9)) yn parhau i gynnwys rhestrau ar gyfer Cymru a adneuwyd yn flaenorol o dan yr is-adran honno.