Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024

Rhan 1 – Gweinyddu a Chofrestru Etholiadol

3.Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau ynghylch gweinyddu etholiadol a chofrestru etholiadol mewn cysylltiad ag etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, ac mae wedi ei rhannu’n 5 pennod.

4.Mae Pennod 1 yn ymwneud â chydlynu gwaith gweinyddu etholiadol ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a refferenda datganoledig. Mae’r Bennod yn rhoi swyddogaethau newydd i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“y Comisiwn”) ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol (“y Bwrdd”) i gyflawni’r swyddogaethau.

5.Mae Pennod 2 yn gosod dyletswydd ar swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru i gofrestru personau fel etholwyr llywodraeth leol heb i gais i gofrestru gael ei wneud, os ydynt wedi eu bodloni bod gan y personau hawlogaeth i fod yn gofrestredig. Mae cofrestru fel etholwr llywodraeth leol yn rhoi hawlogaeth i berson i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru yn ogystal ag mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae’r Bennod hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefn i swyddogion cofrestru etholiadol roi hysbysiad i bobl o’u bwriad i’w cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol ac mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd i gofrestru yn gymwys.

6.Mae Pennod 3 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i awdurdodi peilota diwygiadau i’r gyfraith sy’n ymwneud ag etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau lleol yng Nghymru. Mae’r Bennod yn gwneud darpariaeth i awdurdodau cyhoeddus sydd â swyddogaethau sy’n ymwneud â gweinyddu etholiadol wneud cynigion i Weinidogion Cymru ar gyfer peilotau etholiadol, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwerthuso cynigion ar gyfer peilotau ac ar gyfer gwerthuso’r peilotau, ac mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i wneud newidiadau parhaol i’r gyfraith yn dilyn peilotau.

7.Mae Pennod 4 yn cynnwys darpariaeth ynghylch materion hygyrchedd ac amrywiaeth sy’n ymwneud ag etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’n cynnwys darpariaeth—

  • sy’n rhoi dyletswyddau ar y Comisiwn Etholiadol i adrodd ar weinyddu etholiadau cyffredin llywodraeth leol yng Nghymru (mae eisoes yn ofynnol gan adran 5 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (y cyfeirir ati fel “DPGER” o hyn ymlaen) i’r Comisiwn Etholiadol adrodd ar etholiadau Senedd Cymru) ac i gynnwys yn ei adroddiadau ar etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ddisgrifiad o’r camau a gymerwyd gan swyddogion canlyniadau i ddarparu cymorth i bleidleiswyr anabl;

  • sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i awdurdodau lleol (yn lle pŵer i wneud rheoliadau) sy’n pennu gofynion ynghylch yr arolwg o ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ei gynnal gan adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;

  • sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer sefydlu a gweithredu platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig, sy’n gyfleuster electronig (megis gwefan neu gymhwysiad meddalwedd) er mwyn darparu gwybodaeth gyfredol sy’n ymwneud â’r etholiadau i bleidleiswyr yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru;

  • sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau i hybu amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n ceisio cael eu hethol yn Aelodau o’r Senedd neu’n gynghorwyr mewn llywodraeth leol yng Nghymru;

  • ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig yn Senedd Cymru neu mewn llywodraeth leol yng Nghymru;

  • sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau sydd wedi eu hanelu at annog pleidiau gwleidyddol cofrestredig i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ynghylch eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd ac i bleidiau o’r fath ddatblygu a chyhoeddi strategaethau sydd wedi eu hanelu at hybu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr ar gyfer pob etholiad Cymreig.

8.Mae Pennod 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch rheoleiddio treuliau yr eir iddynt mewn ymgyrchoedd etholiad yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth—

  • ynghylch trin gwariant ymgyrchu tybiannol (defnydd o eiddo etc. a ddarperir yn ddi-dâl neu am bris sy’n is na’r gwerth ar y farchnad);

  • sy’n darparu ar gyfer cod ymarfer ar dreuliau etholiad;

  • sy’n awdurdodi talu treuliau drwy bersonau heblaw asiantiaid etholiad;

  • ar gyfer cyfyngiadau ar ba drydydd partïon a gaiff fynd i wariant a reolir;

  • ar gyfer cod ymarfer ar wariant a reolir mewn ymgyrch etholiad.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources